Mae ffrindiau di-rif Hywel Francis – yr addysgwr oedolion, yr hanesydd, yr ymgyrchydd a'r seneddwr – ym Mhrifysgol Abertawe a'r tu hwnt yn galaru ar ôl iddo farw'n 74 oed.
Ac yntau'n ŵr a raddiodd o Abertawe, ac a fu'n Athro Emeritws Addysg Oedolion, yn Bennaeth yr Adran Addysg Barhaus Oedolion, yn Aelod Seneddol dros Aberafan o 2001 i 2015, ac yn fwy diweddar a fu'n gyfrifol am ddatblygu gweledigaeth ddinesig y brifysgol, Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton, ynghyd â dathliadau'r canmlwyddiant, roedd Hywel Francis yn ymgorfforiad gwirioneddol anhygoel o werthoedd a hanes De Cymru, yr ardal lle y'i magwyd ac yr aeth ati i'w chynrychioli'n ddiflino. Bydd cyfraniadau a chyflawniadau'r Athro Francis mewn sawl maes yn sicr o gael eu clodfori'n deilwng, ond ar hyn o bryd rydym yn talu teyrnged i'w rôl egnïol yn ein prifysgol am fwy na hanner can mlynedd ac i'w ddylanwad ar gynifer o fywydau.
Ganwyd Hywel yn Onllwyn yng Nghwm Dulais, yn fab i Dai Francis, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Glowyr De Cymru, ac fe'i magwyd yn ddiweddarach yng Nghaerdydd. Ar ôl graddio o Abertawe gyda BA mewn Hanes ym 1968, ymrwymodd i'w waith fel ymchwilydd hanesyddol, trefnydd undebau llafur, addysgwr oedolion ac ymgyrchydd gwleidyddol a chymdeithasol. Roedd cysondeb ac uniondeb yn gysylltiedig â'r holl weithgareddau hyn.
Cyhoeddodd The Fed: A History of the South Wales Miners in the Twentieth Century (a ysgrifennwyd ar y cyd â'i ffrind gydol oes Dai Smith, 1980) cyn cyhoeddi ei PhD, yn seiliedig ar gyfweliadau hanes llafar, sef Miners against Fascism: Wales and the Spanish Civil War (1984). Roedd llif o gyhoeddiadau eraill yn cynnwys Do Miners Read Dickens?: The History and Progress of the South Wales Miners' Library 1973-2013 (a ysgrifennwyd ar y cyd â'i ffrind a'i gydweithiwr Siân Williams, 2013), llyfr i ddathlu canmlwyddiant Clwb Rygbi Blaendulais (1997), History on Our Side: Wales and the 1984-5 Miners’ Strike (2009; wedi'i ailargraffu yn 2015) a Stories of Solidarity (2018).
Roedd Hywel yn rhan o grŵp nodedig o ysgolheigion ac ymgyrchwyr radicalaidd a sefydlodd Llafur, cymdeithas a chyfnodolyn hanes llafur Cymru, ym 1970. Dros y tri degawd nesaf, drwy geisio'n ddiwyro am gyllid a grantiau, llwyddodd i sefydlu Prosiect Hanes Maes Glo De Cymru a'r hyn a'i dilynodd, a greodd Archif y Maes Glo (sydd bellach yn rhan o Archifau Richard Burton y brifysgol) ac a sefydlodd Lyfrgell Glowyr De Cymru.
Ei ddyfalbarhad, ei ddealltwriaeth wleidyddol a'i ddawn am gael gafael ar gyllid oedd y sbardun a arweiniodd at dwf sydyn Addysg Barhaus Oedolion yng Ngholeg Prifysgol Abertawe (fel y bu bryd hynny). Mae gwaith arloesol yr Adran Addysg Barhaus Oedolion wedi bod yn hynod ddylanwadol: mae sawl cenhedlaeth o ddynion a menywod o bob oedran ac amgylchiadau, heb gymwysterau ffurfiol yn aml, wedi gallu cael gafael ar addysg uwch yn rhad mewn lleoliadau cymunedol megis Gweithdy DOVE ym Manwen, a sefydlwyd gan ei wraig, Mair, ac eraill.
Gellir gweld cryn dipyn o'r gwaith hwn, a chryn dipyn o'r dyn ei hun, yn ei ddisgrifiad ei hun ar gyfer canmlwyddiant y brifysgol. Ymysg nodweddion Hywel fel addysgwr oedolion oedd caredigrwydd personol, mentora unigol uniongyrchol, cof anhygoel am unigolion a'u cysylltiadau, ymrwymiad i gyfleoedd a chefnogaeth sefydliadol, cyfeillach ac ymdeimlad o fentro ar y cyd ym maes dysgu gydol oes – ac mae'r rhain yn esbonio i raddau helaeth pam mae cynifer o bobl yn galaru amdano heddiw.
Ar hyd ei oes, roedd gwreiddiau Hywel yn ddwfn yng nghymuned Gymraeg, gomiwnyddol, werinol ei fagwraeth. Ar ôl ambell dro gwahanol, aeth ef a Mair ati i fagu eu teulu yng Nghwm Dulais a buont fyw yno yng nghanol y gymuned tan ei farwolaeth sydyn. Mae ei frwdfrydedd dros y lle, ei bobl a'i hanes yn disgleirio yn ei waith ysgrifenedig, megis yr ysgrif My Community, My Valley: Onllwyn, Cwm Dulais, o 1994, yn yr un modd ag y gwnaeth bob amser wrth iddo siarad ac adrodd straeon.
Roedd ei reddfau fel hanesydd yn ddwfn: roedd yn ddyddiadurwr, yn archifydd, yn ohebydd ac yn ffotograffydd dyfal, ac yn anaml y byddai heb lyfr nodiadau na chysylltiad newydd diddorol. Er enghraifft, diolch i Hywel y mae haelioni teulu Richard Burton wedi bod o fudd mawr i'r brifysgol.
Roedd greddfau Hywel fel unigolyn yn wirioneddol gymeradwy wrth iddo gyfrannu'n ddwfn at faterion cymdeithasol megis etifeddiaeth y GIG, hawliau gofalwyr, a gofal diwedd oes. Ar ei gyffes ei hun, roedd Hywel yn obsesiynol, a hynny'n gwbl deg, ac nid aberthodd unrhyw gyfle i hyrwyddo achos Llyfrgell y Glowyr, yn fwyaf diweddar mewn partneriaeth â Chastell-nedd Port Talbot. Ac ni chollodd olwg ar y ddelfryd o Brifysgol y Werin nac ar ei weledigaeth o bartneriaeth ddemocrataidd rhwng y brifysgol a'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Uwchben y gymuned hon a'r brifysgol hon, gwae ef a wnaeth erioed anghofio bod lleoliad Campws y Bae yn etholaeth Aberafan!
Roedd llawer o agweddau'n perthyn i Hywel Francis – ei gyfeillgarwch, ei rôl yn Streic y Glowyr 1984-5, ei urddo i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol, ei werthfawrogiad o fywyd yn Llundain, Ffrainc a'r Creunant, ei allu i werthfawrogi paentiad a'i gysylltiadau ag Appalachia, ymysg llawer o bethau eraill – ond yn 2018 gwnaeth grynhoi hanfod yr hyn y credai ynddo ac y gweithredai drosto drwy'r slogan ‘tosturi ac undod’, yn ogystal â diolch i'w deulu am addysgu'r gwerthoedd hynny iddo. Geiriau braf ar gyfer beddargraff unrhyw un.
Yr Athro John Spurr