Bydd arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n cydweithio â phrifysgolion Bangor a Chaerdydd wrth gynnig diwrnod o ddigwyddiadau anffurfiol, hwyl a rhyngweithiol am les i Gymru gyfan yng Ngŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2023.
Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ddathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth ynghylch pobl a chymdeithas. Dathlodd yr ŵyl ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2022. Mae'n gyfle i unrhyw un archwilio pynciau sy'n ymwneud â'r gwyddorau cymdeithasol – o iechyd a lles i droseddau, cydraddoldeb, addysg a hunaniaeth – drwy ddigwyddiadau a gynhelir gan ymchwilwyr o brifysgolion yn y DU.
Caiff mwy na 200 o ddigwyddiadau am thema allweddol ‘Lles Gydol Oes’ eu darparu ledled y DU gan 42 o brifysgolion. Fe'u cynhelir o 21 Hydref i 17 Tachwedd drwy gymysgedd o gyfryngau ar-lein, ar y safle a hybrid, a byddant yn cynnwys sgyrsiau, perfformiadau, arddangosiadau, digwyddiadau cyfranogol a thrafodaethau panel.
Caiff yr ŵyl ei harwain a'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n cefnogi ymchwil a hyfforddiant ym mhynciau'r gwyddorau cymdeithasol.
Bydd Abertawe’n cynnal digwyddiadau i ymwelwyr alw heibio iddynt drwy'r dydd o 17 tan 21 Hydref yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, yn ogystal â gweithdai ar adegau penodol. Bydd y digwyddiadau'n archwilio lles mewn bywyd pob dydd, o'r Hen Aifft i heddiw. Bydd yr holl ddigwyddiadau am ddim ac ar agor i bawb. Gellir archebu tocynnau i'r digwyddiadau drwy Eventbrite.
Flip the Streets: Creu Cadernid Cymunedol yn erbyn Casineb: Arddangosir celf stryd gymunedol greadigol a gwahoddir cyfranogwyr i ddylunio eu murlun celf bach eu hunain i ymgyrchu yn erbyn casineb. Mae astudiaethau wedi dangos bod presenoldeb graffiti casineb mewn cymunedau yn dwysáu teimladau o ansicrwydd, bygythiad ac ofn. Mae menter Flip The Streets yn gweithio gyda phobl ifanc i ysbrydoli cymunedau i gyfranogi drwy gelf, i drawsnewid mannau ac i hyrwyddo lles gydol oes, drwy gryfhau cysylltiadau cymunedol.
Gweithdy Trin Gwrthrychau o'r Hen Aifft: Sut roedd pobl yr Hen Aifft yn meddwl am les drwy gydol cylch bywyd: beth gall gwrthrychau o'u bywydau ei ddweud wrthym am eu safbwyntiau? Ymunwch â ni am sesiwn yn trin arteffactau hynod ddiddorol o'r Ganolfan Eifftaidd.
Ditectifs Ar-lein: Adnabod y Ffugiadau Dwfn a Ble ar y Ddaear? A allwch chi adnabod y ffugiadau dwfn a dyfalu'r lleoliadau o'u ffotograffau? A ydynt yn cael eu tynnu gan bobl sy'n profi digwyddiadau'n uniongyrchol neu ai ffugiadau dwfn ydynt? Mae geo-leoli ac adnabod ffugiadau dwfn yn hanfodol i ymddiriedaeth mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn achos ymchwiliadau hawliau dynol yn rhyngwladol, megis yn Wcráin a Syria.
O Elw i Gynaliadwyedd: Ystyr Lles yng Nghyd-Destun Busnes: Beth mae'n ei olygu i fod yn fusnes ‘pwrpasol’ – sy'n cydbwyso elw, pobl a'r blaned? Pa egwyddorion lles gall sefydliadau eu mabwysiadu i hybu arloesi cymdeithasol yng Nghymru? Os ydych chi’n berchen ar fusnes neu os oes gennych ddiddordeb mewn syniadau newydd ym maes busnes, lles ac arloesi, dewch draw am sgwrs â'n tîm cyfeillgar!
Y Goeden Dysgu Gydol Oes: Beth mae dysgu'n ei olygu i chi? Bydd Lola, y Goeden Dysgu Gydol Oes, ar gael i roi cyfle i gyfranogwyr ddewis deilen liwgar ac ychwanegu eu meddyliau am ddysgu at y canghennau.
Cysylltiadau cymunedol: datblygu sgyrsiau ar gyfer lles: Yn seiliedig ar y prosiect ‘Cysylltiadau Cymunedol a Lleoedd Llesol Abertawe’, gall cyfranogwyr gael diod boeth, gwylio'r animeiddiad newydd am Leoedd Llesol Abertawe, codi pecyn o gardiau sgwrsio a chael sgyrsiau hamddenol â phobl newydd. Bydd cardiau sgwrsio gwag ar gael os oes ysbrydoliaeth am gwestiwn newydd. Mae Lleoedd Llesol Abertawe yn lleoedd cynnes a chroesawgar a geir ar draws y ddinas, sy'n cael eu rheoli a'u cefnogi gan grwpiau cymunedol, sefydliadau ac elusennau.