Sut i ddiwallu anghenion addysgol plant y mae gwrthdaro ac argyfwng yn effeithio arnynt oedd testun digwyddiad i arbenigwyr rhyngwladol ar 16 ac 17 Medi, a gynhaliwyd gan Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe.
Daeth y digwyddiad ag academyddion blaenllaw, arbenigwyr maes, swyddogion polisi a gweithwyr proffesiynol cyrff anllywodraethol ynghyd o 20 sefydliad o'r DU, Algeria, Bangladesh, Zimbabwe a Rwanda.
Teitl y digwyddiad oedd “Contemporary Issues in Educational Research for Children Affected by Conflict and Crisis”.
Yn ogystal â gwaith ymchwil yn y maes, roedd y rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau polisi a chyfleoedd ariannu. Cafwyd cyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol, lle cafodd y cyfranogwyr gyfle i ymgysylltu â lleisiau blaenllaw yn y maes. Roedd y pynciau'n cynnwys lleoedd i chwarae a dulliau addysgu sy'n seiliedig ar y celfyddydau.
Ar ôl cael anerchiad agoriadol gan yr Athro Andy Townsend, Pennaeth yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, cafwyd cyfraniadau gan yr Inter Agency Network for Education in Emergencies (INEE), a roddodd ddealltwriaeth o'u rôl yn y maes hwn, a chan Chris Berry o'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) a arweiniodd drafodaeth ar flaenoriaethau llywodraethol presennol ar gyfer ymchwil addysg mewn argyfwng a gwrthdaro.
Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth bwrdd crwn ar ffyrdd o symud ymlaen, gan adael cyfranogwyr wedi'u hysbrydoli ac yn barod i weithredu'r syniadau a'r strategaethau a rannwyd dros y ddeuddydd. Yn wir, mae gwaith i sicrhau cyllid ar gyfer rhai prosiectau ar y cyd newydd eisoes wedi dechrau.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan gynnig llwyfan am drafodaethau bywiog, cynnig syniadau arloesol ac archwilio tueddiadau ymchwil allweddol ym maes ymchwil addysg mewn argyfwng a gwrthdaro.
Gwnaed hyn yn bosib drwy gyllid gan yr FCDO a'r Academi Brydeinig fel rhan o Raglen Cadair Ddwyochrog yr Academi Brydeinig. Mae'r rhaglen hon yn rhan o brosiect gwerth dros £20m gan yr FCDO o'r enw ERICC, sy'n canolbwyntio ar nodi a gweithredu arfer gorau wrth ddylunio ymchwil i gefnogi plant y mae argyfwng a gwrthdaro hirfaith yn effeithio arnynt.
Dim ond tair Cadair Ymchwil Ddwyochrog yr Academi Brydeinig a geir yn rhyngwladol ac mae un ohonynt gan Dr Justine Howard o Brifysgol Abertawe.
Mae Cadair Dr Howard yn dod â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol BRAC yn Bangladesh ynghyd, yn benodol Sefydliad Llywodraethu a Datblygu BRAC (BIGD), a Sefydliad Datblygiad Addysgol BRAC (IED). Yn y rôl hon, mae Dr Howard yn arwain portffolio eang o brosiectau sy'n ceisio cyfoethogi addysg a datblygiad plant y mae argyfwng a gwrthdaro wedi effeithio arnynt yn Cox’s Bazar, Algeria a'r DU.
Meddai Dr Justine Howard o Brifysgol Abertawe, Cadair yr Academi Brydeinig:
"Mae ymchwil addysgol i blant y mae argyfwng a gwrthdaro wedi effeithio arnynt yn fater pwysig a chyfredol. Roedd y lleoliad yn cynnig yr awyrgylch perffaith am gyfnewid deallusrwydd a rhwydweithio. Roedd yn gyfle gwych i gysylltu â chymheiriaid o bedwar ban byd ac i ddysgu gan gyd-arbenigwyr yn y maes. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â phartneriaid newydd ar gynlluniau yn y dyfodol.
Mae llwyddiant y digwyddiad hwn gan yr Academi Brydeinig, a gynhaliwyd gan Abertawe, yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i feithrin cydweithio a rhannu gwybodaeth yn y gymuned addysg ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Mae cynlluniau eisoes ar waith i weithredu rhai o'r mentrau a awgrymwyd gan gynrychiolwyr ac am ddigwyddiad arall yn y dyfodol, sy'n addo adeiladu ar fomentwm cyflawniadau eleni".