-
1 Ebrill 2025Cwrs Adfer Morol cyntaf y byd yn cychwyn yn Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe yn lansio'r radd MSc gyntaf yn y byd mewn Adfer Morol. Bydd hyn yn arfogi graddedigion â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael ag un o heriau amgylcheddol mwyaf ein hoes ni - adfer ecosystemau cefnforoedd.
-
1 Ebrill 2025Canolfan genedlaethol newydd ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed wedi'i lansio yng Nghymru
Mae Canolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed wedi'i lansio, gan nodi carreg filltir arwyddocaol wrth fynd i'r afael ag un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf dybryd y genedl.
-
31 Mawrth 2025Ymchwil i ddeunyddiau lled-ddargludol yn torri tir newydd yn y DU
Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) ym Mhrifysgol Abertawe wedi torri tir newydd sylweddol mewn ymchwil i led-ddargludyddion drwy ddangos gallu haen galiwm ocsid 4-modfedd denau am y tro cyntaf yn y DU.
-
31 Mawrth 2025Astudiaeth ryngwladol arloesol ar gam-drin plant a arweiniodd at gyfnodau yn yr ysbyty
Mae canlyniadau'r dadansoddiad cyntaf erioed ar raddfa fawr o gam-drîn corfforol plant (CPA) sydd wedi arwain at gyfnodau yn yr ysbyty, wedi datgelu mewnwelediadau pwysig i dueddiadau ar draws pum gwlad Ewropeaidd.
-
28 Mawrth 2025Llyfr newydd yn rhoi sylw i’r athro ysbrydoledig a wnaeth drawsnewid bywyd Richard Burton
Bydd bywgraffiad newydd yn datgelu mwy am y dyn a ysbrydolodd Richard Burton gan drawsnewid ei fywyd o'i wreiddiau ostyngedig i enwogrwydd llwyfan a sgrîn.
-
28 Mawrth 2025Prosiect tagio pysgod y Brifysgol yn dathlu wrth dderbyn £600,000 i gefnogi’r gwaith
Mae prosiect ym Mhrifysgol Abertawe i wella dealltwriaeth o ymddygiad pysgod yn afonydd a moroedd Cymru wedi derbyn hwb ariannol gwerth £657,000.
-
27 Mawrth 2025Myfyrwyr o Abertawe yn rhoi sbwriel cartrefi ar brawf i ennill cystadleuaeth adeiladu pontydd
Sicrhaodd tîm o fyfyrwyr peirianneg sifil Abertawe y safle cyntaf mewn cystadleuaeth fawreddog i ddylunio ac adeiladu pont wedi'i gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau ailgylchadwy o’r cartref.
-
21 Mawrth 2025Astudiaeth Prifysgol Abertawe'n amlygu'r angen am gymorth i deuluoedd sy'n wynebu plentyn yn cam-drin rhiant
Amlygodd astudiaeth gan Brifysgol Abertawe'r angen brys am gymorth i deuluoedd sy'n wynebu plentyn yn cam-drin rhiant (CPA).
-
20 Mawrth 2025Adroddiad newydd yn amlygu cyfranogiad cymunedau ESEA yng nghynllun gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Mae tîm ymchwil o Brifysgol Abertawe wedi rhannu ei ymchwil i gyfranogiad cymunedau de a de-ddwyrain Asiaidd (ESEA) yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i nodi Diwrnod Dileu Gwahaniaethu Hiliol y Cenhedloedd Unedig.
-
20 Mawrth 2025Datgelu rhestr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2025
Mae rhestr fer y wobr fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd ar gyfer awduron ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - yn cael ei chyhoeddi heddiw. Mae'n cynnwys chwe llais eithriadol sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys tri llyfr cyntaf, y mae eu hysgrifennu'n arbrofi â ffurf, strwythur ac arddull i archwilio hunaniaeth, rhywedd, galar a rhywioldeb.
