Sut olwg a allai fod ar addysg, swyddi a gwaith ledled Cymru erbyn 2035? Mae academydd o Abertawe'n gwahodd cyfraniadau i helpu gwaith grŵp arbenigol sydd am i Gymru gyrraedd y targed sero net erbyn 2035 yn hytrach na 2050.
Mae Dr Jennifer Rudd yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ac yn aelod o Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035, sy'n gorff annibynnol, wrth i bryderon am yr argyfwng hinsawdd gynyddu. Mae'r grŵp, dan arweiniad Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd gynt, yn cynnwys 25 aelod annibynnol, di-dâl.
Mae'r grŵp yn archwilio ffyrdd o gyflymu'r broses o gyflawni ymrwymiadau Cymru o ran newid yn yr hinsawdd. Rhannwyd ei waith yn bum maes her, megis diogelwch bwyd ac ynni, bywoliaethau gwledig a chyfleoedd economaidd.
Ym mhob maes, mae'r grŵp wedi bod yn ceisio safbwyntiau, syniadau a phrofiadau i'w helpu i fynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu llunwyr polisi yng Nghymru.
Bellach, mae’r sylw ar faes addysg, swyddi a gwaith, wedi'i gyd-gadeirio gan Dr Rudd a Ben Rawlence, Cyfarwyddwr Coleg y Mynydd Du yn Aberhonddu.
Esboniodd Dr Jennifer Rudd waith y grŵp a pha gyfraniadau roedd ei aelodau’n chwilio amdanynt:
“Rydyn ni'n archwilio sut olwg a allai fod ar addysg, swyddi a gwaith yng Nghymru yn 2035. Rydyn ni am glywed syniadau a phrofiadau ynghylch sut gallai Cymru fod yn sero net yn y maes hwn erbyn y dyddiad hwnnw. Rydyn ni'n chwilio am safbwyntiau, astudiaethau achos a thystiolaeth sy'n berthnasol.
Rydyn ni'n gwahodd unrhyw un yn y maes i gyfrannu: pobl sy'n gweithio mewn meysydd fel pontio teg, sgiliau gwyrdd, newid yn yr hinsawdd neu addysg amgylcheddol, incwm sylfaenol cyffredinol a phontio gwyrdd.
Rydyn ni'n fwyfwy ymwybodol o'r argyfwng hinsawdd a'i ystyr i ni, ond mae diffyg gweithredu cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ar hyn o bryd. Mae'r Grŵp Sero Net yn bodoli i ddychmygu'r dyfodol drwy hyrwyddo'r hyn y gellid ei gyflawni.
Mae cyrraedd sero net ym maes addysg a sgiliau'n wahanol i unrhyw un o'r heriau eraill a lansiwyd hyd yn hyn ac mae'n mynd ymhellach na chyfrif carbon neu greu isadeiledd newydd. Mae'r her hon yn rhoi'r cyfle i ni lywio meddyliau'r rhai hynny a fydd yn llywio'r dyfodol, drwy'r cwricwlwm newydd i Gymru, yn ogystal â thrwy ailhyfforddi ac uwchsgilio'r gweithlu presennol i gyd-fynd â phontio teg.”
Meddai Ben Rawlence, Cyfarwyddwr Coleg y Mynydd Du ac aelod o'r Grŵp Herio:
“Mae addysg gyhoeddus yn her drawsbynciol hanfodol wrth gyflawni'r targed sero net neu unrhyw drawsnewidiad cymdeithasol mawr; os gall pobl ddeall yr argyfwng, yna gallan nhw ddeall y cyfle i sicrhau tegwch i bawb wrth bontio i Gymru sy'n fwy cynaliadwy a chydnerth.”
Ceir gwybodaeth ynghylch sut i gyfrannu ar wefan Sero Net 2035
Y canlynol yw pum maes herio'r Grŵp Sero Net:
- Sut y gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?
- Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a chael gwared ar danwydd ffosil yn raddol?
- Sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 2035?
- Sut olwg a allai fod ar addysg, swyddi a gwaith ledled Cymru erbyn 2035?
- Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
Disgwylir i waith grŵp Cymru Sero Net 2035 barhau tan haf 2024.