Mae 17 o luniau trawiadol, a'r straeon difyr sydd y tu ôl iddynt – darganfyddiad annisgwyl y tu mewn i siarc crocodeil, rhewlifoedd Antarctig sy'n symud, a defnyddio baw pryfed mewn ffyrdd anrhagweledig – wedi cael eu datgelu heddiw fel enillwyr cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2021.
Roedd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r 50 o gynigion a gyflwynwyd, ond roedd sefydliadau eraill hefyd yn fuddugol eleni.
**Oriel â'r cynigion buddugol**
Enillydd y gystadleuaeth gyffredinol yw “Reflecting on the Past: The Display of Egyptian Mummies”. Fe'i cyflwynwyd gan Ken Griffin, o'r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe, a Mohamed Shabib, Cadwraethwr ar gyfer Gweinidogaeth Hynafiaethau'r Aifft.
Mae'r llun yn dangos Mohamed – sy'n byw yn Luxor – yn syllu ar wyneb mymi'r Ffaro Ramesses I (c. 1292-1290 CC) yn Amgueddfa Luxor am y tro cyntaf.
Gwnaeth enillwyr y gystadleuaeth gyffredinol, Ken Griffin a Mohamed Shabib, amlinellu'r meddylfryd y tu ôl i'w cynnig:
“Mae pryder ynghylch arddangos gweddillion dynol wedi cynyddu mewn amgueddfeydd ac ymhlith gweithwyr proffesiynol yn y sector amgueddfeydd dros y degawdau diwethaf.
Mae rhai o'r farn y dylai gweddillion dynol gael eu harddangos yn agored, gan ddadlau eu bod yn gallu cynnig cysylltiad rhwng y gorffennol a'r presennol. Ar y llaw arall, mae rhai'n meddwl bod hynny'n amhriodol, waeth beth yw gwerth gwyddonol yr eitemau i'w harddangos. Pwy ddylai benderfynu a ddylid arddangos gweddillion dynol mewn amgueddfeydd?
Mae “Reflecting on the Past” yn ystyried y cwestiynau hyn. Wrth drafod mymïod yr Hen Aifft, mae'n bwysig ystyried barn pobl yr Aifft heddiw, disgynyddion uniongyrchol y Ffaroaid.”
Mae Ymchwil fel Celf yn agored i ymchwilwyr ym mhob pwnc, gyda phwyslais ar adrodd straeon cudd gwaith ymchwil yn ogystal â chyflwyno delwedd drawiadol.
Mae'n cynnig cyfle i ymchwilwyr ddangos eu creadigrwydd, gan ddatgelu'r straeon cudd, ac mae'n ceisio gwneud gwyddoniaeth a gwaith ymchwil yn fwy dealladwy i bobl. Mae'r prosiect hefyd yn dathlu amrywiaeth, harddwch ac effaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe – sydd ymysg y 30 prifysgol orau am ymchwil.
Dewiswyd 17 o enillwyr gan banel o feirniaid uchel eu bri o EuroScience, y Sefydliad Brenhinol, Nature, y cylchgrawn Research Fortnight, a Digital Science. Roedd enillydd y gystadleuaeth gyffredinol yn un o chwe chynnig buddugol, ac roedd 11 o gystadleuwyr teilwng eraill.
Meddai'r beirniad Gail Cardew, Is-lywydd EuroScience:
“Gan fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, ac effeithiau andwyol Covid-19 ar deuluoedd a chymunedau, mae'r llun hwn yn ein hatgoffa bod portreadu marwolaeth yn fater cymhleth sy'n newid o hyd – o fod yn rhywbeth preifat, o fod yn ystadegau ar graff ac o fod yn arddangosyn mewn amgueddfa.
Mae'r llun hwn yn rhoi cyfle i ni feddwl am y materion sensitif sy'n ymwneud â chyflwyno marwolaeth yn gyhoeddus.”
Y beirniaid:
- Yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor – Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Abertawe
- Gail Cardew, Is-lywydd EuroScience
- Dan Cressey, Dirprwy Olygydd Research Fortnight a Research Europe
- Martin Davies, Rheolwr Rhaglenni Cyhoeddus y Sefydliad Brenhinol
- Flora Graham – Uwch-olygydd Nature Briefing
- Dr Suze Kundu, Pennaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Digital Science
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor – Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe:
“Eleni mae'r cynigion wedi ymdrin â llawer o faterion wrth ddarparu naratif sy'n dangos y profiad o fyw ac ymchwilio yn ystod pandemig byd-eang. Mae'r pynciau'n cynnwys sut mae plâu yn y gorffennol wedi bygwth cau theatrau, pwysigrwydd cysylltedd cymdeithasol, a ffyrdd hanesyddol a chyfoes o gyflwyno marwolaeth yn gyhoeddus. Rydym hefyd yn gweld ymchwilwyr yn darparu cynigion pryfoclyd am faterion o bwys byd-eang megis perthnasoedd amhriodol ar-lein, diogelu ein cynefinoedd arfordirol a'r ffaith bod rhewlifoedd Antarctig anferth yn symud. Mae'r cynigion wedi creu argraff fawr arnaf.
Mae'r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i'n hymchwilwyr ddangos eu gwaith mewn ffordd hollol wahanol ac yn amlygu amrywiaeth y gwaith ymchwil a wneir yma ym Mhrifysgol Abertawe ac mewn sefydliadau eraill.”
Meddai sylfaenydd a chyfarwyddwr y gystadleuaeth, yr Athro Richard Johnston, Athro Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe:
“Mae Ymchwil fel Celf yn rhoi cyfle i ymchwilwyr ddatgelu straeon cudd eu hymchwil i gynulleidfaoedd na fyddent yn eu cyrraedd fel arfer. Gall hyn ddangos eu stori bersonol, eu dynoliaeth, eu hysbrydoliaeth a'u hemosiynau.
Gall hefyd fod yn ffordd o gyflwyno eu proses ymchwil a sut brofiad yw bod yn ymchwilydd, gan annog deialog a dileu rhwystrau rhwng prifysgolion a'r byd ehangach.”