Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno â Llywodraeth Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus i sefydlu partneriaeth newydd a fydd yn helpu i ddeall yn well sut y gellir darparu addysg ynghylch newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Drwy gyllid Partneriaeth SMART Llywodraeth Cymru gwerth mwy na £34,000, bydd cydymaith ymchwil yn ymweld ag ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, ac unedau sydd ynghlwm wrth ysgolion prif ffrwd i gasglu enghreifftiau o addysg newid yn yr hinsawdd ar waith a nodi unrhyw feysydd lle mae angen rhagor o waith i gefnogi adnoddau.
Meddai Dr Jennifer Rudd, Cyd-arweinydd Prosiect ac Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae ein hinsawdd newidiol yn effeithio ar blant ledled Cymru. Mae'n hanfodol bod yr holl ddysgwr yn deall pam mae’n digwydd a sut y gallant wneud newidiadau gartref ac yn yr ysgol, yn ogystal â sut i lobïo dros newidiadau strwythurol i leihau ôl troed carbon cyffredinol Cymru."
Ychwanegodd Dr Dai Thomas, Cyd-arweinydd Prosiect ac Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob dysgwr yng Nghymru ac mae'n hanfodol bod pob dysgwr, waeth beth yw ei anghenion dysgu ychwanegol, yn cael cyfle cyfartal i gael addysg ynglŷn â newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd er mwyn meithrin ymdeimlad o rymuso a gobaith ar gyfer y dyfodol."
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae cefnogi dysgwyr i ddeall materion newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yn rhannau allweddol o'r Cwricwlwm i Gymru. Rwy'n croesawu'r bartneriaeth newydd hon a fydd yn ehangu cymorth ac yn sicrhau bod pob dysgwr, beth bynnag fo'i anghenion dysgu, yn gallu cael mynediad at y cwricwlwm."
Bydd y prosiect yn atgyfnerthu cenhadaeth Cadwch Gymru'n Daclus ac yn helpu i bontio bwlch presennol yn ei gymorth i ysgolion drwy raglen Eco-Ysgolion Cymru.
Meddai Bryony Bromley, Cyd-Arweinydd Prosiect a Rheolwr Addysg Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae Eco-Ysgolion yn rhoi llwyfan i ddysgwyr astudio heriau amgylcheddol, nodi meysydd gweithredu a dod yn rhan gadarnhaol o'u datrys.
"Mae'n hanfodol sicrhau ein bod yn darparu adnoddau a chymorth sy'n diwallu anghenion pob dysgwr ledled Cymru, a bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ddysgu a chael ysbrydoliaeth gan ymarferwyr arbenigol i sicrhau ein bod yn chwalu rhwystrau ac yn grymuso cenedlaethau'r dyfodol."
Mae'r tîm yn gobeithio cyflwyno eu canfyddiadau unwaith y bydd y prosiect yn dod i ben ym mis Mawrth 2025.
Os ydych chi'n gweithio mewn lleoliad anghenion dysgu ychwanegol a hoffech gyfrannu at y prosiect drwy rannu gwybodaeth am yr hyn rydych chi'n ei addysgu, cysylltwch â Dr Jennifer Rudd.