Ail-ddehongliad AR (realiti estynedig) o sut olwg oedd ar lyfrgell Castell Margam yn oes Fictoria. (Credyd: Zubr)

Ail-ddehongliad AR (realiti estynedig) o sut olwg oedd ar lyfrgell Castell Margam yn oes Fictoria. (Credyd: Zubr)

Mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol wrth lansio ap realiti estynedig (AR) arloesol sy'n dod â hanes cyfoethog Castell Margam yn fyw.

Mae ap M[AR]gam yn rhoi cipolwg ar ysblander Fictoraidd y castell i ymwelwyr, gan weithio fel 'peiriant amser' rhithwir - sy'n addas am leoliad a ddefnyddiwyd i ffilmio Doctor Who.

Gall ymwelwyr ddefnyddio eu dyfeisiau clyfar i archwilio dwy ystafell yn y castell - y llyfrgell a'r ystafell fwyta - i weld atgynhyrchiadau digidol manwl gywir a dysgu am fywydau'r gweision a'r gwesteion pwysig a oedd yn eu defnyddio.

Am y tro cyntaf, gallant weld y gwaith celf, y cerfluniau a'r dodrefn godidog a oedd yn addurno'r castell cyn iddynt gael eu colli - i arwerthiant mawr ym 1941 a thân trychinebus ym 1977.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, datblygwyd yr ap gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Zubr.

Mae'n rhan o brosiect Margam Interiors, cydweithrediad rhwng y Brifysgol, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a datblygwyr y cysyniad gwreiddiol, CFP Landscape and Heritage Consultants.

Mae'r prosiect yn cyfuno ymchwil gan arbenigwyr, gwirfoddolwyr a phobl sy'n frwdfrydig am hanes o’r gymuned leol i greu darlun o orffennol y castell, gan ddarparu adnodd hanfodol ar gyfer M[AR]gam.

Meddai Beau Jones, Swyddog Ymchwil Margam Interiors, a fu'n gweithio gynt i Brifysgol Abertawe: "O fwy na 300 o ddarnau o waith celf a cherflunwaith a gafodd eu gwerthu, rydyn ni wedi llwyddo i olrhain cyfran fawr, ac mae llawer ohonyn nhw bellach mewn amgueddfeydd, o'r Oriel Genedlaethol yn Llundain i Amgueddfa Gelf Chrysler yn Virginia, UDA.

"Gan ddefnyddio delweddau hanesyddol, catalogau gwerthu a gwybodaeth gan berthnasau teulu Talbot o Fargam, roedd modd i ni wybod ble byddai'r gwaith celf wedi cael ei arddangos. Rydyn ni'n gwybod bellach pa ddarnau a oedd ym mhob un o brif ystafelloedd y castell, hyd yn oed eu lleoliad penodol ar y wal”.

Mae tîm y prosiect hefyd wedi ail-greu elfennau eraill o'r plasty Gothig o'r 19eg ganrif. Mae hyn yn cynnwys y papur wal, sy'n seiliedig ar ddarnau o'r papur gwreiddiol a ddarganfuwyd ar y waliau, a'r goleuadau; er gwaethaf bod yn un o'r preswylfeydd preifat cyntaf yng Nghymru i gael eu goleuo gan drydan, mae ffotograffau'n dangos mai lampau hirgoes a oedd yn cael eu defnyddio yn hytrach na goleuadau wal.

Arweiniwyd cyfraniad Prifysgol Abertawe at y prosiect gan Dr Hilary Orange, Cyd-gyfarwyddwr CHART (y Ganolfan ar gyfer Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth) a Dr Leighton Evans, arbenigwr mewn realiti estynedig a rhithwir.

Meddai Dr Orange: "Mae Castell Margam yn safle treftadaeth arbennig sydd o bwys hanesyddol mawr. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ap yn gwella profiad diwylliannol ac addysgol ymwelwyr, gan eu helpu i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o dreftadaeth y castell. 

Meddai'r Cynghorydd Cen Phillips, Aelod o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Natur, Twristiaeth a Lles: "Dyma'r tro cyntaf i ymwelwyr allu camu'n ôl yn rhithwir mewn amser i weld Castell Margam fel yr oedd yn wreiddiol - gan roi cipolwg unigryw ar y gorffennol sy'n trawsnewid gofodau gwag yn ystafelloedd bywiog a moethus yr oes Fictoraidd.”

Meddai Ian Baggott, Rheolwr Gyfarwyddwr CFP: "Ein syniad gwreiddiol oedd y byddai pobl yn gallu cael profiad rhithwir o tu mewn yr ystafelloedd gwreiddiol a, gobeithio, yn y dyfodol, archwilio rhannau o'r castell sydd wedi bod ar gau i'r cyhoedd am bron 50 o flynyddoedd. Gobeithio bydd pobl o'r farn bod y cam cyntaf hwn yn llwyddiant ac yn helpu gyda phrosiectau yn y castell yn y dyfodol".

Lansiwyd ap M[AR]gam yng Nghastell Margam ddydd Iau 23 Ionawr 2025 ac mae bellach ar gael i'r cyhoedd.

Gellir lawrlwytho ap M[AR]gam o'r App Store / Google Play Store.

Darganfyddwch fwy am bartneriaeth y Brifysgol gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Rhannu'r stori