Mae arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe sy'n ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl anabl wedi ennill ysgoloriaeth deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, gan ei galluogi i ddatblygu ei hymchwil ymhellach.
Mae Natalie Jarvis yn ei thrydedd flwyddyn o astudio am PhD yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn archwilio profiadau gwirfoddolwyr anabl yng Nghymru, â'r nodau o sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a chreu cymdeithas fwy cynhwysol.
Enillodd Natalie ddyfarniad gan Y Cwmni mewn cystadleuaeth a oedd ar agor i ymchwilwyr gyrfa gynnar ym Mhrifysgol Abertawe.
O ganlyniad i'r dyfarniad, cafodd gyfle i gyflwyno ei hymchwil yng nghynhadledd Cymdeithas Reoli Prydain a gynhaliwyd yn ddiweddar ac sy'n un o'r prif gynulliadau ar gyfer arbenigwyr yn ei maes. Yn ystod y gynhadledd, cyflawnodd Natalie lwyddiant arall, gan ennill ail le yn y gystadleuaeth posteri ymchwil.
Mae ymchwil PhD Natalie yn seiliedig ar gyfweliadau â phobl yng Nghymru ag amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd am yr heriau maent yn eu hwynebu wrth fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli. Mae ei gwaith yn pwysleisio'r buddion economaidd a'r rhagolygon cyflogadwyedd y mae gwirfoddoli yn eu cynnig i bobl anabl. Mae gan ei hymchwil botensial i lywio polisi ac ymarfer, gan hyrwyddo cydraddoldeb a chyfleoedd i unigolion anabl yng Nghymru.
Meddai Natalie Jarvis:
"Diolch i'r cyllid teithio gan Gwmni Lifrai Cymru, roeddwn i'n gallu teithio i Nottingham, aros yno a chymryd rhan yn y gynhadledd.
Roedd yn ddigwyddiad gwych gydag academyddion uchel eu parch a llawer o gyfleoedd i rwydweithio. Roedd llawer o'r prif siaradwyr yn academyddion dwi wedi darllen ac edmygu eu gwaith. Cefais i'r pleser o gyflwyno poster a sbardunodd lawer o sgyrsiau ag eraill yn y gynhadledd.
Dwi wrth fy modd fy mod i wedi ennill yr ail wobr am fy nghyflwyniad poster, a oedd yn syndod anferth. Mae hyn wedi bod yn gyfle gwych i hyrwyddo fy ymchwil a fyddai ddim wedi bod yn bosib heb y cyllid hwn.
Diolch yn fawr iawn am y cyfle."
Mewn datganiad ar y cyd, meddai'r Athro Katrina Pritchard, Dr Helen Williams a Dr Leanne Greening, goruchwylwyr ymchwil PhD Natalie:
"Fel tîm goruchwylio Natalie, rydyn ni wrth ein boddau ei bod wedi ennill yr ysgoloriaeth o fri hon. Rydyn ni mor falch o Natalie a'i hymchwil. Mae hi'n enghraifft o'r ymchwil ôl-raddedig o'r radd flaenaf sy'n cael ei gwneud ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae brwdfrydedd Natalie am ei hymchwil yn ysbrydoli ei chyd-fyfyrwyr PhD a myfyrwyr ar y rhaglen BSc Rheoli Busnes yn yr Ysgol Reolaeth. Bellach mae Natalie yn ysgrifennu ei thraethawd ymchwil ac mae'n benderfynol y bydd ei hymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar brofiadau gwirfoddolwyr ag anableddau a chyflyrau iechyd."
Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ym 1993 ac un o'i nodau yw "hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru." Mae'n cyflawni hyn drwy helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau drwy raglen dyfarniadau flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal â phrentisiaethau a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Roedd Meistr Y Cwmni, Agnes Xavier-Phillips, YH DL yn falch iawn bod Natalie wedi derbyn y dyfarniad hwn. Meddai:
"Un o nodau'r Cwmni yw annog a chefnogi myfyrwyr i barhau â phrosiect penodol. Rydym yn codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol amrywiol a hefyd drwy ymgyrchoedd codi arian ymhlith aelodau'r Cwmni Lifrau ond yn y gymuned ehangach yng Nghymru. Rydym yn annog sefydliadau yng Nghymru sy’n rhannu ein nodau ac sydd â diddordeb mewn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru i gefnogi ein gweithgareddau.
Mae'r prosiect gwerthfawr ac amserol hwn yn dangos sut gall gwaith gwerthfawr o'r fath wneud cyfraniad hollbwysig at ymchwil yng Nghymru. Rydym wrth ein boddau'n gallu cefnogi Natalie i ddatblygu ei phrosiect ymchwil ymhellach.”
Rhagor o wybodaeth am Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru