Fel rhan o drefniant cydweithio rhwng ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a’r cynhyrchydd sment, Hanson UK, mae uned arddangos newydd ar gyfer hydrogen gwyrdd wedi cael ei gosod yng ngwaith Regen GGBS y cwmni ym Mhort Talbot, De Cymru.
Mae’r uned arddangos, sy’n cynhyrchu hydrogen gwyrdd trwy ynni adnewyddadwy, wedi cael ei datblygu’n rhan o’r prosiect £9.2m Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE), a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o arddangos technoleg newydd ar raddfa ddiwydiannol.
Mae cynhyrchu sment yn ynni-ddwys oherwydd y tymheredd uchel sy’n ofynnol i gynhyrchu clincer – prif elfen sment Portland. Mae gwaith Hanson ym Mhort Talbot yn cynhyrchu Regen GGBS, sorod ffwrnais chwyth gronynnog mâl, a ddefnyddir yn lle hyd at 80 y cant o’r sment mewn concrid. Er bod Regen hefyd yn gynnyrch ynni-ddwys, sy’n defnyddio llawer iawn o nwy naturiol a thrydan, mae ei ôl troed carbon yn rhyw ddegfed ran o sment Portland. Nod yr uned arddangos yw cyfnewid peth o’r nwy naturiol a ddefnyddir yn y gwaith am hydrogen gwyrdd, sy’n cael ei ystyried yn ffynhonnell ynni lân, gan mai dŵr yn unig sy’n cael ei allyrru wrth ei losgi, a bod hynny’n lleihau’r allyriadau CO2 o’r llosgwr ac yn lleihau ôl troed carbon Regen yn fwy fyth.
Mae’r uned arddangos yn cynhyrchu hydrogen yng ngwaith Hanson ym Mhort Talbot trwy electrolysis. Cynhyrchir ynni adnewyddadwy o’r gwynt a’r haul ar y safle a chyfeirio’r ynni i mewn i’r electroleiddiwr neu’r ddyfais hollti dŵr. Gall yr electroleiddiwr ddefnyddio’r ynni hwn yn effeithlon i rannu dŵr yn hydrogen ac ocsigen. Yna caiff yr hydrogen ei drosglwyddo i’r llosgwr i gyfoethogi’r gymysgedd hylosgi, gan arbed yr allyriadau carbon a ddaw o losgi nwy naturiol.
Dr Charlie Dunnill a’i dîm yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) sy’n arwain y gwaith hwn.
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r staff yn Hanson ac mae’n rhyfeddol gweld technoleg o’n labordai yn rhyngweithio â diwydiant lleol mewn amser go iawn, ac yn wir yn cynhyrchu hydrogen sy’n gallu cael ei losgi yn lle nwy naturiol, er mwyn lleihau eu hallyriadau tŷ gwydr. Gweithgynhyrchu sment yw un o’r diwydiannau dwysaf o ran ynni a charbon, felly mae’n lle perffaith i ddechrau cael effaith o ran lleihau carbon.”
Amcangyfrifir mai sment sy’n gyfrifol am ychydig o dan 1.5 y cant o allyriadau CO2 y Deyrnas Unedig. Gan fod disgwyl i’r galw am sment a chynnyrch yn lle sment gynyddu 25% erbyn 2030, mae ymchwilwyr a diwydiant yn gweithio’n galed i leihau lefel yr allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’i gynhyrchu.
Bydd data o’r unedau a osodwyd yng ngwaith Hanson ym Mhort Talbot yn cael eu monitro am gyfnod o amser i gyflawni’r effeithlonrwydd uchaf posibl, a hefyd i amlygu unrhyw welliannau posibl. Mae cael mynediad i gyfleusterau i godi’r unedau arddangos i raddfa uwch yn rhan hanfodol o’r prosiect, ac mae Hanson UK wedi bod yn gyfranogwr brwd o’r cychwyn.
“Fel cwmni rydyn ni’n bendant o ddifri ynghylch ein hymrwymiad i gynaliadwyedd,” meddai Marian Garfield, pennaeth cynaliadwyedd yn Hanson UK. “Yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni eisoes wedi cyflawni gostyngiad o 30 y cant yn ein hallyriadau CO2 ar draws y busnes ers 1990 ac mae gennym ni darged newydd uchelgeisiol o ostyngiad o 50 y cant erbyn 2025 o’r un gwaelodlin.
“Rydyn ni’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon yn ein gweithfeydd sment a Regen, felly rydyn ni wrth ein bodd yn ymwneud â’r prosiect ymchwil arloesol hwn.”
Nawr bod yr uned wedi cael ei chyflwyno’n llwyddiannus yng ngwaith Regen GGBS Hanson, mae modd rhoi unedau pellach yn eu lle ar safleoedd ychwanegol. Mae’r tîm hefyd yn trafod potensial gosod unedau ar safleoedd eraill gyda diwydiannau trwm eraill.
Crynhôdd yr Athro Andrew Barron, Prif Ymchwilydd prosiect RICE, y cyflawniad, “wrth i ni anelu at nod sero net y Deyrnas Unedig erbyn 2050 mae’n bwysig sicrhau bod gan ddiwydiant lwybrau y mae modd eu dringo i gyrraedd y nod hwnnw. Dyna’n union yw bwriad prosiect RICE, gan nad oes amser ar gael i greu rhagor o brosiectau ymchwil, mae’n bryd i ni weithredu”.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rwy’n falch iawn o weld uchelgais a dyfeisgarwch y gwaith mae Hanson UK a RICE yn ei wneud yng ngwaith y cwmni ym Mhort Talbot.
“Ymdrechion arloesol a chydweithredol o’r math hwn sy’n ein galluogi i weithio gyda diwydiannau sydd ag allyriadau uchel i gael hyd i ffyrdd i’w hatal rhag cyfrannu at gynhesu byd-eang – nid yma yng Nghymru yn unig ond ar draws y byd. Roedd Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol cyntaf, a thrwy brosiectau fel y rhain gallwn ni chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol gwyrdd sy’n digwydd heddiw.”
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.