Mae Technocamps wedi ennill Gwobr Ysbrydoliaeth STEM Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) am Gyfraniad Neilltuol at Ehangu Cyfranogiad, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn pynciau STEM.
UKRI yw'r corff sy'n goruchwylio'r holl ymchwil a ariennir yn gyhoeddus, gan gwmpasu'r holl gynghorau ymchwil cenedlaethol.
Mae'r wobr hon yn cyd-fynd â chanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 a gyhoeddwyd y mis hwn, pan ddyfarnwyd y radd uchaf i'r Astudiaeth Achos o Effaith Technocamps a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe. REF yw'r dull a ddefnyddir gan lywodraeth y DU i bennu'r cyllid ymchwil a ddosberthir i'r prifysgolion dros y saith mlynedd nesaf.
Mae Technocamps, a sefydlwyd yn 2003, yn rhaglen allgymorth i ysgolion, cymunedau a diwydiant ledled Cymru. Cynhelir y rhaglen ym Mhrifysgol Abertawe, ond mae ganddi hyb ym mhob prifysgol yng Nghymru.
Mae'n darparu gweithdai ymarferol i ysgolion cynradd ac uwchradd, hyfforddiant datblygu proffesiynol i athrawon, a chyfleoedd i oedolion wella eu sgiliau digidol.
Ei chylch gorchwyl ar gyfer ysgolion yw ymgysylltu â grwpiau penodol o bobl ifanc – yn enwedig merched a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell – sydd wedi colli diddordeb mewn pynciau STEM. Yna rydym yn eu cefnogi ac yn eu hannog i astudio pynciau digidol a STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch a'r tu hwnt.
Mae ein gweithrediad ymgysylltu â busnes, Sefydliad Codio Cymru, yn darparu prentisiaethau graddau digidol ac yn arwain rhaglen genedlaethol o hyfforddiant dwys mewn sgiliau digidol a gyflwynir gan yr holl adrannau cyfrifiadureg yng Nghymru.
Meddai'r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps:
“Rydyn ni ar ben ein digon i ennill y wobr hon. Mae'n destun balchder ein bod ni wedi cael ein hystyried ochr yn ochr â rhai o'r mentrau mwyaf anhygoel yn y wlad, ac rydyn ni wrth ein boddau i gael ein cydnabod am y gwaith caled rydyn ni'n ei wneud.”