
Bydd Banc Data SAIL ym maes Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn derbyn £4,551,338 o gyllid cynaliadwyedd mewn cyhoeddiad cyllid mawr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi cyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 o ganolfannau ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys pum sefydliad newydd - Uned Firoleg Gymhwysol Cymru, Canolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, y Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial, Ymchwil Iechyd Menywod Cymru a'r Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg.
Mae'r buddsoddiad gwerth £49m yn cynnwys cyllid ar gyfer canolfannau blaenllaw fel Cronfa Ddata SAIL, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, a Phartneriaeth CASCADE, a bydd yn hybu gallu academaidd a faint o ymchwil o ansawdd uchel sy'n digwydd yng Nghymru.
Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu ar draws dau gategori - gwobrau cynaliadwyedd, ar gyfer grwpiau a ariennir ar hyn o bryd er mwyn cynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunan-gynaliadwyedd, a dyfarniadau catalytig er mwyn hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil newydd Cymru sy'n dod i'r amlwg.
Dan arweiniad Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae Banc Data SAIL yn grŵp ymchwil sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol ac sy’n gweithio i wneud data y mae’r GIG a ffynonellau eraill yn eu casglu fel mater o drefn yn ddienw, ac i gysylltu’r data hyn mewn modd diogel, er dibenion cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae gan ymchwil rôl hanfodol i'w chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein nod o Gymru Iachach. Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous, gan gynnwys iechyd menywod; atal hunanladdiad a hunan-niweidio a DA - rwy'n gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth go iawn dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn helpu i lunio gwasanaethau a gofalu am bobl ledled Cymru."
Dywedodd Michael Bowdery, Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phennaeth Isadran Rhaglenni, Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith a ariennir yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'n adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu gallu ymchwil sy'n cyd-fynd ag angen iechyd a chymdeithasol sydd heb ei ddiwallu mewn meysydd polisi allweddol.
"Mae ein dull o ddarparu'r cyllid hwn yn seiliedig ar ddau faen prawf - yn gyntaf, lle mae angen ymchwil a thystiolaeth glir a chymhellol yn y maes ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac yn ail, lle mae gallu a chapasiti ymchwil cryf neu sy'n dod i'r amlwg yn yr ardal.
"Mae'r canolfannau hyn yn ymgorffori'r egwyddor o ymchwil sydd â'r pŵer i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl, ac rydym yn falch o allu cefnogi eu gweithgarwch yn y maes hwn."
Meddai Cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL, yr Athro David Ford: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am y cyllid cynaliadwyedd hwn ar gyfer Banc Data SAIL dros y pum mlynedd nesaf. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn brif ariannwr Banc Data SAIL ers i ni ddechrau yn 2007. Mae'r cyllid cyson rydym wedi'i dderbyn dros yr 18 mlynedd hynny wedi galluogi SAIL i ddatblygu'n adnodd ymchwil o fri rhyngwladol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sydd wedi'i gydnabod fel rhan annatod o isadeiledd gwybodeg cenedlaethol Cymru ac fel arweinydd arloesi a meddwl ledled y DU.
“Mae'r cyfraniadau hyn wedi ein helpu i greu Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy sy'n gadarn ac yn hyblyg at ddibenion ymchwil o safon fyd-eang. Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r sylfaen hon wedi bod wrth wraidd ymateb cyflym i amrywiaeth eang o ymchwil i Covid-19, gan gynnig gwybodaeth am bolisïau sy'n cael ei llywio gan ddata ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. SAIL yw'r ganolfan sydd wedi perfformio orau'n gyson ar draws y pedair cenedl o ran caffael data newydd ac ymgymryd â phrosiectau. Bydd y cyllid diweddaraf hwn yn cefnogi'r bennod nesaf yn hanes SAIL wrth i ni ddatblygu i fodloni gofynion ymchwil sydd wedi'i galluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial, dadansoddeg gyfunol a mathau o ddata sy'n fwyfwy cymhleth.”