Bydd Prifysgol Abertawe'n gweithio fel rhan o gydweithrediad i fynd i'r afael ag allyriadau hinsawdd byd-eang drwy archwilio dull gwahanol o adeiladu adeiladau uchel.
Bydd ymchwilwyr o'r Brifysgol yn gweithio gyda thimau o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Caerfaddon ar y prosiect LOCAST (Strwythurau Carbon Isel) gwerth £1.2m a ariennir gan UKRI a fydd yn edrych ar ffyrdd arloesol o lanhau adeiladau uchel iawn.
Mae adeiladau uchel yn defnyddio gofod trefol yn effeithlon, ac adeiledir miloedd ohonynt ledled y byd ar hyn o bryd. Ond mae cost carbon uchel i'w hadeiladu o'i chymharu â'r un gofod llawr wedi'i wasgaru ar draws nifer o adeiladau is. Gallai adeiladu bloc tŵr greu'r un allyriadau â gyrru car petrol am biliwn o gilometrau, hyd yn oed cyn i unrhyw un symud i mewn iddo.
"Rydyn ni mewn sefyllfa lle mae gwresogi a goleuo mor effeithlon nes bod y rhan fwyaf o'r allyriadau hinsawdd gydol oes o unrhyw adeilad newydd yn deillio o wneud y concrit, y dur a'r gwydr sy'n mynd i mewn iddo," meddai'r Athro Ian Walker, seicolegydd amgylcheddol o Brifysgol Abertawe, a gyd-ysgrifennodd y cais am gyllid.
"Byddai defnyddio llai o'r deunyddiau hyn mewn adeiladau uchel yn lleihau'r allyriadau o'r amgylchedd adeiledig yn sylweddol. Ond i wneud hyn, mae angen i ni ddeall sut byddai gwneud adeiladau uchel yn fwy ysgafn yn effeithio ar y bobl tu mewn iddyn nhw".
Pobl yw'r elfen hanfodol yma. Nid yw'r rheswm pam mae peirianwyr yn rhoi cymaint o ddeunydd mewn adeiladau uchel yn ymwneud â diogelwch, ond fel na fydd eu preswylwyr yn teimlo eu bod yn siglo yn y gwynt, hyd yn oed mewn tywydd eithaf eithafol. Bydd y prosiect LOCAST yn herio'r dull hwn drwy fesur faint o symudiad y gall pobl ei deimlo pan fydd adeiladau'n siglo, asesu sut y gallai preswylwyr gael eu heffeithio pe bai'r adeiladau'n fwy hyblyg, a gofyn a allem alluogi dull adeiladu carbon is drwy newid disgwyliadau pobl ynghylch sut y dylai adeiladau ymddwyn.
"Mae adeiladau uchel yn cael eu taro'n gyson gan wyntoedd, ac felly maen nhw wir eisiau siglo," meddai'r Athro Alex Pavic o Brifysgol Caerwysg, yr arbenigwr mewn dirgryniad strwythurol sy'n enwog am helpu'r tîm a wnaeth ddatrys y siglo ym Mhont y Mileniwm Llundain.
"Mae eu dylunwyr yn defnyddio llawer o goncrit a dur ychwanegol i atal pobl rhag teimlo unrhyw symudiad, ac mae hyn oll yn arwain at miliynau o dunelli o allyriadau carbon ledled y byd. Ond nid ydym yn gwybod a yw hyn yn angenrheidiol hyd yn oed! Nid oes neb erioed wedi mesur yn ddibynadwy faint o symud y gall pobl y tu mewn i adeilad ei deimlo, p'un a yw'n bwysig os ydyn nhw'n teimlo'r peth, neu a allai pobl ddod i arfer ag adeilad yn siglo hyd yn oed os oedd yn eu poeni i ddechrau."
Ychwanegodd Dr Jennifer Davies, ffisiolegydd o Brifysgol Caerdydd sy'n arbenigo mewn ystum a symudiad dynol:
"Wedi'r cyfan, mae'r rhan fwyaf o bobl yn hapus wrth eistedd, neu hyd yn oed gweithio, y tu mewn i drên sy'n siglo ac yn bownsio dros y lle i gyd. Maen nhw'n disgwyl teimlo trên yn symud ac felly nid yw'r symudiad yn eu synnu. A allem osgoi defnyddio miliynau o dunelli o goncrit a dur pe bai pobl yn disgwyl i adeiladau symud ychydig? A yw'n realistig eistedd 200 metr i fyny yn yr awyr a bydd yn teimlo'n union yr un fath â byngalo?"
Mae'r ymchwilwyr o Gymru a de-orllewin Lloegr wedi creu tîm rhyngddisgyblaethol i ateb cwestiynau fel y rhain. Byddant yn defnyddio efelychydd symudiad strwythurol blaenllaw y DU, sef VSimulators, sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n galluogi ymchwilwyr i siglo ystafell fach a reolir gan yr hinsawdd yn fanwl gywir wrth ddefnyddio realiti rhithwir i greu amgylchedd mewnol a golygfeydd realistig iddi. Bydd y cyfleuster hwn – a ddatblygwyd yn wreiddiol gan aelodau o'r un tîm - yn gadael i'r prosiect LOCAST fesur pob dolen yn y gadwyn: bydd peirianwyr strwythurol yn edrych ar sut mae adeiladau uchel go iawn yn siglo yn y gwynt ac yn ail-greu hyn yn yr efelychydd, lle bydd ffisiolegwyr yn mesur sut mae'r symudiad yn effeithio ar gyrff pobl a bydd seicolegydd yn mesur sut mae'r ymatebion hyn i'r corff – yn ogystal â disgwyliadau pobl o symud – yn dylanwadu ar gysur, lles a pherfformiad yn y gweithle.
Bydd y tîm yn trosglwyddo canfyddiadau'r prosiect i'r diwydiant adeiladu, gyda'r gobaith y bydd y rhain yn sail i'r genhedlaeth nesaf o godau dylunio adeiladau. Gallai cael safonau'r diwydiant i newid i gefnogi mwy o adeiladau ysgafn alluogi arbedion carbon - ac arbedion cost - ar lefel fyd-eang.
"Efallai mai'r agwedd fwyaf cyffrous ar y prosiect hwn yw na fydd yn ymwneud â nendyrau yn unig," meddai Dr Antony Darby, peiriannydd strwythurol o Brifysgol Caerfaddon a helpodd i ddylunio'r cyfleuster profi a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith hwn.
"Ydy, mae'n edrych fel y bydd 40,000 o adeiladau uchel ac uchel iawn yn cael eu hadeiladu ledled y byd cyn 2050, ac mae angen i ni ofyn ar frys a allem leihau'r allyriadau carbon enfawr sy'n gysylltiedig â chreu'r rhain. Ond gallem hefyd fod yn adeiladu llawer o adeiladau is a chanolig o ddeunyddiau cynaliadwy fel pren, a bydd y rhain yn siglo hefyd, efallai'n fwy. Drwy edrych ar beth mae hyn yn ei olygu i bobl mewn amrywiaeth eang o adeiladau, gallwn geisio lleihau allyriadau hinsawdd ar draws pob math o ddyluniadau yn y dyfodol - nid nendyrau yn unig."