Cafodd myfyrwyr o Wcráin, gan gynnwys rhai o brifysgol bartner Abertawe yn y wlad, eu croesawu'n swyddogol i Abertawe mewn derbyniad ar y campws, lle cawsant eu hannerch gan yr Is-ganghellor ac Universities UK.
Y digwyddiad yw'r enghraifft ddiweddaraf o gefnogaeth barhaus y Brifysgol i'r wlad yn sgîl yr ymosodiad ar ei thir gan luoedd Rwsia ym mis Chwefror 2022.
Roedd yr ail grŵp o 16 myfyriwr o sefydliad partner Abertawe, Prifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du (PMBSNU) yn ninas Mykolaiv yn ne Wcráin, yn bresennol yn y digwyddiad. Mae'r grŵp hwn newydd gyrraedd a bydd y myfyrwyr yn treulio semester yn Abertawe. Ymunodd myfyrwyr o PMBSNU a oedd eisoes yn Abertawe, yn ogystal â myfyrwyr eraill o Wcráin, â hwy yn y digwyddiad.
Mae cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr o Wcráin yn cyd-fynd â'r datganiad gan yr Is-ganghellor, a gyhoeddwyd ar ddechrau'r ymosodiad, sy'n tanlinellu bod y Brifysgol “yn cefnogi pobl Wcráin wrth amddiffyn eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'u rhyddid democrataidd”.
Daeth tîm o Universities UK (UUK), sy'n cynrychioli prifysgolion ledled y DU, i'r digwyddiad hefyd. Gan weithio gyda Cormack Consultancy Group, creodd UUK y prosiect gefeillio sy'n cysylltu prifysgolion yn y DU ac Wcráin.
Bydd partneriaeth gynyddol Abertawe â PMBSNU yn paratoi'r ffordd ar gyfer cydweithrediadau ymchwil, rhannu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein, yn ogystal â chyfleoedd i fyfyrwyr a staff o Wcráin i ymweld ag Abertawe.
Ymunodd Alina Iovcheva, Cyfarwyddwr Swyddfa Ryngwladol PMBSNU, yn y digwyddiad croeso ar-lein o Mykolaiv, a oedd yn cael ei bomio’n gyson. Anogodd Alina ei myfyrwyr i wneud y mwyaf o'u cyfleoedd academaidd a diwylliannol yn Abertawe, gan nodi y byddai eu profiadau'n eu helpu i fagu sgiliau cyflogadwyedd a fyddai'n para am oes.
Roedd y digwyddiad yn gyfle pwysig i fyfyrwyr gwrdd â'i gilydd, er mwyn helpu i sefydlu rhwydwaith ar gyfer myfyrwyr o Wcráin ar y campws. Roedd academyddion yn ogystal â staff o wasanaethau cymorth y Brifysgol hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, a roddodd gyfle i fyfyrwyr gael rhagor o wybodaeth am Abertawe a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Wrth groesawu'r myfyrwyr, meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Mae'n bleser mawr i ni eich croesawu i Abertawe. Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n gwneud cyfraniad llawn at fywyd y Brifysgol. Rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni hefyd groesawu eich darlithwyr cyn bo hir, fel y gallwn ni atgyfnerthu ein cydweithrediad addysgu ac ymchwil.”
Esboniodd Jamie Arrowsmith, Cyfarwyddwr Rhyngwladol Universities UK, wreiddiau’r cynllun i efeillio prifysgolion yn y DU ac Wcráin:
“Dywedodd arweinwyr prifysgolion yn Wcráin eu bod nhw am gael cymorth i'w galluogi i barhau â'u gwaith o addysgu myfyrwyr. Deilliodd y fenter efeillio o'r cais hwnnw a'i nod yw meithrin partneriaethau rhwng prifysgolion yn y DU ac Wcráin yn y tymor hir. Erbyn hyn, mae oddeutu 100 o bartneriaethau ar waith ledled y DU.”
Meddai'r Athro Lisa Wallace, Deon Cysylltiol (Rhyngwladol) y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd:
“Mae Prifysgol Abertawe'n cefnogi pobl Wcráin, a thanlinellwyd hynny gan yr Is-ganghellor. Gwnaethon ni drefnu'r digwyddiad er mwyn dangos i'n myfyrwyr o Wcráin eu bod yn rhan bwysig iawn o gymuned ein Prifysgol, yn ogystal ag amlygu'r gefnogaeth ymarferol sydd ar gael iddynt.
“Rydyn ni'n falch o fod yn brifysgol ryngwladol. Mae ein myfyrwyr o Wcráin yn ychwanegu at gyfoeth ac amrywiaeth ein cymuned ar y campws. Rydyn ni'n ffodus eu bod nhw gyda ni.”
Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn archwilio ffyrdd o roi cymorth i fyfyrwyr ac aelodau staff o brifysgolion eraill yn Wcráin.
Mae aelodau staff yn Abertawe hefyd yn cymryd rhan mewn mentrau i gefnogi Wcráin. Er enghraifft, Dr Dmitri Finkelshtein, Athro Cysylltiol Mathemateg, yw cadeirydd Sunflowers Wales, grŵp cymunedol nid-er-elw a drefnwyd gan wirfoddolwyr o Wcráin yng Nghymru i gefnogi Wcreiniaid y mae ymosodiad Rwsia wedi effeithio arnynt. Mae'r grŵp yn anfon cyflenwadau meddygol, dillad a chymorth dyngarol i Wcráin ddwywaith y mis.