Babi a anwyd yn gynnar mewn cewyn, drwy ddrws crud cynnal mewn uned gofal arbennig i fabanod.

Mae genedigaethau lluosog, cyfnod byr rhwng beichiogrwydd a mamau sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, mewn mwy o berygl o gael babi â phwysau geni isel yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.  

Bob blwyddyn, mae 20 miliwn o blant yn cael eu geni â phwysau geni o dan 2,500 gram, ac yn cael eu hystyried yn fabanod â phwysau geni isel  Roedd yr astudiaeth, gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, yn ceisio deall y ffactorau risg i fabanod â phwysau geni isel er mwyn trefnu adnoddau ac ymyriadau yn effeithiol. 

Roedd yr astudiaeth o'r garfan yn cynnwys 693,377 o blant a anwyd yng Nghymru rhwng 1 Ionawr 1998 a 31 Rhagfyr 2018.  Dewiswyd cyfranogwyr o'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.  

Roedd y tîm ymchwil yn cysylltu'n ddienw nifer o setiau data gweinyddol a gasglwyd yn rheolaidd er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phwysau geni isel.

Datgelodd yr ymchwil fod mamau â'r risg uchaf o gael babi â phwysau geni isel yn cynnwys:

  • Y rhai sy'n disgwyl mwy nag un babi (gefeilliaid, tripledi etc);
  • Y rhai sydd â chyfnod rhwng beichiogrwydd o lai na blwyddyn; a’r,
  • Rhai sydd â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol, gan gynnwys diabetes, anemia, iselder, salwch meddwl difrifol, gorbryder, a defnydd o feddyginiaeth gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd.

 Roedd ffactorau risg ychwanegol yn cynnwys:

  • Ysmygu;
  • mynd i'r ysbyty o ganlyniad i alcohol;
  • camddefnyddio sylweddau;
  • a thystiolaeth o gam-drin domestig; a,
  • chael babi ar ôl 35 oed, ynghyd â byw mewn ardal o amddifadedd.

 Mae'r astudiaeth hon yn awgrymu bod y ffactorau pwysicaf o ran lleihau'r risg o bwysau geni isel yn cynnwys y canlynol:

  • Mynd i'r afael â genedigaethau lluosog (e.e. mewn arferion atgenhedlu â chymorth)
  • Mynd i'r afael â ffactorau sy'n gysylltiedig â genedigaethau cynnar (hanes blaenorol o enedigaeth gynnar)
  • Mynd i'r afael ag iechyd y fam, megis lleihau ysmygu, buddsoddi mewn iechyd meddwl mamau, mynd i'r afael â'r defnydd o sylweddau (alcohol/cyffuriau),
  • Trin cyflyrau iechyd isorweddol (diabetes/anaemia),
  • A hyrwyddo cynllunio beichiogrwydd i gael cyfnod beichiogrwydd digonol a phwysau iach i'r fam, yn enwedig i'r rhai mewn ardaloedd trefol difreintiedig.

Meddai'r prif ymchwilydd Amrita Bandyopadhyay: "Mae'r ffactorau risg pwysicaf yn cynnwys ffactorau mamol fel ysmygu, pwysau mamau, hanes o gamddefnyddio sylweddau, oedran mamau ynghyd ag amddifadedd, y cyfnod rhwng beichiogrwydd a threfn geni'r plentyn.

"Dylai adnoddau i leihau nifer yr achosion o bwysau geni isel ganolbwyntio ar wella iechyd mamau, lleihau genedigaethau cynnar, cynyddu ymwybyddiaeth o gyfnod digonol rhwng beichiogrwydd, a darparu cymorth digonol i iechyd a lles meddyliol mamau."

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ariannodd yr ymchwil: "Mae'r astudiaeth hon am 20 mlynedd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr amrywiaeth o ffactorau risg a all arwain at bwysau geni isel. 

"Mae'n enghraifft bwerus o sut y gall ymchwilwyr ddefnyddio data sy'n cael eu casglu'n rheolaidd i helpu i wella gofal i famau a babanod heb roi pwysau ychwanegol ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y rheng flaen. 

"Mae'r canfyddiadau'n cynnig argymhellion diriaethol ynglŷn â lle i ganolbwyntio ymdrechion i liniaru nifer yr achosion o bwysau geni isel mewn babanod newydd-anedig."

Darllenwch yr adroddiad yn llawn

 

Rhannu'r stori