Bydd cleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon ynghyd â diabetes yn gallu gwneud eu hymarferion adfer yn fwy diogel, diolch i gyfarwyddyd cyntaf y byd ar y pwnc, a gyhoeddwyd gan academydd o Brifysgol Abertawe ac arbenigwyr rhyngwladol eraill.
Bydd y cyfarwyddyd yn adnodd allweddol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel y gallant helpu i adfer iechyd nifer cynyddol o gleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon ynghyd â diabetes.
Lluniwyd y cyfarwyddyd, sydd wedi cael ei gymeradwyo gan sefydliadau diabetes rhyngwladol, gan dîm a oedd yn cynnwys Dr Richard Bracken o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, y Coleg Peirianneg a'r Grŵp Ymchwil Diabetes yn yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ymarfer corff a lefelau gweithgarwch gwell yn ganolog i'r gwaith o adfer y galon, sy'n ceisio hybu iechyd a ffitrwydd pobl sy’n dioddef o broblemau ar y galon.
Ar hyn o bryd, mae diabetes yn effeithio ar oddeutu 25% o'r bobl sy'n cael triniaeth i adfer y galon yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Mae'r ganran hon yn cynyddu, yn bennaf oherwydd bod ffactorau risg cyffredin i glefydau cardiofasgwlaidd a diabetes, yn enwedig gordewdra a diffyg ymarfer corff.
Mae ymarfer corff yn allweddol i'r broses o adfer iechyd cleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon, ond mae llawer ohonynt yn poeni y bydd ymarfer corff yn eu peryglu, sy'n rhwystr mawr.
Fodd bynnag, mae pryderon ychwanegol yn achos cleifion sydd hefyd yn ymdopi â diabetes, yn enwedig ynghylch lefelau siwgr gwaed is sy'n achosi hypoglycaemia. Mae ofnau cael pwl “hypo”, a all arwain at benysgafnder, dryswch, gorbryder a llawer o symptomau eraill, yn un o'r prif bethau sy'n rhwystro pobl â diabetes rhag cynnwys ymarfer corff yn eu bywyd pob dydd.
Mae hyn yn helpu i esbonio pam mae cleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon a diabetes yn llai tebygol o ymgymryd â rhaglen i adfer y galon nac i barhau â rhaglen o'r fath na phobl nad ydynt yn dioddef o ddiabetes.
Gall y cyfarwyddyd newydd wneud gwahaniaeth yn hyn o beth. Mae'n canolbwyntio ar reoli lefelau siwgr gwaed yn ystod gweithgareddau adfer, er mwyn lleihau'r risg y ceir problemau yn yr agwedd honno yn ystod ymarfer corff. Y nod yw hybu hyder cleifion â diabetes, gan sicrhau eu bod yn fwy tebygol o wneud yr ymarferion adfer ac yn llai tebygol o roi'r gorau iddynt, gan wella eu hiechyd cyffredinol.
Mae'r cyfarwyddyd newydd yn rhoi cyngor clir i weithwyr iechyd proffesiynol, gan ymdrin â materion fel y canlynol:
• Y ffyrdd y gall meddyginiaethau y mae cleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon a diabetes yn eu defnyddio ryngweithio â'i gilydd
• Y mathau gorau o ymarfer corff i'r cleifion hyn, y dwyster delfrydol, a'r adegau mwyaf diogel yn ystod y dydd
• Y gofynion gwahanol i gleifion â diabetes math 1 a math 2
Cafodd y cyfarwyddyd, a geir mewn datganiad sefyllfa, ei gymeradwyo gan gymdeithasau atal clefydau cardiofasgwlaidd ac adfer cleifion Prydain a Chanada, y Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Atal Clefydau Cardiofasgwlaidd ac Adfer Cleifion, a Chymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain.
Meddai un o'r awduron, Dr Richard Bracken, sy'n arbenigwr diabetes o'r tîm ymchwil A-STEM yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe ac sy'n arwain y grŵp ymchwil i ffyrdd o fyw yn y Grŵp Ymchwil Diabetes yn yr Ysgol Feddygaeth:
“Mae ymarfer corff diogel yn hanfodol er mwyn gwella iechyd cleifion sy'n dioddef o broblemau cardiofasgwlaidd.
Mae nifer cynyddol o'r cleifion hyn hefyd yn dioddef o ddiabetes, felly mae'n hanfodol bod rhaglenni adfer yn diwallu eu hanghenion.
Bydd y cyfarwyddyd arbenigol hwn yn golygu y gall gweithwyr iechyd proffesiynol lunio rhaglen adfer i roi'r hyder angenrheidiol i gleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon ddechrau'r rhaglen a dal ati, gan hybu eu hiechyd cyffredinol.”
Cyhoeddwyd y cyfarwyddyd yn British Journal of Sports Medicine.