Bydd Prifysgol Abertawe'n neilltuo cyllid ychwanegol gwerth £1.5 miliwn i dair menter a fydd yn helpu i gynnal gallu a hybu adferiad economaidd ehangach yng nghyd-destun effaith pandemig Covid-19.
Mae cyllid y Gronfa Adfer a Buddsoddi mewn Addysg Uwch, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei ddyrannu drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW). Bwriedir i'r gronfa helpu prifysgolion i gadw swyddi ym meysydd addysgu, ymchwil a gwasanaethau myfyrwyr, ynghyd â buddsoddi mewn prosiectau i helpu i adfer yr economi yng Nghymru.
Mae cais llwyddiannus Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid i'w helpu o ran ei chynaliadwyedd, ei chenhadaeth ddinesig a'i gwaith gyda grwpiau amrywiol o fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai sy'n cael addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, neu'r rhai sy'n dod o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes addysg uwch.
Yn ogystal, gwnaeth y brifysgol arloesi mewn amrywiaeth eang o feysydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, megis cefnogi dysgu cyfunol, gan gynnwys dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhoi cymorth i ymchwilwyr gyrfa gynnar.
Dyma'r tair menter sydd wedi sicrhau cyllid:
- Mynediad i fyfyrwyr ym mis Ionawr: cryfhau hyblygrwydd y brifysgol wrth gyflwyno adeg ychwanegol i ddechrau ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ym mis Ionawr. Mae'r hyblygrwydd hwn hefyd yn sicrhau gwell profiad dysgu ac addysgu a phrofiad myfyrwyr ac yn caniatáu i fwy o fyfyrwyr astudio yn y brifysgol.
- Rhaglen SEACAMS2: cefnogi'r rhaglen ohiriedig SEACAMS2, er mwyn sicrhau ei bod hi'n cyflwyno cyfleoedd o ran carbon isel, ynni a'r amgylchedd yn rhanbarthau cydgyfeirio Cymru.
- Isadeiledd digidol: cefnogi ffyrdd newydd o weithio a chyflwyno dysgu ar-lein a dysgu cyfunol i fyfyrwyr.
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Nid yw'r buddsoddiad hwn yn ateb byrdymor i heriau penodol Covid-19 yn unig. Mae ef hefyd yn rhoi cyfle i'n prifysgol barhau i arloesi ar gyfer y dyfodol, gan gynnig hyblygrwydd a dewisiadau i'n myfyrwyr a sicrhau ein bod yn cael cymaint o effaith ag y bo modd ar ein cymuned ehangach.