Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Newid plastigion gwastraff yn gyfansoddion gwerthfawr iawn ar gyfer y diwydiannau ynni.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect gwyddoniaeth hynod flaengar sy’n newid plastigion gwastraff yn gyfansoddion gwerthfawr iawn ar gyfer y diwydiannau ynni.
Bydd y Llywodraeth yn buddsoddi mewn prosiect uwchraddio plastigion ym Mhrifysgol Abertawe a allai greu swyddi hyfedr yng Nghymru.
Mae gwyddonwyr yn tynnu’r atomau carbon a geir mewn plastigion gwastraff a’u troi’n nanodiwbiau y mae modd eu defnyddio i drosglwyddo trydan.
Maen nhw’n cynhyrchu ceblau trydan plastig heb y wifren gopr y tu mewn iddyn nhw a gellir eu defnyddio yn y byd adeiladu preswyl a diwydiannol.
Mae’r Uwch Ddarlithydd Dr Alvin Orbaek White, a recriwtiwyd i Gymru fel rhan o raglen Sêr Disglair Cymru o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn Gymrawd Sêr Cymru II, yn arwain grŵp ymchwil Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) Prifysgol Abertawe.
Mae Dr Orbaek White eisoes wedi datblygu gwifren drydan wedi’i gwneud o nanodiwbiau carbon sy’n deillio o blastigion gwastraff ac sydd â’r gallu i drosglwyddo trydan a data.
Mae ei geblau yn trosglwyddo cerddoriaeth sielo Bach a chawsant eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Ar hyn o bryd maen nhw’n cael eu harddangos yn y Llyfrgell Deunyddiau sy’n rhan o Ganolfan Material ConneXion yn Efrog Newydd.
Gweledigaeth Dr Orbaek White yw gwella cynaliadwyedd ynni byd-eang drwy gynhyrchu deunyddiau trosglwyddo trydan o hirbell o blastigion gwastraff.
Meddai Dr Orbaek White, yr oedd ei gyhoeddiad gwyddonol cyntaf yn ymwneud â gweddnewid deunydd plastig du a brynodd mewn archfarchnad leol:
“Mae modd troi plastigion yn ddeunyddiau defnyddiol megis nanodiwbiau carbon gydag ystod hir o blastigion. Mae ein tîm wedi ehangu’r rhestr o blastigion sy’n broblemus i gynnwys PVdC sef polyfinyl clorid, polyesterau a pholypropylen i enwi ond ychydig.”
Mae hyn yn newyddion da ar gyfer cyflogaeth a hefyd i fyd natur gan fod plastigion gwastraff yn pentyrru mewn safleoedd tirlenwi ac yn llygru moroedd.
Mae TrimTabs, cwmni peirianneg o Abertawe sy’n creu atebion technoleg gyda’r bwriad o gael effaith gadarnhaol yn fyd-eang, yn cydweithredu ar y prosiect ac medden nhw: “Rydyn ni’n llawn cyffro am yr ymchwil hon. Mae angen y math hwn o wyddoniaeth sylfaenol er mwyn torri’n rhydd o’r ddolen ailgylchu bresennol.”
Aeth Dr Orbaek White yn ei flaen, gan esbonio:
“Bydd y grant hwn yn cael ei ddefnyddio i brofi ystod eang o blastigion sy’n broblemus ar gyfer technolegau ailgylchu traddodiadol. Y peth pwysig yw chwilio am ateb o fewn y broblem ei hun.
Adnodd carbon a hydrogen yw plastigion, felly y cam allweddol yw datblygu dulliau mewn cemeg a pheirianneg sy’n troi’r carbon a’r hydrogen yn ddeunyddiau mwy defnyddiol; yn yr achos hwn maen nhw’n creu graffen, ffibrau carbon wedi’u tyfu o anwedd a nanodiwbiau carbon.
Bydd y grant cyfalaf hwn yn cael ei ddefnyddio i brofi nodweddion trydanol a ffisegol gwifrau nanodiwbiau carbon, prynu cyfarpar profi i ofalu bod deunyddiau o´r safon uchaf yn cael eu cynhyrchu o’r plastigion a gwella proses ailgylchu dolen gaeedig yn gemegol. Arwydd yw’r grant hwn o strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru i ailgylchu plastigion mewn ffordd gylchol.”
Meddai Cyfarwyddwr ESRI yr Athro Andrew Barron:
“Rwy’n credu bod y prosiect hwn yn ffordd unigryw o newid y drafodaeth o blastig sy’n wastraff i wastraff sy’n blastig yn cael ei ddefnyddio yn lle adnoddau hydrocarbon.”
Meddai’r Athro Cyswllt Desiree Plata o Sefydliad Technoleg Massachusetts:
“Mae ymchwil Dr Orbaek White yn mynd i’r afael â dwy broblem bwysig sy’n wynebu’r amgylchedd sef newid i adnoddau ynni mwy effeithiol sy’n lanach a rhoi bywyd newydd i blastigion sy’n wastraff gan eu cadw i ffwrdd o’r tir ac allan o’r môr. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o’r dyfodol mae pob un ohonon ni’n dyheu amdano – un lle bydd deunyddiau gwastraff yn cael eu hailddiffinio’n adnodd!
Dyna chi uchelgais ardderchog sef cymryd rhywbeth yr arferid ei luchio yn y bin ysbwriel ac yn lle hynny ei droi’n gefnder y diemwnt a chanddo nodweddion mwy eithriadol byth hyd yn oed - nanoddeunyddiau graffitig!
Her o’r mwyaf sy’n wynebu’r dasg o adfer plastigion yw bod rhaid eu lawrgylchu’n aml; mae’r gwaith newydd hwn yn addo llwybr tuag at uwchgylchu deunyddiau gwastraff yn uwch ddyfeisiau electronig sy’n ychwanegu gwerth. Dyma freuddwyd yr economi gylchol, a dylai’r ymchwil arfaethedig ein helpu i gael y maen i’r wal yn hynny o beth,”
Defnyddir nanoddeunyddiau sy’n seiliedig ar garbon mewn amrywiaeth o ffyrdd ledled y byd, ond yn aml tanwydd ffosiledig yw’r ffynhonnell ar eu cyfer. Mae’n gyffrous meddwl y byddan nhw hwyrach un diwrnod yn deillio o blastigion gwastraff, gan roi bywyd newydd i’r rhain fel uwch ddeunyddiau.”
Cronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru fydd yn rhoi’r grant sy’n werth £270,000.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“Ers y Chwyldro Diwydiannol, mae Cymru yn aml iawn wedi bod yn fagwrfa technolegau arloesol sydd wedi newid cwrs y byd - ac rydyn ni eisiau gofalu bod yr hanes cadarn hwnnw yn parhau wrth inni ddechrau brwydro yn erbyn effaith yr argyfwng yn yr hinsawdd a llywio’r wlad ar ei llwybr tuag at economi gylchol.
Bydd technolegau newydd fel y rhain yn ein helpu ni i leihau gwastraff ac i barhau i ddefnyddio adnoddau cyhyd â phosibl. Mae hyn yn rhan allweddol o’r camau mae angen eu cymryd ym maes newid yn yr hinsawdd ac mae hefyd yn dod â chryn gyfleoedd economaidd fel rhan o’r newid tuag at economi isel ei charbon.”