Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno dyfarniad er anrhydedd i Peter Gough OBE, ffigwr nodedig ym maes cadwraeth.
Gyda gyrfa sy'n rhychwantu pedwar degawd, mae Peter wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ecoleg dŵr croyw, gwyddor pysgodfeydd a rheoli ecosystemau dyfrol ledled Cymru a Lloegr. Yn ogystal â bod yn adnabyddus ar lannau afonydd yng Nghymru, mae gan Peter ddylanwad byd-eang, yn enwedig ym maes adfer afonydd.
Mae ymroddiad Peter i warchod poblogaethau pysgod gwyllt wedi chwyldroi'r modd y caiff afonydd, aberoedd a physgodfeydd eu rheoli yng Nghymru. Mae ei ymdrechion diflino i reoleiddio ac amddiffyn pysgodfeydd wedi sicrhau bod stociau pysgod bregus yn cael eu diogelu. Yn nodedig, bu gan Peter rôl allweddol wrth weithio ar y cyd â gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe i atal arferion stocio eog mewn afonydd yng Nghymru, gan ddarparu tystiolaeth hollbwysig o'u heffeithiau niweidiol ar boblogaethau pysgod gwyllt.
Ac yntau'n eiriolwr angerddol dros fudo pysgod, mae Peter wedi hyrwyddo mentrau i ddiogelu a gwella cysylltedd dyfrol. Mae ei waith wedi dylanwadu ar ddulliau cynaliadwy o reoli adnoddau dŵr croyw, gan gynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy, gan sicrhau eu bod yn ystyriol o anghenion pysgod a'u cynefinoedd.
Un o gyflawniadau nodedig Peter yw trawsnewidiad afon Taf yng Nghaerdydd. A hithau gynt yn ddyfrffordd ddiwydiannol lygredig, mae'r afon bellach yn ffynnu fel nodwedd naturiol sydd wrth wraidd y gymuned, diolch i weledigaeth a dyfalbarhad Peter.
Drwy gydol ei yrfa, mae Peter wedi arwain sawl prosiect ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill, gyda'r nod o adfer ecosystemau afonydd a hyrwyddo mudo pysgod rhydd. Mae ei ymagwedd gydweithredol wedi uno asiantaethau, academyddion, perchnogion pysgodfeydd, cymdeithasau a'r cyhoedd wrth fynd i'r afael â heriau amgylcheddol cyffredin. Ceir enghreifftiau o'r ethos hwn yn ei waith ar afon Gwy, lle cefnogodd Sefydliad Gwy ac Wysg wrth fabwysiadu ymagwedd gyfannol at reoli dalgylchoedd.
Mae dylanwad Peter yn mynd y tu hwnt i Gymru drwy ei arweinyddiaeth ar brosiect AMBER (Rheolaeth Ymaddasol o Rwystrau yn Afonydd Ewrop) Horizon 2020. Gwnaeth y fenter hon ddod ag arbenigwyr at ei gilydd o ledled Ewrop a'r tu hwnt i rannu arferion gorau ym maes adfer cysylltedd afonydd.
Dyfarnwyd OBE i Peter yn 2021 am ei gyfraniadau rhagorol a mynegodd ei ddiolchgarwch am yr anrhydedd diweddaraf hwn: “Mae’n anrhydedd mawr imi dderbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe. Mae'n adlewyrchu llawer o flynyddoedd o gydweithio buddiol â'r Brifysgol, gan gynnwys cefnogi nifer o fyfyrwyr yn eu cyflawniadau ôl-raddedig. Rwy'n falch fy mod i wedi cyfrannu at lwyddiant rhagorol Ysgol y Biowyddorau."