Mae ymchwilwyr o Gymru wedi canfod bod profion iechyd yn helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i oroesi, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o awtistiaeth neu syndrom Down.
Dadansoddodd y tîm, dan arweiniad ymchwilwyr yng Nghanolfan Iechyd y Boblogaeth (NCPHWR) ym Mhrifysgol Abertawe, gofnodion meddygol 26,954 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru rhwng 2005 a 2017.
Mae mwy o bobl sydd ag anabledd dysgu'n dioddef o gyflyrau iechyd megis epilepsi, awtistiaeth a phroblemau deintyddol ac maent yn fwy tebygol o beidio â gwneud digon o ymarfer corff ac o fod dros bwysau, gan ddatblygu diabetes, clefydau cardiofasgwlaidd a chlefydau anadlol o ganlyniad i hynny.
Maent yn fwy tebygol o wynebu tlodi, amodau llety gwael, diweithdra a phroblemau cymdeithasol eraill sy'n achosi iechyd gwael.
Cyflwynwyd profion iechyd blynyddol i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn 2006 er mwyn canfod a thrin clefydau'n well. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r diffyg tystiolaeth o'r buddion iechyd tymor hir sy'n deillio o'r profion hyn, nid yw pob meddyg teulu'n eu cynnig.
Nod yr ymchwilwyr, o brifysgolion Abertawe a Chaerdydd, oedd ymdrin â'r diffyg tystiolaeth hwnnw ac archwilio a oes cysylltiad rhwng profion iechyd a chyfraddau goroesi gwell a chyfraddau marwolaeth is. Mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi gan BMJ Open, y cyfnodolyn ar-lein.
Defnyddiodd y tîm Fanc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) er mwyn archwilio cofnodion meddygol pawb ag anabledd deallusol yng Nghymru. Roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys data meddygon teulu a chofnodion cleifion mewnol ac allanol yng Nghymru, ynghyd â chofnodion marwolaethau a gasglwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Datgelodd y data'r canlynol:
- Roedd cysylltiad rhwng cael prawf iechyd a llai o farwolaethau yn achos pobl sy'n dioddef o awtistiaeth a syndrom Down;
- Prin oedd y dystiolaeth o gyfraddau marwolaethau is yn achos y rhai sydd â diabetes neu epilepsi;
- Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod profion iechyd yn gwella canlyniadau pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser;
- Efallai fod llawer o bobl wedi derbyn un prawf iechyd ond heb ymgymryd â phrawf blynyddol; ac
- Roedd llai o oedolion yng Nghymru na'r disgwyl wedi cael y profion – nid oedd unrhyw gofnod bod mwy na 70 y cant ohonynt wedi cael prawf iechyd.
Meddai'r Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth (NCPHWR) a phrif ymchwilydd yr astudiaeth: “Mae'r defnydd isel o brofion iechyd yng Nghymru'n destun pryder, yn enwedig wrth i ni symud ymlaen ar ôl y pandemig.
“Nid yw oedolion sydd ag anableddau dysgu'n cael cynnig profion iechyd chwaith gan nad oes cydnabyddiaeth eu bod yn gymwys i'w derbyn neu oherwydd bod rhywbeth yn eu rhwystro rhag derbyn profion iechyd.
“Gall cyfathrebu a defnyddio gwybodaeth sy'n hyrwyddo iechyd fod yn heriol i bobl sydd ag anabledd dysgu. Felly, gallai cyfleu negeseuon eglur i deuluoedd a gofalwyr am fanteision profion iechyd effeithio'n gadarnhaol ar y defnydd ohonyn nhw – gan arwain at ganlyniadau iechyd ac ansawdd bywyd gwell i bobl sydd ag anableddau dysgu yng Nghymru.”
Meddai Paula Phillips, Uwch-reolwr Gwelliant, Anableddau Dysgu, Gwelliant Cymru: “Rydyn ni'n gwybod bod profion iechyd yn gwella canlyniadau iechyd, ond dyma'r papur cyntaf i nodi cyfraddau goroesi gwell ymhlith pobl ag awtistiaeth ac anabledd dysgu a phobl sy'n dioddef o syndrom Down.
“Rydyn ni'n cynnig cymorth i wasanaethau ledled Cymru i gynyddu nifer y bobl ag anabledd dysgu sy'n derbyn profion iechyd, a gwella ansawdd y profion hynny. Gallwn ni bellach ddefnyddio'r canfyddiadau pwysig hyn i hyrwyddo pwysigrwydd profion iechyd i bobl sydd ag anabledd dysgu, y rhai sy'n rhoi cymorth i bobl i dderbyn profion iechyd a'r rhai sy'n darparu'r profion iechyd.”
Gwyddor Data Poblogaeth arloesol er budd y cyhoedd - ymchwil Abertawe