Mae Canolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy Prifysgol Abertawe (CSAR) yn bartner allweddol mewn menter arloesol gan Biophilic Living a fydd yn darparu ymagwedd newydd at fyw a gweithio yn y ddinas.
Bydd y prosiect unigryw hwn, yr un cyntaf o'i fath yn y DU, yn treialu model newydd y gellir ei ehangu sydd am newid y ffordd rydym yn meddwl am lety yng nghanol dinasoedd yng Nghymru.
Bydd y gwaith adeiladu'n trawsnewid hen uned Woolworths ar Stryd Rhydychen yng nghanol Abertawe – gyferbyn â siop lyfrau Waterstones – ac yn cynnwys adeiledd 13 llawr cyfagos newydd.
Bydd yn adeilad defnydd cymysg â llety rhanberchnogaeth fforddiadwy, mannau manwerthu a swyddfeydd masnachol carbon isel.
Bydd modd i'r preswylwyr dyfu eu cynnyrch eu hunain, gan ddefnyddio'r cyfleuster ffermio trefol annatod. Bydd yr adeilad yn cynnwys dau dŷ gwydr ar lefel y to sy'n wynebu'r de ac yn defnyddio system acwaponeg a ddatblygwyd gan academyddion o Brifysgol Abertawe er mwyn cynhyrchu 4.5 tunnell fetrig o ffrwythau, llysiau, saladau a pherlysiau bob blwyddyn.
Mae acwaponeg yn system cynhyrchu bwyd sy'n creu cylch parhaus lle mae gwastraff a gynhyrchir gan bysgod, sy'n byw mewn tanciau ar y safle, yn ychwanegu maethynnau at y dŵr sy'n bwydo'r planhigion tŷ gwydr. Yna caiff y dŵr ei hidlo a'i ailgylchredeg yn y system. Bydd y broses yn cael ei hesbonio mewn arddangosiad cyhoeddus addysgol ar lawr gwaelod y tŵr.
Dyfarnwyd cyllid i'r prosiect drwy Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Dyma esboniad yr Athro Geoff Proffitt, pennaeth y biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe:
“Mae'n amlwg y bydd datblygiad Biophilic Living yn adeilad llawn ysbrydoliaeth ar gyfer y bobl a fydd yn byw ac yn gweithio yno, ond mae'n fwy na chartref a gweithle cyffrous. Bydd yr adeilad yn un arloesol o safbwynt biolegol, dylunio a pheirianyddol. Bydd yn enghraifft fyw o ddylunio gwych, dulliau arloesol a thechnoleg bresennol sy'n cyfuno i gefnogi a meithrin iechyd a lles pobl.
Mae cynllun Biophilic Living a'r ethos sy'n sail i'w ddyluniad a'i ddatblygiad yn ffocws ar gyfer newid. Dyma fan cychwyn proses o adfywio dinas Abertawe mewn modd cynaliadwy sy'n seiliedig ar gariad at bethau byw. Er mwyn ymateb yn llawn i heriau byd-eang cynyddol, bydd yn rhaid i waith datblygu ac ailddatblygu trefol arwain y ffordd.
Bydd y prosiect yn cyfrannu at nodau lleol a byd-eang i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, megis Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Bydd angen i benseiri, dylunwyr, peirianwyr a gwyddonwyr gyfuno eu sgiliau er mwyn ymateb i'r heriau cymhleth ac uniongyrchol hyn. Biophilic Living yw ein henghraifft gyntaf o'r ymagwedd gydweithredol hon.”
Mae cwmni datblygu Hacer yn gyfrifol am y cynllun sydd wedi cael ei ddylunio gan Powell Dobson, penseiri o Abertawe. Mae'n deillio o waith cydweithredol helaeth rhwng amrywiaeth o sefydliadau lleol, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Fferm Gymunedol Abertawe a Sero Homes Ltd.
Ariennir yr adeilad byw gan gyfuniad o gyllid y sector preifat a chyllid gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, Pobl a Banc Datblygu Cymru.
Y bwriad yw cwblhau'r gwaith adeiladu erbyn diwedd 2023.
Rhagor o wybodaeth: Canolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy Prifysgol Abertawe