
Yr Athro Camilla Knight yn cymryd rhan mewn digwyddiad WRU
Mae gwyddonwyr chwaraeon o Brifysgol Abertawe wedi bod yn helpu Undeb Rygbi Cymru (WRU) i ddatblygu ei bolisi diogelu newydd, a fydd yn cefnogi'r gêm ar lefelau cymunedol a phroffesiynol ledled Cymru.
Mae'r polisi newydd yn berthnasol i blant ac oedolion. Ei nod yw sicrhau bod rygbi Cymru ar flaen y gad o ran diogelu ei chwaraewyr, ei wirfoddolwyr, ei staff a phawb sy'n ymwneud â rygbi yng Nghymru.
Y tîm a fu'n gweithio gyda’r WRU oedd yr Athro Camilla Knight a Dr Maita Furusa o'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Mae'r Athro Knight yn arbenigwr ym maes cynnwys rhieni a diogelu mewn chwaraeon ieuenctid. Mae hi'n cydweithredu â phartneriaid mewn amrywiaeth o sefydliadau a chyrff chwaraeon, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Sport New Zealand, Sport Singapore a'r RFU, y corff sy'n llywodraethu rygbi yn Lloegr. Mae hi hefyd yn gynghorydd ymchwil ar gyfer yr Uned Diogelu Plant mewn Chwaraeon ac yn aelod o Grŵp Cynghori Annibynnol ar Ddiogelu Undeb Rygbi Cymru.
Mae'r tîm yn Abertawe wedi bod yn cefnogi'r WRU drwy rannu'r ymchwil ddiweddaraf yn y maes hwn i'w helpu i ddeall y darlun ehangach, ac i gynghori ar ddatblygu arfer gorau, yn enwedig yn y gêm ar lefel gymunedol ac o ran cynnwys rhieni.
Mae'r Athro Camilla Knight wedi darparu dealltwriaeth ac adborth yn uniongyrchol i'r dogfennau polisi, yn ogystal â chyflwyno yn Symposiwm Uniondeb y WRU. Yn ddiweddaraf, mae Dr Furusa wedi cyflwyno i staff Diogelu ac Uniondeb yn y WRU a bydd yn rhannu dealltwriaeth bellach â Grŵp Cynghori Annibynnol ar Ddiogelwch y WRU ac yn Symposiwm Uniondeb y WRU sydd ar ddod.
Gwnaeth y tîm hefyd helpu i greu set newydd o adnoddau a ddatblygwyd gan y WRU ac sydd ar gael ar-lein (DOLEN - i ategu'r polisi newydd ar ddiogelu. Mae'r rhain yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ac yn darparu platfform i bennu safonau ymddygiad ar gyfer modelau rôl.
Ar y cyd â'u cydweithiwr, Dr Tom Love, mae'r Athro Knight a Maita Furusa wedi cyhoeddi ymchwil yn ddiweddar i'r ffordd orau o hyrwyddo profiadau chwaraeon diogel a phleserus i bobl ifanc.
Meddai'r Athro Camilla Knight o Brifysgol Abertawe:
"Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi datblygu perthynas gref â'r Uned Polisi ac Uniondeb yn y WRU. Mae hyn wedi darparu sianel i rannu ein hymchwil ddiweddaraf a chefnogi'r WRU yn eu hawydd i sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn cael profiadau diogel a phleserus wrth chwarae rygbi.
Mae'n arbennig o galonogol gweld ein hymchwil yn llywio datblygiad eu Polisi Diogelu diweddaraf a'r adnoddau sy'n cyd-fynd ag ef, a fydd yn gam ymhellach wrth sicrhau bod yr holl gamau angenrheidiol a phriodol yn cael eu cymryd i optimeiddio profiadau pobl ifanc o rygbi."
Meddai Jeremy Rogers, Pennaeth Polisi ac Uniondeb y WRU:
"Mae hi wedi bod yn wych dysgu gan yr academyddion yn Abertawe ac mae'n galonogol iawn ein bod eisoes yn rhoi ar waith rhai o'r camau gweithredu a nodwyd gan ymchwil Dr Furusa i gefnogi cyfranogwyr a gwirfoddolwyr.
Un enghraifft o hyn yw bod themâu ein Sioeau Teithio am Ddiogelu yn cynnwys llywodraethu diogelu a datblygu dealltwriaeth pwyllgor neu fwrdd y clwb o'r rôl mae angen iddyn nhw ei chwarae wrth gefnogi Swyddogion Diogelu'r Clwb.
Rydyn ni hefyd yn cefnogi clybiau i ymgorffori ymarfer diogelu ymhellach ar draws tirwedd Rygbi Cymru drwy ddatblygu cynlluniau diogelu penodol yn y clybiau a'u rhoi ar waith. Dyma un o'r amcanion strategol allweddol yn Strategaeth Cymru’n Un, â'r nod o greu diwylliant diogelu yn Rygbi Cymru drwy amgylcheddau diogel a chynhwysol.