Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Menywod beichiog sy'n atal meddyginiaeth asthma mewn perygl o eni’n gynamserol
Awgryma astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe bod menywod sy’n rhoi’r gorau i gymryd eu meddyginiaethau asthma yn ystod beichiogrwydd o risg o eni’n gynamserol ac yn llai tebygol o fwydo eu babanod ar y fron.
Mae llawer o fenywod yn y DU yn cael meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gyfer asthma cyn neu yn ystod beichiogrwydd - oddeutu 11.8% o’r boblogaeth. Er hynny, mae cofnodion presgripsiwn yn dangos bod 28.3% o fenywod heb presgripsiynau yn ystod beichiogrwydd a noda hyn eu bod yn atal eu meddyginiaeth yn ystod y cyfnod.
Mae’r astudiaeth, sydd wedi ei chyhoeddi yng nghylchgrawn PLOS ONE, wedi darganfod bod menywod sydd wedi atal eu meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd mewn mwy o berygl o eni’n gynamserol, ond roedd menywod a barhaodd â'u presgripsiynau mewn risg is.
Dengys y data nad oedd risg uwch o eni’n gynamserol i fenywod a ragnodwyd corticosteroidau a anadlwyd yn unig, sy'n dynodi asthma wedi'i reoli'n dda. Archwiliodd yr ymchwilwyr geni’n fawr hefyd ac er bod y niferoedd yn rhy isel i'w dadansoddi'n llawn, nodwyd tuedd debyg.
Defnyddiodd y tîm ymchwil ddata o'r Secure Anonymised Information Linkage (SAIL), system amddiffyn preifatrwydd o'r radd flaenaf, a gedwir ym Mhrifysgol Abertawe ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r seilwaith ymchwil cenedlaethol.
Meddai’r Athro Sue Jordan wnaeth arwain yr astudiaeth: “I roi hyn yn ei gyd-destun, roeddwn yn ymwybodol o'r ymchwil bresennol fod gan fabanod sy'n cael eu geni cyn beichiogrwydd 32 wythnos risg o 6.2% o barlys yr ymennydd a risg o 40% o ddysplasia bron-ysgyfeiniol, ac mae gan fabanod a anwyd cyn 37 wythnos 1% risg o barlys yr ymennydd a 40% o risg o nam gwybyddol.
“Felly mae’n debygol bod menywod sy’n rhoi’r gorau i feddyginiaeth asthma yn ystod beichiogrwydd, yn aml heb gyngor meddygol, mewn mwy o berygl o gael babanod cyn amser a fyddai wedyn yn agored i’r cyflyrau meddygol cysylltiedig hyn. Mae'r data hwn, ynghyd â'r data ar gyfraddau bwydo ar y fron is, yn ei gwneud yn glir bod anghenion nas diwallwyd ymhlith menywod beichiog ag asthma.
“Datrysiad da fyddai rhaglenni cofnodion electronig gofal sylfaenol i dynnu sylw gweithwyr iechyd proffesiynol at fenywod sy'n gadael misoedd rhwng presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau asthma. Gellid cynnig monitro agosach, cefnogaeth wedi'i thargedu a rheoli asthma gweithredol i'r menywod hyn cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, a fyddai'n fwy tebygol o arwain at ganlyniadau llawer mwy cadarnhaol. "