Llun o'r Athro Tom Crick MBE. Credyd: Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.

Credyd: Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.

Mae Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain (BSA) wedi dyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe.

Mae'r BSA yn elusen ac yn gymdeithas ddysgedig a sefydlwyd ym 1831 er mwyn helpu i hyrwyddo a gwella gwyddoniaeth. Bob blwyddyn ers 2001, mae'r Gymdeithas yn gofyn i'w staff, ei hymddiriedolwyr, ei rhanddeiliaid a'i chefnogwyr enwebu unigolion am Gymrodoriaeth er Anrhydedd ac wedyn bydd Cyngor y BSA yn dethol o blith yr enwebeion.

Mae'r Gymrodoriaeth yn cydnabod pobl sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at hyrwyddo gweledigaeth a chenhadaeth y BSA ac eleni, mae'r rhain yn cynnwys yr Athro Crick, yr ysgrifennwr a'r darlledwr am wyddoniaeth, Alom Shaha, a'r arweinydd busnes a chyn-Gadeirydd y BSA, Gisela Abbam.

Meddai'r Athro Crick: "Rwyf wrth fy modd yn cael fy newis yn Gymrawd er Anrhydedd o Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain. Mae'r BSA yn agos iawn at fy nghalon, yn rhannol oherwydd i mi fod yn un o'r Ymddiriedolwyr o'r blaen, ond yn benodol oherwydd ei chenhadaeth a'i huchelgais i ddod â gwyddoniaeth a chymdeithas ynghyd.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r BSA yn y dyfodol i amlygu pwysigrwydd lleisiau dinasyddion amrywiol er mwyn sicrhau bod gwyddoniaeth yn cael ei chydnabod fel rhan allweddol o'n diwylliant a'n cymdeithas."

Ychwanegodd Hannah Russell, Prif Weithredwr y BSA: "Rydyn ni mor falch o groesawu Tom, Alom a Gisela fel Cymrodorion Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain. Mae'n Gymrodoriaeth sy'n cydnabod cyfraniadau sylweddol at ein gweledigaeth: creu dyfodol lle mae gwyddoniaeth yn berthnasol, yn cynrychioli cymdeithas ac yn gysylltiedig â hi.

"Mewn ffyrdd gwahanol, drwy eu sefydliadau a’u cyrff gwaith gwahanol, mae ein Cymrodorion newydd wedi gweithio, ac yn parhau i weithio'n galed, i ddod â phobl a gwyddoniaeth ynghyd, i ymgysylltu, cysylltu ac agor drysau, i herio stereoteipiau neu hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth gwyddoniaeth. Rydyn ni'n falch eu bod yn ymuno â ni ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw tuag at ein nodau cyffredin."

Yr Athro Crick yw'r Prif Gynghorydd Gwyddonol yn Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ac mae'n Athro Polisi Digidol ym Mhrifysgol Abertawe.

Er mai cyfrifiadureg yw ei ddisgyblaeth, mae ganddo ddiddordebau yn y rhyngwyneb rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer, nodi a mynd i'r afael â phroblemau parth â themâu digidol a chyfrifiadol eang a rhai wedi'u hysgogi gan ddata, yn enwedig â ffocws ar yr effaith ar ddinasyddion, cymunedau, diwylliant a'r economi.

Mae'r Athro Crick wedi arwain y diwygiadau mawr i'r cwricwlwm gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru dros y degawd diwethaf ac, yn ddiweddar, mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth cenhadaeth ddinesig gyntaf Prifysgol Abertawe. Ochr yn ochr â'i waith academaidd, yr Athro Crick oedd Comisiynydd cyntaf Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru a bu ganddo rolau lefel uchel neu ymgynghorol gyda Nesta, Ofcom, yr Ymgyrch ar gyfer Gwyddoniaeth a Pheirianneg, a'r BCS, Y Sefydliad TG Siartredig. Bu'r Athro Crick hefyd yn aelod o Ymddiriedolwyr Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain ac yn aelod etholedig o Gyngor y Gymdeithas rhwng 2011 a 2017.

Mae'r Athro Crick yn ymuno â grŵp neilltuol o unigolion sydd wedi derbyn yr anrhydedd hwn - yr un uchaf y gall y BSA ei ddyfarnu - gan gynnwys Syr David Attenborough, yr Athro Brian Cox, y Fonesig Maggie Aderin-Pocock, Dr Helen Sharman, yr Athro Alice Roberts, yr Athro Devi Sridhar, yr Athro Jim Al-Khalili a Wayne McGregor.

Gallwch weld y rhestr lawn o Gymrodorion er Anrhydedd presennol Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain yma.

Dysgwch ragor am ymchwil yr Athro Crick i ddyfodol gwyddoniaeth a thechnoleg yn system addysg Cymru.

Rhannu'r stori