Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cape Town wedi olrhain ymddygiad tacluso cymdeithasol mewn babŵns gwyllt gan ddefnyddio mesuryddion cyflymu ar goleri.
Yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Royal Society Open Science, yw'r un gyntaf i lwyddo i gyfrifo’r amser a’r egni a dreulir wrth dacluso gan ddefnyddio'r dull hwn, sy'n agor amrywiaeth o lwybrau ymchwil yn y dyfodol.
Gan ddefnyddio coleri a oedd yn cynnwys mesuryddion cyflymu a adeiladwyd ym Mhrifysgol Abertawe, cofnododd y tîm weithgareddau babŵns yn Cape Town, De Affrica, gan nodi a meintioli gweithgareddau cyffredinol megis gorffwys, cerdded, chwilota a rhedeg, yn ogystal â thacluso ei gilydd.
Bu algorithm dysgu peirianyddol dan oruchwyliaeth yn edrych ar ddata cyflymu a oedd yn cyd-fynd â fideos o fabŵns, gan lwyddo’n gywir iawn yn gyffredinol i’w cydnabod yn tacluso ei gilydd.
Yna defnyddiodd aelodau'r tîm eu model dysgu peirianyddol i feintioli tacluso ac ymddygiadau eraill yn barhaus ddydd a nos o ddata cyflymu a gasglwyd o 12 o fabŵns.
Meddai Dr Charlotte Christensen, y prif awdur, o Brifysgol Zurich: “Roedden ni'n ansicr a fyddai synhwyrydd ar goler yn gallu nodi ymddygiad sy'n ymwneud â symudiadau mor gynnil, ond mae wedi gweithio. Mae gan ein canfyddiadau oblygiadau pwysig ar gyfer astudio ymddygiad cymdeithasol mewn anifeiliaid, yn enwedig primatiaid heblaw am bobl.”
Mae tacluso cymdeithasol yn un o ymddygiadau pwysicaf primatiaid ac ers y 1950au mae wedi bod wrth wraidd ymchwil ym maes primatoleg.
Yn y gorffennol, mae gwyddonwyr wedi dibynnu ar arsylwadau uniongyrchol i benderfynu faint mae primatiaid yn tacluso ei gilydd. Er bod arsylwadau uniongyrchol yn darparu data systematig, nid yw'n helaeth nac yn ddi-dor. Mae'r ffaith bod ymchwilwyr yn gallu gwylio ychydig o anifeiliaid yn unig ar y tro yn wendid arall.
Mae technoleg fel yr hyn a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon yn gweddnewid maes ymchwil ymddygiad anifeiliaid ac yn hwyluso meysydd ymchwilio cyffrous newydd.
Meddai Dr Ines Fürtbauer, yr uwch-awdur o Brifysgol Abertawe: “Mae ein tîm wedi dymuno gwneud hyn ers blynyddoedd. Bydd y gallu i gasglu a dadansoddi data tacluso parhaus mewn poblogaethau gwyllt yn rhoi cyfle i ymchwilwyr archwilio hen gwestiynau eto ac ateb rhai newydd ynghylch creu a chynnal ymlyniadau cymdeithasol, yn ogystal â'r mecanweithiau sy'n tanategu'r berthynas rhwng cymdeithasoldeb, iechyd a ffitrwydd.”
Darllenwch y papur yn llawn: Quantifying allo-grooming in wild chacma baboons (Papio ursinus) using tri-axial acceleration data and machine learning