-
17 Mawrth 2025Y toiled sy'n creu biodanwydd o faw dynol - syniad tîm o fyfyrwyr dyfeisgar yn ennill Invent for the Planet 2025
Toiled bio-drawsnewidydd sy'n creu biodanwydd o faw dynol yw'r syniad a enillodd rownd Abertawe "Invent for the Planet", cystadleuaeth ddylunio ryngwladol ar gyfer myfyrwyr sy’n ddyfeiswyr.
-
14 Mawrth 2025Gyrrwr Fformiwla 1 Lando Norris yn ymweld â labordai gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff Prifysgol Abertawe i baratoi ar gyfer tymor rasio 2025.
Gyda 24 o rasys mewn 21 o wledydd ar bum cyfandir gwahanol, mae Fformiwla 1 yn gamp sy’n werth biliynau o bunnoedd gan ddenu tua 750 miliwn o gefnogwyr. Am y rhesymau hyn, dyma gyfres chwaraeon mwyaf poblogaidd y byd.
-
13 Mawrth 2025Hwb ariannol ar gyfer treial newydd sydd â'r nod o ddileu bygythiad heintiau i gleifion
Mae heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn her fyd-eang fawr, ac un sy'n gwaethygu yn sgîl bygythiad cynyddol ymwrthedd gwrthfiotig. Yn ogystal â bygwth diogelwch cleifion, mae'r heintiau hyn hefyd yn peri straen anferth i systemau gofal iechyd.
-
11 Mawrth 2025Prifysgol Abertawe'n dathlu 200 mlynedd o Braille gyda digwyddiad cyhoeddus am ddim
Prifysgol Abertawe fydd y cyrchfan cyntaf yng Nghymru ar daith genedlaethol sy'n dathlu 200 mlynedd o braille, sy'n helpu i amlygu sut mae'r system gyffyrddol o smotiau sydd wedi’u codi’n grymuso pobl sydd wedi colli golwg.
-
10 Mawrth 2025Arbenigwyr yn helpu Cymru i gymryd camau breision tuag at ddyfodol iachach
Mae arbenigwyr ym maes iechyd a lles ym Mhrifysgol Abertawe yn rhannu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i bawb, waeth beth fo'u hoedran, eu hil neu eu rhywedd.
-
6 Mawrth 2025Sut gall hyd bysedd a thaldra pêl-droedwyr amcangyfrif eu perfformiad ymarfer corff
Gyda chystadleuaeth yr Ewros 2025 ychydig fisoedd i ffwrdd, mae pêl-droed menywod yn parhau i ddenu mwy o sylw. Nawr mae ymchwil newydd sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar bêl-droedwyr proffesiynol benywaidd a'r lefelau lactad maen nhw'n eu cynhyrchu yn ystod ymarfer corff.
-
5 Mawrth 2025Abertawe yw'r lle mwyaf diogel i astudio yng Nghymru
Abertawe yw'r ddinas fwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru, yn ôl astudiaeth gan y Complete University Guide (CUG), sy'n ddibynadwy ac yn annibynnol.
-
4 Mawrth 2025Abertawe'n ymuno â SAFEPOWER i helpu i bweru dyfodol mwy gwyrdd a chlyfar
Mae Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) Prifysgol Abertawe'n un o bartneriaid prosiect newydd o’r enw SAFEPOWER, sydd â'r nod o drawsnewid systemau ynni drwy greu trawsnewidyddion Cerrynt Uniongyrchol Foltedd Canolig (MVDC), a ddyluniwyd i fod yn fach, yn ecogyfeillgar, yn ddiogel ac yn gystadleuol i greu dyfodol glanach sy'n fwy ynni-effeithlon.
-
3 Mawrth 2025Myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe yn mynd â'i ymchwil i Senedd y DU
Bydd Xavier Crean, myfyriwr PhD Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhannu ei ymchwil ag Aelodau Seneddol sy'n awyddus i ddeall y datblygiadau gwyddonol a thechnolegol diweddaraf.
