Tair menyw - dwy ohonynt yn nyrsys mewn iwnifform - o amgylch gwely ysbyty gyda mannikin hyfforddi

Myfyrwyr nyrsio plant, Rosie Read (ar y chwith) a Carys Evans gyda'r uwch-ddarlithydd nyrsio plant, Virginia Beckerman.

Mae ymarferwyr proffesiynol gofal iechyd y dyfodol yn elwa nawr o fuddion cyfleusterau hyfforddi arloesol Prifysgol Abertawe.

Mae dau safle Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe (SUSIM) yn gartref i'r dechnoleg wal ymdrochi fwyaf yn y byd. 

Mae gan y prif gampws wyth ystafell â waliau ymdrochi wedi'u cefnogi gan dîm o dechnolegwyr efelychu ac academyddion arbenigol, ynghyd â thair ystafell ychwanegol ar gampws y Brifysgol yng ngorllewin Cymru. 

Mae'r cyfleusterau unigryw hyn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu ac ymarfer sgiliau a gwaith tîm mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd bywyd go iawn wedi'u hefelychu. Maent hefyd yn cael cyfle i weithio gyda dysgwyr o gyrsiau gofal iechyd yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol, sy'n ail-greu'r amgylchedd gwaith tîm amlddisgyblaethol y byddant yn ei brofi yn eu bywydau proffesiynol. 

Yn ôl y myfyriwr nyrsio plant, Rosie Read, roedd y ganolfan wedi bod o gymorth enfawr iddi yn ystod ei hyfforddiant: "Mae'n rhoi cyfle i ti ymdrochi mewn amgylchedd realistig ac yn cynnig lle diogel i ddysgu ar yr un pryd. Hefyd, gallwn ni ddatblygu sgiliau newydd a rhyngweithio â phobl o ddisgyblaethau eraill, sy'n baratoad da ar gyfer lleoliad gwaith ac ymarfer ar ôl cymhwyso." 

Dywedodd ei chyd-fyfyriwr nyrsio, Chloe Woodbridge, ei bod wedi magu hyder oherwydd SUSIM: "Mae'r dechnoleg anhygoel yn darparu amgylchedd gofal iechyd realistig, sy'n golygu fy mod i wedi cael profiad o ddelio â sefyllfaoedd pwysau uchel. Gwnaeth hyn gynyddu fy hyder gan fy mharatoi ar gyfer ymarfer clinigol." 

Cytunodd ei chydweithiwr, Carys Evans: "Mae cael profiad o sefyllfaoedd gwahanol fel ymateb i glaf ag anaffylacsis a dadebru claf yn rhoi syniad gwell i fyfyrwyr o'r disgwyliadau pan fyddan nhw'n ymarfer go iawn. Mae hefyd yn lleddfu peth o'r pryder a'r ofn sy'n gysylltiedig â'r sefyllfaoedd hyn." 

Ategir yr addysg yn y ganolfan, sy'n meddiannu adeilad cyfan ar Gampws Singleton, gan dair ystafell efelychu ychwanegol ar gampws Parc Dewi Sant y Brifysgol. 

Meddai Virginia Beckerman, sy'n Uwch-ddarlithydd mewn Nyrsio Plant: "Mae'r cyfle i ddysgu ac addysgu drwy efelychu wedi bod yn wirioneddol gadarnhaol. Ar gyfer myfyrwyr nyrsio plant cyn-gofrestru a myfyrwyr nyrsio yn gyffredinol, mae pontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer yn amcan parhaus ac mae efelychu yn dechneg sy’n seiliedig ar dystiolaeth dda i hwyluso'r broses hon. Ni ellir gorbwysleisio buddion datblygu sgiliau a gwybodaeth mewn amgylchedd wedi'i efelychu sy'n ddiogel yn seicolegol."

Yn ôl Arweinydd Efelychu Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Dr David Lee, roedd y ganolfan wedi rhoi hwb i'r hyfforddiant sgiliau clinigol sy'n elfen graidd o'r Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion. 

Meddai: "Mae myfyrwyr o'r flwyddyn gyntaf i'r flwyddyn olaf wedi cael cyfle i ymdrochi mewn sefyllfaoedd clinigol realistig sy'n eu paratoi ar gyfer bywyd fel meddyg newydd gymhwyso. Ar wahân i ail-greu wardiau, theatrau ac amgylcheddau gofal sylfaenol yn realistig, mae'r amgylchedd ymdrochi hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddehongli data a datrys problemau clinigol gyda'i gilydd. Mae hyn yn meithrin sgiliau diagnostig sylfaenol meddygaeth, ochr yn ochr â'r sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm craidd sy'n creu gweithlu effeithlon ac effeithiol i'r GIG. 

Meddai Pennaeth Efelychu (SUSIM), yr Athro Cysylltiol Jo Davies: "Rydyn ni'n hynod falch o bopeth rydyn ni wedi'i gyflawni a'r ffaith ein bod bellach ar flaen y gad mewn addysg gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig. 

"Yn ogystal â bod yn ased amhrisiadwy i'n dysgwyr presennol, mae'r ganolfan hefyd yn atyniad mawr i ddarpar fyfyrwyr. Mae diwrnodau agored wedi cynnwys teithiau o'n cyfleusterau yng nghwmni ein tîm efelychu profiadol, ac mae'r adborth wedi amlygu dylanwad cadarnhaol ar fyfyrwyr y cyfleoedd dysgu gwych a fydd ar gael iddyn nhw yn Abertawe." 

Meddai Deon Gweithredol y Gyfadran a Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Keith Lloyd: "Rydyn ni'n hyderus y gallwn ni annog rhagor o bobl i ystyried ymuno â'n gweithlu gofal iechyd drwy gynnig profiad dysgu dynamig heb ei ail, gan wybod y byddan nhw'n cael yr hyfforddiant gorau yma yn Abertawe." 

Nid myfyrwyr yn unig sy'n elwa o'r datblygiad. Mae'r ganolfan hefyd yn cael ei defnyddio gan fyrddau iechyd i ddatblygu a hyfforddi eu gweithluoedd ymhellach. Mae'r profiad ymdrochi unigryw a'r dechnoleg hefyd ar gael i asiantaethau allanol eu llogi a gallant addasu'r lleoliad a'r sefyllfaoedd ar gyfer eu gofynion hyfforddi nhw. 

Rhagor o wybodaeth am gyrsiau gofal iechyd ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori