Mae menyw sydd wedi dioddef o iechyd meddwl gwael ac anhwylder bwyta'n dathlu heddiw wrth iddi raddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Dechreuodd Francesca Murphy, 25 oed, o Sir Benfro, ddioddef o broblemau iechyd meddwl tua diwedd ei harddegau yn dilyn damwain hwylio. Drwy gydol yr adeg honno, gwnaeth Francesca ei gorau glas i faglu ymlaen a pharhau i weithio yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ac mae'n canmol ei chydweithwyr am roi rhwydwaith cymorth cryf iddi a'i helpodd i wella. Wrth iddi barhau i wella, dechreuodd weithio mewn ysgol gynradd hefyd.
Meddai: “Roedd yn bleser gweithio yn yr ysgol gynradd yn ogystal â'r ganolfan hamdden, ond roeddwn i'n gwybod nad dyna fy nod yn y pen draw – roeddwn i am fynd i'r brifysgol. Ar ôl fy holl brofiadau, roeddwn i'n gwybod y byddai'n anodd, ond roeddwn i am roi cynnig arno.
“Nid oeddwn i wedi ystyried Abertawe o ddifrif yn wreiddiol, ond des i i ddiwrnod agored gyda fy mam ac roedd y ddwy ohonon ni'n dwlu ar y lle. Mae fy atgofion o'r diwrnod yn fyw iawn o hyd. Gwnaeth rhywbeth daro tant pan oeddwn i ar y campws, ac roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle i mi.”
Cyn cofrestru yn 2018, roedd Francesca wedi bod mewn hwyliau da ers cryn amser.
“Roeddwn i mewn hwyliau da pan ddes i i gysylltiad â Gwasanaeth Lles y Brifysgol am y tro cyntaf. Byddwn i'n cadw mewn cysylltiad ag aelodau’r tîm, a dyna'r unig beth roedd ei angen arna i ar y pryd – roedden nhw'n anhygoel.”
Dim ond ychydig cyn y pandemig y sylweddolodd Francesca fod pethau wedi dechrau gwaethygu. Ym mis Chwefror 2020, cafodd newyddion trist ac yna, pan gyflwynwyd cyfnodau clo ledled y DU, “aeth popeth o ddrwg i waeth”.
Ynghylch yr adeg hon, meddai Francesca: “Pan ddechreuodd y pandemig yng nghanol fy ail flwyddyn, dechreuais i deimlo'n wael yn eithaf cyflym. Cyn bo hir, roeddwn i mewn a mas o'r ysbyty wrth i mi ddynesu at ddiwedd y flwyddyn academaidd.
“Roedd fy nhrydedd flwyddyn yn debyg iawn; yn ystod misoedd olaf fy ngradd, gwnes i gyflwyno fy nhraethawd hir a chwblhau fy ngradd o Cotswold House, sef uned anhwylderau bwyta yn Lloegr. Roedd yr uned yn gryn bellter i ffwrdd ac, o ganlyniad i'r pandemig, roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi cael fy ynysu rhag fy nheulu, fy ffrindiau a'r brifysgol, a oedd yn anodd iawn.”
Er iddi wynebu llawer o heriau, ni chymerodd Francesca seibiant swyddogol o’i hastudiaethau. Roedd hi’n benderfynol o orffen yr hyn roedd wedi dechrau arno ac mae'n diolch i'w darlithwyr a'r staff cymorth yn Abertawe am ei helpu.
“Nid wyf yn siŵr a fyddwn i wedi gadael neu ohirio, ond yn sicr ni fyddwn i'n graddio'r wythnos hon pe bawn i wedi mynd i brifysgol wahanol.
Canmolodd Francesca y bobl eraill a'i helpodd yn ystod yr adegau mwyaf heriol hynny. Meddai: “Rwy'n sylweddoli fy mod i'n ffodus i fod yn fyw, ac rwy'n gwybod bod yr unigolion gwych rwyf wedi cwrdd â nhw yn ystod fy astudiaethau sy'n wirioneddol ofalgar yn rhannol gyfrifol am hyn.
