Mae ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Zurich wedi canfod bod siarcod wedi cadw lefelau uchel o amrywiaeth swyddogaethol am y rhan fwyaf o'r 66 miliwn o flynyddoedd diwethaf, cyn dirywio'n gyson yn ystod y 10 miliwn o flynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y gwerth isaf a gofnodwyd erioed heddiw.
Mae siarcod modern ymhlith y rhywogaethau dan y bygythiad mwyaf yn y cefnfor; ond eto maent wedi goroesi nifer o newidiadau amgylcheddol yn ystod eu hanes sy’n rhychwantu 250 miliwn o flynyddoedd. Heddiw, mae mwy na 500 o rywogaethau gwahanol o siarcod ac mae ganddynt oll rolau ecolegol gwahanol, o ysglyfaethwyr trech i gludwyr maetholion.
Caiff rolau ecolegol eu pennu gan nodweddion rhywogaethau megis maint y corff a'r hyn y maent yn ei fwyta a faint. Felly drwy fesur amrywiaeth y nodweddion hyn, gall gwyddonwyr fesur amrywiaeth y rolau ecolegol mewn cymuned, a adwaenir hefyd fel amrywiaeth swyddogaethol.
Gan fod gan siarcod sgerbydau cartilagaidd nad ydynt yn debygol o ffosileiddio, mae'n anodd mesur y nodweddion hyn yn uniongyrchol mewn rhywogaethau diflanedig. Fodd bynnag, gall mesuriadau o'u dannedd, sy'n galed ac felly wedi'u cadw'n dda yn y cofnod ffosiliau, weithredu fel procsiaid nodweddion, y gellir eu defnyddio yn eu tro i fesur amrywiaeth swyddogaethol yn y gorffennol daearegol.
Dywedodd y prif awdur, Jack Cooper, sy'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe: "Gall mesuriadau megis maint a siâp dannedd a'u mathau o ymylon adlewyrchu'n eang nodweddion swyddogaethol siarcod megis maint y corff a’u deiet, gan ganiatáu i ni asesu eu hamrywiaeth swyddogaethol ar hyd y blynyddoedd.”
Gwnaeth yr ymchwilwyr fesur mwy na 9,000 o ddannedd ffosil a dannedd siarcod byw gan oddeutu 500 o rywogaethau, a gasglwyd o gasgliadau llenyddol ac mewn amgueddfeydd. Mesurwyd amrywiaeth swyddogaethol yn ystod y cyfnod Cainosöig, o 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at heddiw.
Canfuwyd bod y siarcod wedi cynnal lefelau uchel o amrywiaeth swyddogaethol - sy'n awgrymu eu bod wedi cynnal amrywiaeth eang o rolau ecolegol - am y rhan fwyaf o'r cyfnod Cainosöig.
Cyrhaeddodd yr amrywiaeth hon uchafbwynt oddeutu 20 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Mïosenaidd. Fodd bynnag, gwnaethant hefyd ganfod bod hyd a lled swyddogaethau ecolegol siarcod wedi bod yn dirywio'n gyson dros y 10 miliwn o flynyddoedd diwethaf, wrth i amrywiaeth swyddogaethol siarcod heddiw gyrraedd ei gwerth isaf erioed ar unrhyw adeg yn ystod y 66 miliwn o flynyddoedd diwethaf.
Drwy fesur cyfraniadau ecolegol rhywogaethau unigol, gwnaeth yr ymchwilwyr ganfod mai colledion rhywogaethau ecolegol unigryw ac arbenigol oedd wedi sbarduno'r dirywiad a nodwyd. Ymhlith colledion o'r fath oedd difodiant y megalodon, sef y siarc mwyaf erioed, a oedd yn uwch-ysglyfaethwr trech. Roedd gan y megalodon rôl ecolegol nad oes unrhyw siarc sy'n byw heddiw yn ymgymryd â hi.
Ychwanegodd: "Ar ben sylwi ar ddirywiad amlwg mewn amrywiaeth swyddogaethol, gwnaethon ni hefyd ganfod i siarcod darfodedig ar y cyfan gyfrannu at amrywiaeth ehangach o rolau ecolegol o’u cymharu â siarcod byw."
Yn y pen draw mae'r canlyniadau'n rhybuddio ei bod hi i bob pwrpas yn debygol bod bygythiadau dynol, megis gor-bysgota, wrthi’n gyrru siarcod heddiw tuag at ddifodiant, gan ddinistrio ymhellach gyfraniadau ecolegol siarcod, sydd eisoes wedi dirywio i raddau helaeth, at swyddogaethau’r ecosystem.
Dywedodd Dr Catalina Pimiento, Athro ym Mhrifysgol Zurich ac Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe: "Drwy adnabod y rhywogaethau modern a chanddynt rai o nodweddion swyddogaethol y cyfnod Cainosöig, mae gan ein hastudiaeth y potensial i ategu blaenoriaethau cadwraeth ar gyfer cynnal amrywiaeth swyddogaethol siarcod yn ein byd sy'n newid."
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn Global Ecology and Biogeography.
Darllenwch y papur yn llawn: The rise and fall of shark functional diversity over the last 66 million years