Mae arbenigedd ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei ddefnyddio i brofi gorchudd rhad sy'n cynhesu seddau, a all gadw oedolion hŷn sy'n agored i niwed yn dwym drwy bwyso botwm.
Yr ysbrydoliaeth am B-Warm oedd awydd gŵr serchus i helpu i ofalu am ei wraig a oedd yn dioddef o arthritis. Yn ôl Martin Lewis, sef cyfarwyddwr cwmni Homeglow Products ym Mrynbuga, roedd ei diweddar wraig yn teimlo bod seddau twym eu car yn lleihau ei phoen i'r fath raddau roedd hi am ddod â nhw i mewn i'r tŷ.
Felly, gwnaeth Mr Lewis ddyfeisio gorchudd a chynheswr seddau y gellir ei osod ar gadair arferol a'i addasu â phanel rheoli syml.
Mae ef bellach wedi bod yn cydweithio â Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd y Brifysgol i archwilio pa mor fuddiol yw'r ddyfais i oedolion hŷn, yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain â chyflyrau iechyd isorweddol neu broblemau symud.
Cynhaliodd y Ganolfan astudiaeth i werthuso lles a phoen cyhyrysgerbydol cyfranogwyr dros gyfnod o fis o ddefnyddio'r ddyfais. Er mwyn cynnal yr ymchwil hon, gweithiodd y tîm gyda Delta Wellbeing a ddaeth o hyd i gleientiaid addas - rhai a oedd yn byw yn annibynnol ond â chymorth - ac yna aethant ati i gyflenwi a gosod y dyfeisiau B-Warm a chynorthwyo wrth gipio data. Darparwyd hanner o'r dyfeisiau B-Warm a ddefnyddiwyd gan y cwmni ynni Cadent Gas.
Hefyd, ategwyd yr astudiaeth gan arbenigedd y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR) a'r iLab.
Meddai Dr Ffion Walters, Technolegydd Arloesi yn y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd: "Manteisiodd Delta Wellbeing ar ei berthnasoedd â gwahanol gartrefi preswyl er mwyn recriwtio cyfranogwyr. Cyfrannodd HomeGlow a Cadent 100 o ddyfeisiau B-Warm. Yna gwnaethom asesu newidiadau i les a phoen gan ddefnyddio holiadur strwythuredig wedi'i gwblhau gan gyfranogwyr cyn ac ar ôl defnyddio'r cynheswr seddau dros gyfnod o fis."
Roedd yr adborth gan y cyfranogwyr yn gadarnhaol dros ben. Datgelodd y canfyddiadau pwysig o'r holiadur fod 75 y cant o'r gwirfoddolwyr yn datgan gwelliant yn eu lles goddrychol a 73.9 y cant yn datgan lleihad yn lefel eu poen.
Meddai Mr Lewis: "Datblygais i B-Warm er mwyn helpu fy niweddar wraig Audrey i gadw'n dwym mewn bwthyn eithaf oer a llaith. Ar ôl iddi farw yn 2016 ac ar ôl sylweddoli'r manteision ffisiolegol ac o ran arbed ynni, roeddwn i’n teimlo y byddai ond yn briodol hyrwyddo a meithrin enw da'r cynnyrch a wnaeth fy helpu hefyd i ymdopi â'm colled drwy gadw'n brysur."
Mae ef bellach yn gobeithio y bydd yr ymchwil a gynhelir yn y Brifysgol yn darparu tystiolaeth bwysig ychwanegol o fanteision ei gynnyrch ar gyfer iechyd.
Meddai Mr Lewis: "Mae B-Warm eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn - rydym ni bellach yn gweithgynhyrchu tair gwaith y lefel wreiddiol ac mae'r argyfwng ynni presennol yn golygu bod bron dim ar ôl o’n harcheb stoc ddiweddaraf. Gobeithio bydd y cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe yn cadarnhau manteision seicolegol a ffisiolegol B-Warm i'r rhai sydd â phroblemau iechyd cronig neu dros dro."
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, sy'n rhan o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, wedi ymrwymo i sicrhau y defnyddir ymchwil, arloesedd ac arbenigedd i ddatblygu gwell triniaethau a dulliau atal ar gyfer gwahanol glefydau. Mae'n rhan o'r rhaglen Cyflymu gwerth £24 miliwn sydd ar waith ledled Cymru a ariannwyd ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a byrddau iechyd.
Gwnaeth Mr Lewis gysylltu ag AgorIP hefyd am gymorth gyda'i waith arloesi. Mae'r cynllun AgorIP wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a thrwy'r cynllun hwn roedd modd iddynt ddarparu mentora a chymorth masnachol drwy BIC Innovation i helpu gyda gwaith 'cynllunio ar gyfer olyniaeth' a chymorth wrth ddatblygu'r busnes ymhellach.