Ni wnaeth gwarchod leihau heintiadau COVID-19 yng Nghymru: astudiaeth newydd yn cwestiynu buddion y polisi i bobl agored i newid.
Roedd gwarchod pobl agored i niwed yn ganolog i'r ymateb i COVID-19, ond yn ôl astudiaeth newydd o ddata iechyd, nid oes tystiolaeth ei fod o fudd i'r bobl agored i niwed roedd i fod i'w diogelu.
Mae tîm ymchwil o Brifysgol Abertawe wedi bod yn archwilio data o'r flwyddyn ar ôl i'r polisi gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2020, gan ddod i'r casgliad bod “diffyg effaith amlwg ar gyfraddau heintio'n codi cwestiynau ynghylch llwyddiant gwarchod”.
Cyflwynwyd y polisi gwarchod i ddiogelu'r rhai y credid eu bod yn wynebu'r perygl mwyaf o gael niwed difrifol pe baent yn dal COVID-19, er enghraifft oherwydd cyflyrau blaenorol megis canser neu’r meddyginiaethau roeddent yn eu cymryd. Roedd lleihau eu risg o ddal COVID-19 yn allweddol i ddiogelu pobl agored i niwed.
Archwiliodd yr ymchwilwyr y sefyllfa yng Nghymru, ond gan fod y polisi gwarchod yn debyg ledled y DU, bydd eu canfyddiadau'n berthnasol i wledydd eraill hefyd.
Gan weithio gyda'r GIG, gwnaethant archwilio sut effeithiodd gwarchod ar heintiadau COVID-19, marwolaethau a nifer y bobl a dderbyniwyd i'r ysbyty ac unedau gofal dwys. Gwnaethant gymharu'r 117,000 o bobl a warchodwyd yng Nghymru â gweddill y boblogaeth – cyfanswm o 3 miliwn – nas gwarchodwyd.
Y categorïau clinigol mwyaf yn y garfan a warchodwyd oedd cyflyrau anadlu difrifol (35.5%), therapi imiwnoataliedig (25.9%) a chanser (18.6%).
Defnyddiodd y tîm ddata o gofnodion iechyd electronig dienw a gesglir yn rheolaidd ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru, a gedwir yn ddiogel ym Manc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe.
Canfu'r ymchwilwyr y canlynol:
- Roedd marwolaethau a defnydd o ofal iechyd yn uwch ymhlith pobl a warchodwyd na'r boblogaeth gyffredinol, er y byddai hyn i'w ddisgwyl gan eu bod yn llai iach.
- Roedd cyfradd heintiadau COVID-19 hysbys yn uwch yn y garfan a warchodwyd (5.9%) nag ydoedd yn y boblogaeth gyffredinol (5.7%).
Dyma gasgliad yr ymchwilwyr:
“Mae diffyg effaith amlwg ar gyfraddau heintio'n codi cwestiynau ynghylch llwyddiant gwarchod ac yn nodi bod angen rhagor o ymchwil i werthuso'r polisi ymyrryd cenedlaethol hwn yn llawn.”
Gan grybwyll cyd-destun y polisi, meddai'r awduron:
“Roedd gwarchod yn bolisi iechyd cyhoeddus nad oedd wedi cael ei brofi a gyflwynwyd yn y Deyrnas Unedig yn gynnar yn y pandemig, mewn gwrthgyferbyniad â gwledydd eraill lle roedd mwy o bwyslais ar gau ffiniau, cyfnodau clo, a systemau profi ac olrhain. Roedd y polisi gwarchod yn seiliedig ar ragdybiaethau yn hytrach na thystiolaeth o'i effeithiolrwydd.”
Meddai'r Athro Helen Snooks o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a fu'n arwain yr ymchwil:
“Ni ddaeth ein hastudiaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth o leihau heintiadau COVID-19 flwyddyn ar ôl i'r polisi gwarchod gael ei gyflwyno. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch buddion polisi gwarchod i bobl agored i niwed.
“Mae'r gwaith yn parhau i gymharu'r canlyniadau hyn, yn ogystal ag adroddiadau pobl am eu hansawdd bywyd, â grŵp cyfatebol o bobl a oedd yn agored i niwed yn glinigol, ond na chawsant eu dewis i warchod.
“Mae'n hanfodol cael cymaint o dystiolaeth â phosib o effaith polisïau er mwyn i ni ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.”
Adwaenir y prosiect fel EVITE Immunity, sydd wedi cael ei ariannu drwy'r Rhaglen Astudiaethau Craidd o Imiwnedd – a gafodd ei chomisiynu gan Brifysgol Birmingham ar ran UKRI; ac mae'n cynnwys cydweithrediadau â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Warwig, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.