
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod rheoli cyflyrau llygad drwy ddarparu gwasanaethau optometrig estynedig gan optometryddion lleol, yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau llygad ysbytai yn unig, yn gallu cwtogi amserau aros i gleifion a lleihau costau i'r GIG.
Canfu ymchwilwyr fod modd cynnig buddion sylweddol drwy integreiddio optometryddion mewn lleoliadau practis optegydd cymunedol i drin cyflyrau fel dirywiad maciwlaidd cysylltiedig ag oedran (nAMD) a glawcoma.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Ophthalmic and Physiological Optics, yn dangos bod ehangu gwasanaethau optometreg mewn clinigau optegydd lleol yn gallu darparu'r un safon gofal â gwasanaethau llygad mewn ysbyty, gan gynnig manteision ychwanegol i gleifion a'r GIG.
Mae canfyddiadau allweddol yr astudiaeth yn dangos:
- Amserau aros llai: Drwy integreiddio optometryddion mewn gofal sylfaenol, roedd modd lleihau amserau aros i gleifion yn sylweddol. Cafodd yr amserau aros ar gyfer achosion nAMD posib eu cwtogi o pedwar i bum niwrnod ac i bum niwrnod yn unig yn achos monitro glawcoma. Mae gwahaniaeth trawiadol rhwng hyn a gwasanaethau traddodiadol mewn ysbytai lle bu cleifion yn aros am amser llawer hirach yn aml.
- Rhestrau aros byrrach: Cafodd rhestrau aros eu lleihau'n sylweddol drwy gynnig gwasanaethau mewn gofal sylfaenol - i lawr i dri pherson yn unig yn aros am driniaeth nAMD a phump yn achos glawcoma - o'u cymharu â 216 a 5,691 o gleifion, yn y drefn honno, yn aros am wasanaethau llygad mewn ysbyty.
- Defnydd effeithlon o amser meddygon ymgynghorol: Mae trosglwyddo mwy o gyfrifoldebau i optometryddion gofal sylfaenol yn rhyddhau amser offthalmolegwyr, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar achosion mwy cymhleth ac optimeiddio defnydd o adnoddau'r GIG.
- Profiadau o'r un safon i gleifion: Mae gwasanaethau optometrig a ddarperir mewn gofal sylfaenol o'r un safon â gwasanaethau llygad mewn ysbyty o ran profiad cleifion. Maent hefyd yn cynnig ffordd ddichonol yn ariannol y gellir ei chyflwyno ar raddfa ehangach o reoli'r nifer cynyddol o bobl â chlefydau'r llygaid.
Cafodd yr astudiaeth ei harwain gan yr Athro Barbara Ryan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Phrifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â thîm amlddisgyblaethol o Brifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Sight Cymru. Ariannwyd yr ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
I ddechrau, canolbwyntiodd yr ymchwil ar dri bwrdd iechyd yng Nghymru ac ers hynny mae'r gwasanaeth wedi cael ei ehangu i Gymru gyfan.
Meddai'r prif ymchwilydd, yr Athro Barbara Ryan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Ar hyn o bryd, mae cleifion mewn perygl o golli eu golwg am eu bod yn gorfod aros am apwyntiadau llygad yn yr ysbyty. Mae canfyddiadau'r ymchwil hon yn rhoi gobaith bod ateb ar gael ar bob stryd fawr leol."
Ychwanegodd Dr Mari Jones o Ganolfan Economeg Iechyd Prifysgol Abertawe: "Mae'r prosiect hwn wedi dangos bod grymuso optometryddion lleol sy'n gweithio mewn practisau optegwyr lleol i reoli cyflyrau fel dirywiad maciwlaidd cysylltiedig ag oedran a glawcoma yn gallu lleihau amserau aros i gleifion a chostau'n sylweddol heb amharu ar safon y gofal. Drwy symud gofal llygaid i leoliadau cymunedol, maen nhw wedi dangos bod cleifion yn gallu cael gofal arbenigol ac amserol yn agos at eu cartrefi tra mae arbenigwyr mewn ysbytai'n canolbwyntio ar achosion cymhleth. Yn ogystal â gwella canlyniadau i gleifion, mae'r model hwn hefyd yn optimeiddio adnoddau ar draws y GIG.