-
26 Chwefror 2025Ailddarganfod Myrddin: Cerddi cynnar Myrddin yn datgelu'r bardd a'r proffwyd sy'n gefndir i'r chwedl
Mae'r farddoniaeth gynharaf am Myrddin, ar gael i'r cyhoedd am y tro cyntaf ac mae'n datgelu, yn groes i'r gred boblogaidd, nad oedd yn ddewin ond yn fardd ac yn broffwyd â diddordeb mawr yn y byd naturiol.
-
25 Chwefror 2025Arbenigwyr o'r brifysgol yn gweithio i wneud dŵr yn fwy diogel fel rhan o Gynghrair Bioffilm newydd
Mae gan Brifysgol Abertawe rôl allweddol mewn rhwydwaith cydweithredol newydd sydd â'r nod o fynd i'r afael â heriau byd-eang a geir oherwydd bioffilmiau microbaidd.
-
25 Chwefror 2025Cyfle am interniaeth ymchwil AI - cynllun lleoliad gwaith dros yr haf i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig
Mae cyfle i fyfyrwyr israddedig o gefndiroedd difreintiedig dreulio'r haf yn cael profiad ymarferol o waith ymchwil mewn deallusrwydd artiffisial (AI) yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe.
-
21 Chwefror 2025Prifysgol Abertawe'n lansio panel diwydiant i roi hwb i ragolygon gyrfa myfyrwyr ieithoedd
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio menter newydd i wella rhagolygon gyrfa myfyrwyr ieithoedd yn y dyfodol.
-
21 Chwefror 2025Prifysgol Abertawe’n cyhoeddi cynlluniau i enangu i Lundain
Prifysgol Abertawe a QA Higher Education mewn partneriaeth i ddarparu rhaglenni gradd hyblyg yn Llundain o fis Medi 2025.
-
20 Chwefror 2025Gwobr Twristiaeth Werdd i dîm digwyddiadau'r Brifysgol
Mae Tîm Digwyddiadau Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Twristiaeth Werdd uchel ei bri, gan adlewyrchu ei gyflawniadau wrth wneud ei weithrediadau'n fwy gwyrdd.
-
19 Chwefror 2025Prifysgol Abertawe i gynnal arddangosfa i gofio am ddioddefwyr anabl y Natsïaid
Mae un deg tri o ddioddefwyr a anwyd ym Mhrydain o ryfel y Natsïaid ar bobl anabl, a oedd yn cael eu hystyried gan y gyfundrefn yn 'fywyd anheilwng o fywyd' yn cael eu hanrhydeddu mewn arddangosfa arbennig ym Mhrifysgol Abertawe.
-
19 Chwefror 2025Doniau gorau'r DU yn meistroli sgiliau ystafell lân lled-ddargludyddion yn CISM
Myfyrwyr yn ennill sgiliau ystafell lân arloesol yn CISM.
-
18 Chwefror 2025Arbenigwr o Abertawe'n hyfforddi ceidwaid heddwch y Cenhedloedd Unedig o Iwerddon ar warchod safleoedd diwylliannol mewn ardaloedd gwrthdaro
Mae lluoedd arfog Iwerddon sy'n ymwneud â dyletswyddau cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig wedi derbyn hyfforddiant gan arbenigwr o Abertawe ar y ffordd orau o warchod safleoedd ac arteffactau diwylliannol mewn ardaloedd gwrthdaro.
-
17 Chwefror 2025Oriel Science yn dathlu statws elusen newydd
Yn dilyn ei lwyddiant fel prosiect ym Mhrifysgol Abertawe, mae Oriel Science yn mynd i mewn i gyfnod newydd cyffrous fel elusen annibynnol, gan ddatgloi cyfleoedd ffres ar gyfer twf ac arloesi.
-
12 Chwefror 2025Mewnwelediad newydd i hawl plant ifanc i gael eu clywed ym mholisi addysg Cymru
Mae tîm ymchwil cydweithredol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wedi archwilio fframwaith y polisi ynghylch hawliau cyfranogol plant mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, gan gyhoeddi eu canfyddiadau mewn brîff polisi newydd.
