Mae treftadaeth gyfoethog Cymru yn fwy nag arwydd o'r gorffennol, mae'n ased gwerthfawr a all wella bywydau yng Nghymru heddiw, gan hybu iechyd, gwydnwch a lles, yn ôl tystiolaeth newydd gan brosiect arloesol yng Nghwm Nedd.
Roedd y prosiect yn ymwneud ag adfer efail glofa oes Fictoria fel rhan o Barc Gwledig Craig Gwladus dan reolaeth y gymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot. Un o'i fanteision oedd dysgu sgiliau adeiladu i bobl ifanc o goleg addysg bellach lleol.
Dan arweiniad hanesydd o Brifysgol Abertawe, Dr Alex Langlands, mae'r prosiect yn un o bump ar draws y DU, a elwir yn wobrau'r Ymarferwyr Arloesi Cymunedol (CIP), a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Dros y 12 mis diwethaf, mae'r pum Ymarferwr wedi gweithio gyda phartneriaid o'r llywodraeth, y sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector i ddarparu gwaith ymchwil a datblygu diwylliannol newydd gyda'r nod o wella ymdeimlad o berthyn a balchder mewn lle yn lleol.
Nawr mae canlyniadau'r pum prosiect wedi cael eu rhyddhau, fel cyfres o bodlediadau, astudiaethau achos a phapurau polisi.
Mae'r canlyniadau'n darparu tystiolaeth newydd hanfodol o rym partneriaethau a gweithio gyda chymunedau ym maes treftadaeth, gan ddangos y potensial i lunio a chynnal cymunedau gwydn. Maen nhw'n dangos bod treftadaeth yn gallu bod yn ased gwerthfawr - yn bwysicach fyth mewn ardaloedd fel de Cymru lle mae lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol ac economaidd, ond treftadaeth hynod gyfoethog.
Mae'r prosiect yng Nghwm Nedd yn dangos yn glir werth treftadaeth gymunedol, a'r manteision y gall eu cynnig.
Dan reolaeth yr arbenigwr treftadaeth ac atyniadau Lisa Kirman, mae manteision y prosiect yn cynnwys:
- 2,000 awr o waith gwirfoddol
- Cafodd 15 o fyfyrwyr o'r coleg addysg bellach lleol 77 o ddiwrnodau o brofiad yn dysgu sgiliau newydd mewn adeiladu a chadwraeth.
- Mae heneb dreftadaeth sy'n hanfodol i uchelgeisiau'r parc o ran creu ymdeimlad o le wedi cael ei hailddarganfod a'i sefydlogi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
- Mae'r genhedlaeth nesaf o adeiladwyr cadwraeth wedi cael cyflwyniad i'r mathau o sgiliau y mae eu hangen i gadw adeiladau hanesyddol pwysig Castell-nedd Port Talbot oddi ar y gofrestr 'mewn perygl'.
Meddai Dr Alex Langlands o Brifysgol Abertawe, a arweiniodd y prosiect yng Nghwm Nedd:
"Mae gan Gymru asedau treftadaeth anhygoel a chymunedau sy'n awyddus i ymgysylltu â nhw a'u dathlu. Wrth i doriadau'r llywodraeth i'r celfyddydau a diwylliant effeithio ar ddarparu gwasanaethau, a yw'n bryd meddwl am osod treftadaeth yn fwy canolog o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel ein ffordd o ddarparu Cymru iachach, fwy gwydn a bywiog yn ddiwylliannol?"
Esboniodd Dr Langlands y dystiolaeth a ddarparwyd gan y prosiect:
"Mae wedi nodi'r ystod o arbenigedd a gwybodaeth y mae eu hangen i ysgogi a darparu cyfranogiad mewn treftadaeth wedi'i arwain gan y gymuned.
"O ganlyniad i'r ymchwil, mae cymuned ymarfer wedi dod at ei gilydd i fodelu ffyrdd y gall cyd-greu sicrhau manteision gwirioneddol."
Meddai Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol yr AHRC:
"Mae Cymunedau Creadigol yr AHRC yn ceisio dod ag ymchwil drylwyr ac egwyddor o gyd-greu i adeiladu partneriaethau lleol cryfach. Mae gwobr yr Ymarferwyr Arloesi Cymunedol yn dod ag ymchwil a dealltwriaeth ymarferol at ei gilydd i'n gwneud ni i gyd yn bartneriaid wrth ddatblygu'r potensial sydd gennym, i fod yn ddinasyddion gwell, creadigol a mwy bodlon. Mae'r cynllun hwn yn enghraifft o ymrwymiad yr AHRC o fewn UKRI i wyddoniaeth dinasyddion sy'n cael ei llywio gan dystiolaeth, wedi'i seilio ar ein strategaeth i Drawsnewid Yfory Gyda'n Gilydd."
Darparodd Gwobrau'r Ymarferwyr Arloesi Cymunedol 2023-24 £290,000 i bum ymarferydd ar draws pedair gwlad y DU i weithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau ar draws sectorau gyda'r nod o greu diwylliant newydd i wella cydlyniant cymunedol.
Mae'n rhan o Cymunedau Creadigol yr AHRC, rhaglen ymchwil sylweddol gwerth £3.9m sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Northumbria. Mae'n archwilio sut y gall diwylliant wedi'i gyd-greu wella ymdeimlad o berthyn, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol, cyflawni datganoli, a chwalu'r rhwystrau i gyfleoedd i gymunedau mewn lleoliadau datganoledig ar draws pedair gwlad y DU.