Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella iechyd cyffredinol a gweithrediad y system imiwnedd yn sylweddol a lleihau unigrwydd ac iselder.
Cynhaliwyd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Journal of Technology in Behavior Science, gan yr Athro Phil Reed, Tegan Fowkes, a Mariam Khela o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe.
Dros dri mis, archwiliodd y tîm effeithiau defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd ar iechyd corfforol a gweithrediad seicolegol pobl.
Cafodd y canlyniadau eu cymharu â grwpiau na ofynnwyd iddynt leihau eu defnydd neu y gofynnwyd yn benodol iddynt wneud rhywbeth nad oedd yn ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol yn ystod y 15 munud hynny.
Atebodd 50 o gyfranogwyr (33 o fenywod a 17 o ddynion) rhwng 20 a 25 oed gwestiynau misol am eu hiechyd a'u gweithrediad seicolegol, yn ogystal â darparu adroddiadau wythnosol am eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.
Dangosodd y canlyniadau fod gweithrediad system imiwnedd aelodau'r grŵp y gofynnwyd iddynt leihau eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol wedi gwella 15% ar gyfartaledd, gan gynnwys llai o achosion o anwydau, y ffliw, dafadennau a ferwcau. Yn ogystal, roedd ansawdd eu cwsg wedi gwella 50% ac roedd ganddynt 30% yn llai o symptomau iselder. Roedd y gwelliannau hyn yn llawer mwy na'r hyn a brofwyd gan y ddau grŵp arall, nad oedd y naill un ohonynt wedi dangos unrhyw newidiadau yn ôl y mesurau hynny.
Yn achos y rhai hynny y gofynnwyd iddynt ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol 15 munud yn llai, gwnaethant ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol oddeutu 40 munud yn llai bob dydd yn y pen draw. Ar y llaw arall, gwnaeth aelodau'r grŵp y gofynnwyd iddynt beidio â gwneud unrhyw beth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol 10 yn fwy. Yn drawiadol, gwnaeth y grŵp y gofynnwyd yn benodol iddynt wneud rhywbeth heblaw am ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol gynyddu eu defnydd oddeutu 25 munud y dydd.
Er bod astudiaethau blaenorol wedi nodi cydberthynas rhwng defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn llai a gwelliannau o ran lles seicolegol, mae'r adroddiad newydd hwn yn bwysig o ran dangos perthynas arbrofol a reolir, sy'n awgrymu perthynas achosol rhwng defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn llai ac iechyd corfforol gwell.
Meddai'r Athro Phil Reed o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe: “Mae'r data hyn yn dangos y gall bywydau pobl wella mewn sawl ffordd pan fyddan nhw'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn llai – gan gynnwys buddion i'w hiechyd corfforol a'u lles seicolegol.
“Does dim cadarnhad eto a yw'r berthynas rhwng defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a ffactorau iechyd yn uniongyrchol, neu a yw newidiadau o ran nodweddion lles, megis iselder, neu ffactorau eraill, megis cynyddu gweithgarwch corfforol, yn ei chymedroli.”
Ychwanegodd yr Athro Reed: “Mae'r ffaith nad oedd aelodau'r grŵp y gofynnwyd iddyn nhw leihau eu defnydd a gwneud rhywbeth gwahanol yn dangos y buddion hyn yn awgrymu y gallai ymgyrchoedd i wneud pobl yn fwy iach osgoi dweud wrth bobl sut i ddefnyddio eu hamser. Gall hyn eu digio. Yn hytrach na hynny, rhowch y ffeithiau iddyn nhw, a gadewch iddyn nhw ymdrin â sut maen nhw'n lleihau rhywbeth, yn hytrach na dweud wrthyn nhw i wneud rhywbeth mwy defnyddiol - efallai na fydd yn effeithiol.”