-
12 Chwefror 2025Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation mewn cytundeb ariannu ar y cyd gwerth £3m ar gyfer ymchwil cardiofasgwlaidd
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation (BHF) wedi cyhoeddi cytundeb sylweddol, gwerth £3m, i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd yng Nghymru drwy gyllid ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (NCRN).
-
11 Chwefror 2025Prosiect theatr arloesol yn dod â llawenydd i bobl sy'n byw gyda dementia
Mae prosiect theatr arloesol, a grëwyd gyda chymorth Prifysgol Abertawe, wedi dod â llawenydd, chwerthin a chysylltiadau cymdeithasol ystyrlon i gartrefi gofal yn ne Cymru.
-
10 Chwefror 2025Deon newydd yn dychwelyd i'w gwreiddiau ar gyfer rôl uwch-arweinyddiaeth
Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol newydd i'w huwch-dîm arweinyddiaeth, sy'n gyfrifol am Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol.
-
5 Chwefror 2025Deutsch lernen! 500 o ddisgyblion lleol yn dod i sioe deithiol i glywed am yrfaoedd ar gyfer siaradwyr Almaeneg
Fel economi fwyaf Ewrop, mae'r Almaen yn gartref i gwmnïau sylweddol o Adidas i Lidl, Haribo i Hugo Boss, Bosch i Birkenstock, a Volkswagen i BMW, sy'n cynnig byd o gyfleoedd gyrfa i siaradwyr Almaeneg - dyma'r neges a roddwyd i ddisgyblion ysgolion lleol a ddaeth i sioe deithiol Almaeneg ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe.
-
3 Chwefror 2025Asffalt hunan-adfer wedi'i bweru gan AI: Cam tuag at ffyrdd sero net cynaliadwy
Gall ffyrdd asffalt hunan-adfer, a wnaed o wastraff biomas ac a ddyluniwyd gyda chymorth deallusrwydd artiffisial (AI), gynnig ateb addawol i broblem tyllau ffyrdd y DU, sy’n costio oddeutu £143.5 miliwn o bunnoedd y flwyddyn.
-
30 Ionawr 2025Arbenigwyr o'r Brifysgol yn helpu i lunio polisi Undeb Rygbi Cymru ar ddiogelu
Mae gwyddonwyr chwaraeon o Brifysgol Abertawe wedi bod yn helpu Undeb Rygbi Cymru (WRU) i ddatblygu ei bolisi diogelu newydd, a fydd yn cefnogi'r gêm ar lefelau cymunedol a phroffesiynol ledled Cymru.
-
30 Ionawr 2025Banc Data SAIL yn derbyn £4.55m o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Bydd Banc Data SAIL ym maes Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn derbyn £4,551,338 o gyllid cynaliadwyedd mewn cyhoeddiad cyllid mawr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
-
29 Ionawr 2025Penodwyd arbenigwr o Abertawe i gynghori llywodraeth y DU ar niwed o gamddefnyddio cyffuriau
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe ar gamddefnyddio sylweddau a chanfod cyffuriau wedi cael ei phenodi i'r Cyngor Cynghori ar Gamddefnyddio Cyffuriau, sy'n gwneud argymhellion i lywodraeth y DU ar reoli cyffuriau sy'n beryglus neu'n niweidiol fel arall.
-
29 Ionawr 2025Caerdydd i gynnal Varsity Cymru 2025
Bydd digwyddiad hynod boblogaidd Varsity Cymru yn dychwelyd i brifddinas Cymru unwaith eto ddydd Mercher y 9 Ebrill 2025, gan ddod â’r gornest Prifysgol fwyaf yn ôl i Gaerdydd.
-
28 Ionawr 2025'Peiriant amser' newydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael profiad unigryw o Gastell Margam
Mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol wrth lansio ap realiti estynedig (AR) arloesol sy'n dod â hanes cyfoethog Castell Margam yn fyw.
