Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn Frontiers in Psychiatry, mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi galw am sefydlu gwasanaethau trin gamblo niweidiol yn y GIG yng Nghymru, gan amlygu bod diffyg parhaus gwasanaethau triniaeth yn annerbyniol a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef ar frys.
Arweiniodd tîm o Ysgol Seicoleg y Brifysgol yr alwad ar y cyd ag aelodau o Rwydwaith GREAT (Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo) Cymru, gan amlinellu ymchwil sy'n dangos bod gamblo niweidiol yn peri'r un risg i bobl yng Nghymru ag ydyw yn unman arall yn y DU.
Mae'r erthygl yn dangos bod nifer yr atgyfeiriadau i glinigau gwasanaethau trin gamblo niweidiol y GIG yn Lloegr yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Y nifer yn 2022 oedd 1,400. Er mwyn bodloni'r galw mawr hwn, bydd 15 o glinigau yn Lloegr cyn bo hir, ond nid oes yr un clinig ar agor eto yng Nghymru na'r Alban.
Cydnabuwyd ers amser maith fod mynd i'r afael â'r niweidiau sy'n cael eu hachosi gan gamblo yn bryder i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Yn dilyn galwadau i wneud mwy i gefnogi'r rhai hynny sy'n cael eu niweidio gan gamblo, comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru asesiad o anghenion iechyd, a nododd heriau o ran ymwybyddiaeth o'r driniaeth a'r cymorth presennol sydd ar gael ynghylch gamblo, hygyrchedd yr hyn a ddarperir ac a yw'n dderbyniol ai peidio.
Ar ben hynny, mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU ynghylch Gamblo yn datgan y dylai'r asesiad o anghenion iechyd lywio datblygiad gwasanaethau triniaeth arbenigol yng Nghymru, datganiad a gafodd cael ei adleisio gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar Niwed sy'n Gysylltiedig â Gamblo, a gynigiodd y dylid “datblygu llwybr atgyfeirio clir a ... darparu gwasanaeth trin gamblo arbenigol i Gymru."
Er gwaethaf yr argymhellion hyn, mae'r aros am wasanaethau help a chefnogaeth arbenigol o ran gamblo'n parhau.
Meddai'r Athro Simon Dymond o Brifysgol Abertawe, Cyfarwyddwr Rhwydwaith GREAT Cymru: “Yn 2020, dangoson ni fod gwir angen gwasanaethau trin gamblo niweidiol wedi'u comisiynu gan y GIG yng Nghymru. Yma, rydyn ni'n galw eto ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i weithredu ar eu geiriau a rhoi gwasanaeth trin gamblo niweidiol arbenigol i bobl Cymru sy'n diwallu eu hanghenion.”
“Mae'n hen bryd i Gymru gael gwasanaethau cymorth a thriniaeth cystal â'r rhai hynny sydd ar gael i bobl sy'n cael eu niweidio gan gamblo yn Lloegr. Yn wir, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y dylai pobl sy'n gamblo'n ddifrifol geisio triniaeth a chymorth gan wasanaethau trin gamblo arbenigol wedi'u comisiynu gan y GIG. Dyw'r opsiwn hwnnw ddim ar gael i bobl Cymru ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd yr Athro Dymond: “Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cynnig i gyflwyno ardoll statudol yn fodd posib o gyllido'r gwasanaeth hanfodol hwn, ond ddylen ni ddim aros i hynny ddigwydd. Mae angen i'r GIG fuddsoddi mewn gwasanaethau trin gamblo niweidiol i Gymru, nawr.”