Bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn cyflwyno Newid Popeth, cyfres o drafodaethau a digwyddiadau a fydd yn archwilio rôl creadigrwydd, meddylfryd addasol ac adrodd straeon wrth oresgyn heriau’r argyfwng hinsawdd.
Gan gynnwys amrywiaeth o gyfranogwyr rhyngwladol o'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, yn ogystal â'r gwyddorau, y gyfraith, a meysydd busnes, polisïau cyhoeddus, ymgyrchu ac addysg, mae Newid Popeth yn fforwm unigryw ar gyfer trafodaethau a syniadau newydd, wedi'u hysgogi gan rai o gwestiynau mwyaf dybryd ein hoes.
Bydd y rhaglen yn para am 10 diwrnod, gan ddechrau nos Iau 10 Mehefin gyda Margaret Atwood, y nofelydd, y bardd a'r dyfeisydd sydd wedi ennill Gwobr Booker ddwywaith.
Bydd Sadaf Saaz, Cyfarwyddwr Gŵyl Lenyddol Dhaka a chyd-drefnydd rhaglen Newid Popeth, yn ymuno â Margaret i drafod sut gallai llenorion ac artistiaid gyfrannu at drawsnewid y dychymyg cymunedol, ynghyd â'r angen i ddarganfod ffyrdd newydd o adrodd straeon i ymateb i'n hargyfwng.
Meddai Sadaf: “Mae'r paneli rhyngddisgyblaethol cyfoethog, a fydd yn trafod sut gallwn fynd i'r afael â'r heriau anferth sydd o'n blaenau, yn destun cyffro i ni.
“Bydd artistiaid creadigol a llenorion wrth wraidd y sgyrsiau hyn, gan drafod a dychmygu ffyrdd gwahanol o weld y byd a'n lle ynddo.
Bydd wyth digwyddiad ar-lein yn dilyn, gan ganolbwyntio ar feysydd newid allweddol, sef arian, bwyd, dŵr, ynni, cyfiawnder, y stori a newid ei hun, a byddant i gyd yn cynnwys cymysgedd amrywiol o arbenigwyr rhyngwladol ac arweinwyr syniadau yn eu meysydd, yn ogystal ag ysgogiad artistig.
Mae Newid Popeth yn ddigwyddiad rhithwir am ddim drwy docyn ac mae'n cynnwys sgrindeitlo Saesneg byw.
Ceir tocynnau a rhagor o wybodaeth am Newid Popeth drwy fynd i wefan Canolfan y Celfyddydau Taliesin.
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae'r rhestr drawiadol o gyfranwyr, o feysydd amrywiol a gwledydd ym mhedwar ban byd, yn adlewyrchu cred ein Prifysgol bod yr argyfwng hinsawdd yn gyfrifoldeb cyffredin sy'n mynd y tu hwnt i ddisgyblaethau academaidd ac yn croesi ffiniau cenedlaethol, ac sy'n cynnwys pawb.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am gymorth y British Council ac rydym yn falch o gael cynrychioli Cymru ym maes gweithredu ar yr hinsawdd yn fyd-eang.”
Bydd rhaglen Newid Popeth yn dod i ben nos Sadwrn 19 Mehefin gyda digwyddiad cyweirnod terfynol a gaiff ei gyflwyno a'i gymedroli gan Owen Sheers, Athro Creadigrwydd Prifysgol Abertawe, a chyd-guradur rhaglen Newid Popeth.
Meddai'r Athro Sheers: “Mae angen i ni fynd ati ar frys i ailystyried y ffordd rydym yn trafod, yn dychmygu ac yn adrodd straeon am ein perthnasoedd â byd natur, cenedlaethau'r dyfodol a sut rydym yn byw nawr.
“Rydym yn dod â syniadau a lleisiau ynghyd ar gyfer Newid Popeth sy'n destun cyffro mawr i mi, ac mae’r un peth yn wir am y ffordd y gallai'r digwyddiadau hyn gyfrannu at ddychmygu a chreu dyfodol gwell a mwy disglair i bawb.”
Bydd Simon Armitage, bardd llawryfog presennol y Deyrnas Unedig, a Taylor Edmonds, sydd newydd gael ei phenodi'n fardd preswyl gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru – yr un cyntaf o'i fath yn y byd – yn ymuno â’r Athro Sheers.
Bydd Labordy Ysgrifenwyr Newid Popeth, sydd wedi cael cymorth hael y British Council fel un o’i gomisiynau creadigol ar gyfer yr hinsawdd, hefyd yn rhan o'r rhaglen.
Wedi'i greu mewn partneriaeth â Gŵyl Lenyddol Dhaka a'i roi ar waith drwy raglen digwyddiadau Newid Popeth, bydd y labordy'n gyfrwng i alluogi chwe llenor hynod dalentog o Gymru a Bangladesh i greu naratifau newydd mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Ar ôl cael eu comisiynu, bydd darnau'r llenorion ym meysydd barddoniaeth, ffuglen a'r ddrama yn cael eu harddangos yng Ngŵyl Lenyddol Dhaka ym mis Ionawr 2022. Bydd manylion llawn y llenorion sy'n cymryd rhan a chynhadledd COP 26 yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.