“Pan ges i'r newyddion gwael yn ôl ym mis Chwefror 2020, nid oeddwn i'n gwybod beth i'w wneud, felly cerddais i i'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, lle gwnaeth un o'r darlithwyr, Dr Andrew Bloodworth, fy nghysylltu'n garedig â'r bobl gywir – gwnaethon nhw wahaniaeth go iawn i mi.
“Byddai Judith Evans-Jones o'r Gwasanaeth Lles yn cadw mewn cysylltiad â mi wrth i mi gael triniaeth ac yn trefnu apwyntiadau fideo. Byddai bob amser yn gwneud yn siŵr fy mod i'n iawn ac yn gofyn a allai fy helpu gyda phethau megis estyniadau ar gyfer fy aseiniadau.
“Aeth darlithwyr fel Dr Denise Hill, yr Athro Mel McNarry, Dr Rachel Churm a'r Athro Kelly Mackintosh ymhell y tu hwnt i'r galw er mwyn sicrhau bod gen i bopeth roedd ei angen arna i. Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth. Pan oeddwn i yn Cotswold House, os na allwn i gymryd rhan mewn darlithoedd ar-lein, bydden nhw'n gwneud trefniadau fel na fyddwn i'n colli unrhyw beth.
“Rwyf hefyd yn ffodus bod gen i deulu a ffrindiau hynod gefnogol sydd wedi gweld o lygad y ffynnon yr hyn rwyf wedi ei ddioddef, ac mae'n amhosib i mi ddiolch iddyn nhw ddigon.”
Er gwaethaf yr heriau hyn, llwyddodd Francesca o hyd i wneud yn fawr o fywyd yn y brifysgol, gan ymuno â'r gymdeithas gerddorol a'r clwb hwylio, lle bu'n gapten ar dîm y dechreuwyr, yn ogystal â gweithio fel myfyriwr llysgennad.
Mae hi hefyd wedi cael cydnabyddiaeth gan Undeb y Myfyrwyr am gyfraniad unigol pan oedd yn gynrychiolydd myfyrwyr yn ystod ei blwyddyn olaf, yn ogystal â chan ei chyfadran am ei chyfraniad at yr amgylchedd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Ers hynny, mae Francesca wedi dychwelyd i Abertawe am radd feistr drwy ymchwil gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a ariennir gan KESS. Ni fyddai wedi dychmygu bod hynny'n bosib flynyddoedd yn ôl.
“Nid wyf yn academaidd iawn, ond ar ôl i fy narlithwyr roi gwybod i mi am yr ymchwil, penderfynais i mai dyna'r cam nesaf cywir i mi, ac rwyf bellach yn dynesu at ddiwedd fy ngradd meistr.
“Roeddwn i yn ôl yn Cotswold House ar ddiwedd y llynedd, ond fel y tro diwethaf, roeddwn i'n ddigon ffodus i gael cymorth gan bobl fel fy ngoruchwyliwr, Dr Jo Hudson – mae hi wedi bod yn gefn i mi drwy gydol y profiad cyfan.”
Pan ofynnwyd iddi beth byddai'n ei ddweud wrth bobl sy'n wynebu heriau tebyg, meddai Francesca: “Rwyf wir yn credu eich bod chi'n cael eich gwobrwyo am eich ymdrechion, yn y brifysgol ac yn eich bywyd yn gyffredinol.
“Rwy'n gwybod bod pethau heriol yn digwydd i ni i gyd, ond cofiwch fod cymorth ar gael bob amser.
“Gall fod yn anodd yn aml, ond peidiwch byth â theimlo embaras wrth dderbyn help. Heb gymorth gan fy nheulu a fy ffrindiau, y Brifysgol, fy therapydd a Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta Haen 3 Hywel Dda, nid wy'n credu y byddwn i wedi cyrraedd fy sefyllfa bresennol. Diolch i chi i gyd.”