Mae disgyblion ysgol wedi cael cipolwg unigryw ar ochr wyddonol Cwpan Rygbi'r Byd mewn digwyddiad allgymorth arbennig a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe.
Drwy sgyrsiau a gweithdai byr gafaelgar, rhannodd arbenigwyr o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe sut maent yn defnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth ym meysydd biomecaneg, gwyddor data, seicoleg, ffisioleg, cryfder a chyflyru, a llawer mwy o agweddau sy'n hollbwysig i rygbi perfformiad uchel.
Ddydd Llun 11 Medi, cafodd 80 o fyfyrwyr o ysgolion ledled y ddinas – gan gynnwys Coleg Gŵyr, Ysgol Gyfun Treforys, Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan ac Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur – eu croesawu i Gampws y Bae y Brifysgol.
Cymerodd disgyblion ran mewn sawl sesiwn ryngweithiol, gan gynnwys mesur eu technegau cicio gan ddefnyddio technoleg fiomecanyddol wisgadwy o’r radd flaenaf a sesiwn holi ac ateb gyda Siwan Lillicrap, cyn-gapten tîm rygbi menywod Cymru, a raddiodd o'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac a fu'n Bennaeth Rygbi ym Mhrifysgol Abertawe gynt.
Meddai Siwan: “Gwelais i fod rôl gwyddor chwaraeon yn tyfu yn ystod fy ngyrfa fel chwaraewr, ac roedd yn wych gweld merched a bechgyn o ysgolion ar draws Abertawe'n dangos diddordeb mewn sut gallan nhw ddefnyddio eu gwybodaeth am wyddoniaeth mewn camp maen nhw i gyd yn ei mwynhau. Mae hi'n chwarae rhan hollbwysig ym myd chwaraeon, o berfformiad i iechyd a lles.”
Meddai Phil Jones, athro Addysg Gorfforol o Ysgol Gyfun Treforys: “Mae'n wych gweld Prifysgol Abertawe'n ymgysylltu â'i chymuned drwy gynnig llwybr mor gyffrous i'r dysgwyr ifanc ar gyfer y dyfodol.”
Gwnaeth y digwyddiad gyflwyno gwaith y Grŵp Ymchwil Chwaraeon Elît a Phroffesiynol (EPS) ym Mhrifysgol Abertawe i fyfyrwyr.
Mae'r grŵp, sy'n adnabyddus am ei ymchwil gymhwysol iawn, wedi effeithio ar arferion timau rygbi dynion a menywod ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Yn ddiweddar, derbyniodd yr International Journal of Sports Physiology and Performance dri phapur ymchwil gan y grŵp ar gyfer rhifyn arbennig am Gwpan y Byd.
Mae cyfraniadau'r grŵp wedi bod yn hollbwysig wrth lywio paratoadau ar gyfer lefel uchaf y gamp, sef Cwpan Rygbi'r Byd, ac wrth i’r gystadleuaeth honno fynd rhagddi.
Ar hyn o bryd, mae dau o raddedigion y rhaglen MSc drwy Ymchwil ac un o'r rhaglen BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn gweithio mewn rolau cymorth gwyddonol yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.
Meddai'r Athro Neil Bezodis, Arweinydd y Grŵp Ymchwil Chwaraeon Elît a Phroffesiynol: “Mae'n destun cyffro i ni gael y cyfle i ddangos yr amrywiaeth eang o ymchwil ardderchog i rygbi sy'n canolbwyntio ar berfformiad a gynhelir yma yn Abertawe.
“Rydyn ni'n gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli rhai o'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr chwaraeon ac yn eu hannog nhw i fod yr un mor frwdfrydig â ni am y ffordd y mae gwyddoniaeth yn cael ei defnyddio yn y byd rygbi er mwyn cefnogi'r perfformiadau rhagorol rydyn ni eisoes yn eu gweld yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd i ddynion yn Ffrainc.”
Astudiwch Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe.
Rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae'r Grŵp Ymchwil Chwaraeon Elît a Phroffesiynol yn gwella perfformiad athletwyr elît a phroffesiynol.