-
23 Ionawr 2025Syniadau busnes newydd sy'n lleihau gwastraff a charbon - tîm y Brifysgol yn sicrhau canlyniadau i gwmnïau
Mae tîm o Brifysgol Abertawe sy’n rhoi cymorth i gwmnïau yn Ne Cymru i lansio syniadau busnes gwyrdd - megis ailddefnyddio gwastraff plastig ar draethau er mwyn gwneud cynnyrch newydd - wedi datgelu eu bod wedi helpu 22 o gwmnïau gwahanol, gan roi cymorth i lansio 7 o gynhyrchion neu wasanaethau newydd a gwell.
-
23 Ionawr 2025Datgelu rhestr hir ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2025
Mae'r rhestr hir ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei datgelu heddiw, gan gynnwys awduron o bob cwr o'r byd gan gynnwys y DU, Palesteina, India, yr Iseldiroedd ac Iwerddon.
-
22 Ionawr 2025Astudiaeth yn dangos bod gofal llygaid mewn clinigau lleol yn lleihau amserau aros i gleifion ac yn optimeiddio adnoddau'r GIG
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod rheoli cyflyrau llygad drwy ddarparu gwasanaethau optometrig estynedig gan optometryddion lleol, yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau llygad ysbytai yn unig, yn gallu cwtogi amserau aros i gleifion a lleihau costau i'r GIG.
-
22 Ionawr 2025Astudiaeth newydd yn datgelu strategaeth effeithiol i wrthdroi hysbysebu am gamblo
Mae astudiaeth a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe wedi dangos bod dangos fideo i bobl o wrthdroi hysbysebu'n cynyddu eu gwrthwynebiad i hysbysebion gamblo.
-
21 Ionawr 2025Ymchwilydd Prifysgol Abertawe'n darlledu ffilm ar gyfer Mis Hanes LHDTC+
Cynhelir darllediad ffilm arbennig o'r ddrama glodfawr gan Natalie McGrath, The Beat of Our Hearts, yn Amgueddfa Caerdydd am 11am ddydd Sadwrn 8 Chwefror, gan nodi Mis Hanes LDHTC+.
-
31 Ionawr 202570 mlynedd o ddaearyddiaeth yn Abertawe - arbenigwr byd-eang ar danau gwyllt yn traddodi darlith gyhoeddus i nodi carreg filltir
Mae arbenigwr byd-eang ar danau gwyllt, Yr Athro Stefan Doerr, wedi traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe am ei waith, gan nodi 70 mlynedd o adran ddaearyddiaeth y Brifysgol.
-
15 Ionawr 2025Academyddion o Brifysgol Abertawe wedi'u Penodi i Baneli Peilot Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029
Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe wedi'u penodi i baneli peilot Pobl, Diwylliant a'r Amgylchedd (PCE) Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2029.
-
13 Ionawr 2025Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn datgelu panel beirniadu 2025
Caiff y panel beirniadu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni, y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc, ei ddatgelu heddiw, cyn cyhoeddi'r rhestr hir ddydd Iau 23 Ionawr.
-
10 Ionawr 2025Newidiadau dramatig Cwm Kama, Mynydd Everest, dros y ganrif ddiwethaf
Wrth ddilyn yr un llwybr â'r teithiau enwog a wnaeth ragchwilio’r llwybr gogleddol i Fynydd Everest dros 100 mlynedd yn ôl, mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i ddogfennu'r newidiadau amgylcheddol a diwylliannol dramatig yn y rhanbarth.
-
7 Ionawr 2025Prifysgol Abertawe yn arwain prosiect gwerth £3m i chwyldroi ynni solar yn Affrica
Dyfarnwyd £3m i brosiect newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe i ddatblygu a chynhyrchu modiwlau solar perofsgit cynaliadwy (PSM) yn Affrica, gan rymuso cymunedau lleol a hyrwyddo ynni cynaliadwy.
-
6 Ionawr 2025Cydweithrediad trawsiwerydd sydd â'r nod o wella diogelwch yn yr haul yn ein hysgolion cynradd
Gallai disgyblion ysgol yng Nghymru a Chanada elwa o well diogelwch yn erbyn yr haul yn y dyfodol, diolch i bartneriaeth drawsiwerydd newydd.