'Big Win' ar destun aur ar fwrdd coch gyda ffrwydrad o ddarnau arian ar gefndir porffor.

Mae astudiaeth  a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe  wedi dangos bod dangos fideo i bobl o wrthdroi hysbysebu'n cynyddu eu gwrthwynebiad i hysbysebion gamblo.

Bu tîm o seicolegwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bryste a Phrifysgol CQ Awstralia, yn profi fideo gwrthdroi hysbysebu ar 1,200 o oedolion ifanc sy'n gamblo a chanfod ei fod yn cynyddu'r amheuaeth tuag at hysbysebion gamblo ac yn gostwng nifer y 'cynigion am ddim' a hysbysebwyd gan y diwydiant gamblo. 

Meddai Dr Jamie Torrance, y prif ymchwilydd o Brifysgol Abertawe: "Ni allwch ddianc rhag hysbysebion gamblo. Boed yn slotiau 30 eiliad a welir dros yr holl chwaraeon byw, y tinciau dwl sy'n troelli o amgylch eich pen yn ystod egwyliau teledu neu'r hysbysebion diddiwedd ar-lein, mae'r diwydiant betio bob amser yn denu eich sylw. Does dim rhyfedd bod diwydiant gamblo'r DU yn gwario swm anferthol o £1.5 biliwn ar hysbysebion gamblo bob blwyddyn".

Penderfynodd y tîm ymchwil droi'r fantol ar yr hysbysebion hyn a rhoi cynnig ar ymagwedd gwrthdroi hysbysebu a oedd yn defnyddio tactegau'r diwydiant gamblo, megis negeseuon bachog, enghreifftiau gweledol a dychan, gan arwain at fideo gwrthdroi hysbysebu nad oedd yn gwerthu breuddwydion ond yn dangos y strategaethau a ddefnyddir gan y cwmnïau gamblo.

Profwyd effeithiau'r fideo gwrthdroi hysbysebu hwn mewn arbrawf ar-lein a oedd yn cynnwys 1,200 o oedolion ifanc sy'n gamblo - ac fe wnaeth weithio. Ar ôl gwylio'r fideo, roedd gwylwyr yn llawer mwy amheus o'r hysbysebion gamblo - amheuaeth a oedd yn para fis yn diweddarach. Yn well na hynny, arweiniodd y fideo at ostyngiad sylweddol mewn gwylwyr a oedd yn ymwneud â'r cynigion betio 'am ddim', gyda 21% ohonynt yn rhoi'r gorau'n llwyr iddynt - sy'n arwydd cymhellol yn ôl y tîm y gellir addysgu'r defnyddwyr i weld y twyllo.

Meddai Dr Torrance: "Mae'r gwaith ymchwil hwn yn amserol - gyda llywodraeth y DU yn cyflwyno ardoll gamblo newydd, mae'r genedl yn ymgodymu â'r gwir am gymaint y mae gamblo'n rhan mor gyffredin o fywyd pob dydd.  O gitiau pêl-droed i hysbysebu ar oriau brig y teledu, mae gamblo'n rhan o'r hwyl. Ond ewch o dan yr arwyneb, ac mae'n ddiwydiant biliynau o bunnoedd a grëwyd ar berswâd - a cholled".

Yn ôl tîm yr astudiaeth mae graddfa'r broblem yn anhygoel.  Dengys ymchwil fod gwyliwr cyffredin yn y DU yn gwylio hyd at 1,500 o hysbysebion masnachol ar y teledu a gamblo ar-lein bob blwyddyn. Mae'n waeth ar gefnogwyr pêl-droed - yn ystod tymor diweddar o gemau'r Uwch-gynghrair roedd logo gamblo'n ymddangos bob 10 eiliad yn ystod y darlledu.

Er gwaethaf y canfyddiadau addawol, nid oes un ateb yn gallu mynd i'r afael â'r diwydiant hwn. Ni fydd y peiriant £1.5 biliwn yn stopio troelli ar ei ben ei hun. Ond mae gwrthdroi hysbysebu'n gam tuag at roi'r offer i bobl wrthod y demtasiwn y mae hysbysebion gamblo'n ei chynnig - ac mae'n gam y mae'n werth ei gymryd.

Meddai Dr Torrance: "Mae cymaint o waith wedi cael ei gynnal ym maes seicoleg ac iechyd cyhoeddus i ddeall yn well y tactegau a ddefnyddir mewn hysbysebion gamblo. Serch hynny, caiff y canfyddiadau eu ffeilio mewn cyfnodolion gwyddonol. Rydym am ail-gyfeirio'r wybodaeth hon i'r cyhoedd er lles diogelwch y defnyddwyr. Ein nod yw helpu'r cyhoedd i’w harfogi eu hunain â'r offer gwybyddol i adnabod a gwrthod yr hysbysebion gamblo".

Meddai Clive Tyldesley, sylwebydd pêl-droed proffesiynol sy'n cefnogi'r ymdrechion i leihau effeithiau hysbysebion gamblo: "Drwy chwarae'r cwmnïau gamblo yn ôl ei gêm ei hunain a defnyddio'r un ymagwedd ar gyfer cyflwyno'r negeseuon rhybuddio pwysig hyn, gobeithio bydd y fideos hyn yn taro deuddeg hefyd.  Mae pawb yn gwybod nad yw gamblo'n talu ond mae'n werth ein hatgoffa o'i oferedd yn yr un iaith ag y mae'n cael ei werthu i ni".

Meddai Will Prochaska, arweinydd Coalition to End Gambling Ads: "Dengys yr astudiaeth hon os bydd y cyhoedd wedi'u harfogi â'r ffeithiau am sut mae'r diwydiant gamblo'n gweithredu, byddan nhw'n llai tebygol o gael eu denu i ddefnyddio cynhyrchion niweidiol.  Ond ni ddylem gael ein camarwain yn y lle cyntaf - dylai'r Llywodraeth roi terfyn ar hysbysebion gamblo fel blaenoriaeth".

Cyhoeddwyd yr ymchwil, a ariannwyd gan y Fforwm Academaidd ar gyfer Astudio Gamblo (AFSG), yn y cyfnodolyn Addiction.

Rhannu'r stori