Mae myfyrwraig nyrsio sy'n destun ysbrydoliaeth wedi graddio o Brifysgol Abertawe, gan gyflwyno'r cyflawniad anhygoel hwn er teyrnged i'w diweddar chwaer, a ysgrifennodd gerdyn llongyfarch twymgalon cyn ei marwolaeth drist.
Roedd Catherine Jones, 32 oed, o Benfro, ym mlwyddyn gyntaf ei chwrs BSc Nyrsio Oedolion pan gydnabu fod symptomau ei chwaer, Emily Winterford, yn peri pryder.
Ymysg cefndir pandemig Covid, cymhlethdodau'r cyfnodau clo a chyfyngiadau ar ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, gwelodd Catherine o lygad y ffynnon ba mor anodd ydoedd i'w chwaer gael atebion.
“Roedd Emily yn feichiog yn ystod Covid pan oedd hi'n eithriadol o anodd cael mynediad i’w meddygfa leol, ond ar ôl galwadau ffôn niferus, gwelodd hi rywun yn y diwedd a chafodd ddiagnosis o hemoroid wedi'i thrombosio,” meddai Catherine.
“Dywedwyd wrthi hi y byddai hi'n gallu cael triniaeth ar ôl i'r baban gael ei eni, ond wnaeth hyn ddim digwydd, ac ar ôl sawl apwyntiad a thaith i'r adran damweiniau ac achosion brys, doedd neb yn ein trin o ddifrif o hyd.
“Roedd ei phoen yn llawer gwaeth na roedd hi'n ei ddisgrifio, a dechreuais i bryderu ei bod hi wedi cael diagnosis anghywir.”
A hithau yn ail flwyddyn ei gradd bellach, roedd Catherine yn benderfynol o ddefnyddio ei gwybodaeth gynyddol i ddadlau o blaid cynnal ymchwiliad meddygol brys i achos ei chwaer.
“Un noson, roedd hi yn y bath yn ceisio lliniaru'r poen a meddyliais i mai digon yw digon. Codais i hi ac es i â hi i'r ysbyty,” meddai Catherine.
“Gyda Covid yn rhemp o hyd, doedd dim modd i mi fynd i mewn gyda hi, felly ysgrifennais i ar ddarn o bapur, ‘Mae hi wedi cael diagnosis o hemoroid wedi'i thrombosio, ond rwyf am iddi gael ei harchwilio am ganser yr anws,’ a rhoddais i ef i'r derbynnydd.
“Diolch byth, dywedodd y nyrs a oedd yn brysbennu y byddwn i'n gallu dod i mewn i gefnogi Emily, a oedd yn hynod ofidus, gan ei bod hi wedi cael ei gweld lawer o weithiau o'r blaen ac roedd cael ei gadael yn y cyflwr hwn am gyhyd wedi rhoi ysgytwad iddi.”
Ar ôl aros am oriau, daeth meddyg iau i weld Emily, ond dywedwyd wrthi ei bod ar y rhestr aros o ran y colon a'r rhefr ac y byddai angen iddi aros am apwyntiad.
Meddai Catherine: “Wnes i ddim derbyn hyn ac ar ôl iddyn nhw sylweddoli na fydden ni'n gadael nes i ni weld meddyg ymgynghorol, cytunodd y meddyg i uwchgyfeirio achos Emily.”
Y diwrnod nesaf, anfonwyd Emily am fiopsïau brys, gan ddatgelu tiwmor 8cm yn ei phibell refrol a oedd wedi ymledu i'r nodau lymff yng nghesail y forddwyd.
Camodd Catherine ymlaen ar unwaith i gefnogi ei chwaer, gan fynd â hi i apwyntiadau meddygol a gofalu am ddau blentyn Emily, Roxanna a Sapphire, a oedd yn un oed ac yn chwech oed ar y pryd, a hynny wrth gyflawni ei 2,300 o oriau ar leoliadau gwaith a chydbwyso ei chyfrifoldebau fel myfyriwr a rhiant.
“Roedd pawb yn arfer dweud, ‘Dwi ddim yn gwybod sut rydych chi'n ei gwneud hi. Rhaid eich bod chi wedi ymlâdd yn llwyr,’ ond doeddwn i ddim. Rwy'n meddwl mai'r adrenalin oedd yn gyfrifol,” meddai Catherine.
“Cyn iddi hi fynd yn sâl, roedd Emily bob amser yn edrych ar fy ôl i. Wnes i ddim sylweddoli faint o faldod roeddwn i'n ei gael nes iddi fynd yn wael, ac roedd rhaid i mi ymddwyn fel y ‘chwaer fawr’.”
Gwaetha'r modd, dirywiodd cyflwr Emily yn gyflym a chafodd ei symud i hosbis yn Llanelli, lle bu farw, yn 33 oed, ym mis Mehefin, yng nghwmni ei hanwyliaid.
Er gwaethaf y golled bersonol aruthrol, roedd Catherine yn benderfynol o anrhydeddu dymuniadau Emily.
“Roedd hi'n bwysig iddi hi fy mod i'n peidio â rhoi'r gorau i'm gradd, ond doedd hynny ddim yn hawdd, a fyddwn i ddim wedi llwyddo heb y cymorth a ges i gan y Brifysgol, yn enwedig gan fy nhiwtor academaidd, Sara Newell.
“Os oedd angen i mi drefnu lleoliadau gwaith neu estyniadau, roedd hi yno i helpu, gan wybod beth oedd ei angen arna i, a hynny cyn i mi wybod,” meddai Catherine. “Pe na bai Sara wedi bod yn gefn i mi, byddwn i wedi gohirio a fyddwn i ddim wedi dychwelyd.”
Meddai Sara Newell, darlithydd mewn nyrsio o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae Cath wedi parhau i fod yn eithriadol o broffesiynol a chadarnhaol yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi ymateb i'w phrofiadau anodd iawn ei hun a rhai Emily drwy fod yn benderfynol o wireddu ei photensial fel nyrs.
“Mae hi'n frwd am ddadlau o blaid y bobl hynny a'u teuluoedd nad oes modd iddyn nhw ddadlau drostyn nhw eu hunain. Rwyf i a'r tîm addysgu ar Gampws Parc Dewi Sant mor falch ohoni.”
Gan sylweddoli na fyddai yno i ddathlu'n bersonol, roedd Emily am sicrhau y byddai ei chwaer fach yn gwybod pa mor falch ydoedd.
“Ysgrifennodd hi gerdyn i mi ei ddarllen ar ôl i mi orffen fy astudiaethau,” meddai Catherine. “Mae'n werth y byd i mi oherwydd, ar yr adeg pan ysgrifennodd hi'r cerdyn, roedd hi'n hapus gan wybod y byddwn i'n graddio ryw ddydd.
“Pe bai hi yma o hyd, byddai hi wedi bod yn bloeddio'n uwch na neb, gan gynhyrfu'n fwy na phe bai hi'n graddio ei hun.”
Mae Catherine, sy'n mynd drwy'r broses o ddod yn warcheidwad cyfreithiol am ei nithoedd, bellach yn gweithio yn uned iechyd meddwl Surehaven yn Noc Penfro.
Meddai: “Rwy'n dwlu ar fy swydd, ac un peth cadarnhaol sydd wedi deillio o brofiad fy nheulu yw fy ymrwymiad i ddadlau o blaid fy nghleifion yn y modd gorau posib, gan sicrhau nad oes rhaid i bobl eraill wynebu'r un heriau â'm chwaer.”