Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i greu adnodd newydd pwysig, y cyntaf o'i fath, gyda'r nod o helpu pobl sydd â diabetes math 1 i ddefnyddio eu systemau darparu inswlin awtomataidd (AID) rhagnodedig yn ystod ymarfer corff, gan eu grymuso i fyw bywydau mwy diogel.
Wedi'i lansio heddiw gan y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Astudio Diabetes (EASD) a'r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Diabetes Pediatrig a Phobl Ifanc (ISPAD), mae'r datganiad sefyllfa hwn yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o dechnolegau AID presennol ac yn darparu:
- Craffter sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch rheoli lefelau ymarfer corff a glwcos gan ddefnyddio systemau AID.
- Argymhellion penodol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.
- Strategaethau ar gyfer cynnal lefelau glwcos o fewn ystodau targed yn ystod ymarfer corff sydd wedi'i gynllunio ac ymarfer corff heb ei gynllunio.
- Canllawiau ar oresgyn rhwystrau i weithgarwch corfforol, fel hypoglycaemia a heriau mynediad.
Datblygwyd y canllaw hwn mewn cydweithrediad ag academyddion uchel eu parch, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac ymchwilwyr o bob cwr o'r byd, gan gynnwys yr Athro Richard Bracken, Is-gadeirydd grŵp astudio Ymarfer Corff a Gweithgarwch Corfforol (ExPAS), Uwch-academydd mewn Ymarfer Corff, Ffisioleg a Chyd-arweinydd Sefydliad Ymchwil Rhyngddisgyblaethol Atebion Technoleg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Meddai'r Athro Bracken: "Rwy'n falch iawn fy mod wedi bod yn rhan o'r grŵp ysgrifennu ar gyfer datganiad safbwynt ar y cyd yr EASD/ISPAD, sy'n fan cychwyn gwych i unigolion â diabetes math 1 a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol reoli gweithgarwch corfforol yn ddiogel.
"Mae systemau AID yn cael eu rhagnodi'n gynyddol fel opsiynau therapiwtig ar gyfer rheoli glwcos yn y gwaed; fodd bynnag, bu diffyg cyngor clinigol ymarferol a gwybodus ar integreiddio'r dyfeisiau hyn i ffordd o fyw weithredol pobl â diabetes math 1 - tan nawr."
Er bod systemau AID wedi gwella rheoli glwcos, mae unigolion sy'n defnyddio'r dechnoleg hon yn parhau i wynebu rhwystrau oherwydd yr amrywiadau mewn siwgr gwaed y gall gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff eu hachosi.
Meddai'r Athro Bracken: "I bobl sydd â diabetes math 1 a'u darparwyr gofal iechyd, mae'n hanfodol gwella cyfathrebu ynghylch sut i ddefnyddio systemau AID modern wrth annog gweithgarwch corfforol i elwa o'r manteision iechyd niferus y gall bod yn egnïol eu cynnig."
Dywedodd yr Athro Othmar Moser, arweinydd EASD y grŵp ysgrifennu ar gyfer y datganiad safbwynt hwn ac Arweinydd yr Adran Ffisioleg a Metaboledd Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Bayreuth yn yr Almaen: "Tra bod llawer o adroddiadau consensws a datganiadau safbwynt yn trafod therapi inswlin yn ystod ymarfer corff a defnydd systemau darparu inswlin awtomatig (AID) gan bobl sydd â diabetes math 1, rhain yw'r argymhellion cyntaf sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio systemau AID yn ystod gweithgarwch corfforol - her allweddol wrth reoli diabetes math 1.
"Yr hyn sy'n gwneud y datganiad safbwynt hwn yn unigryw yw ei gyfarwyddyd ymarferol sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob system AID, gan ei wneud yn adnodd gwerthfawr, nid yn unig ar gyfer unigolion sy'n byw â diabetes math 1, ond hefyd ar gyfer gofalwyr a gwneuthurwyr systemau AID.”
Meddai'r Athro Sabine Hofer, cyd-awdur y papur a Thrysorydd ISPAD: "Fel paediatregwyr, rydym yn gryf o blaid gweithgarwch corfforol a chwaraeon ym mhob grŵp oedran, ac mae'r datganiad safbwynt newydd hwn yn darparu arweiniad hollbwysig ar gyfer rheoli diabetes math 1 mewn plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc yn ystod gweithgarwch corfforol.
"Drwy gynnig strategaethau a chyngor ymarferol ar gyfer ymarfer corff cynlluniedig a heb ei gynllunio, mae'r datganiad hwn yn grymuso plant, pobl ifanc a’u gofalwyr i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ddiogel, gan reoli eu diabetes yn effeithiol gyda systemau AID."