Ffotograff o fodiwl solar perofsgit ardal fawr yn cael ei weithgynhyrchu. Credyd: Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC.

Mae modiwl solar perofsgit ardal fawr yn cael ei weithgynhyrchu. Credyd: Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC.

Dyfarnwyd £3m i brosiect newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe i ddatblygu a chynhyrchu modiwlau solar perofsgit cynaliadwy (PSM) yn Affrica, gan rymuso cymunedau lleol a hyrwyddo ynni cynaliadwy.

Nod REACH-PSM (Resilient Renewable Energy Access Through Community-Driven Holistic Development in Perovskite Solar Module Manufacturing) yw sefydlu arddangosiad cyntaf y cyfandir ar raddfa lawn o'r genhedlaeth nesaf o weithgynhyrchu solar.

Wedi'i ariannu gan Raglen Her Ayrton UKRI, mae REACH-PSM yn gydweithrediad â phrifysgolion, busnesau a chymunedau lleol yn Nigeria, Rwanda, Kenya a De Affrica.

Mae'r prosiect yn adeiladu ar raglenni presennol ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys TEA@SUNRISE a Chadeirydd UNESCO mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar dechnolegau solar cynaliadwy mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Elfen allweddol o REACH-PSM fydd datblygu triniaeth diwedd oes effeithlon i leihau gwastraff a chynyddu llif cylchol y deunyddiau drwy ailddefnyddio, adnewyddu ac ailgylchu modiwlau solar. Proses weithgynhyrchu newydd wedi'i chynllunio ar gyfer economi gylchol o'r cychwyn cyntaf.

Meddai'r Athro Matthew Davies, Prif Ymchwilydd REACH-PSM:  "Drwy REACH-PSM, rydym yn dod ag arbenigedd o'r radd flaenaf mewn deunyddiau cynaliadwy, technoleg ffotofoltäig, a gweithgynhyrchu lleol at ei gilydd i helpu i chwyldroi mynediad at ynni a gwydnwch o ran ynni ledled Affrica.

"Drwy ddatblygu modiwlau perofsgit sy'n effeithlon ac sydd hefyd yn cael eu caffael a'u cynhyrchu'n lleol a'u cynllunio ar gyfer prosesau diwedd oes effeithlon, rydym yn gobeithio grymuso cymunedau, cryfhau cadwyni cyflenwi, a helpu i arwain dyfodol ynni mwy teg a charbon isel."

Mae celloedd solar perofsgit yn dechnoleg solar ddatblygol gyffrous sy'n agosáu at fasnacheiddio. Gellir eu cynhyrchu am gost is ac â llai o egni o'u cymharu â silicon a gallant ddefnyddio deunyddiau a phrosesau mwy cynaliadwy, gan ddarparu ateb ynni mwy gwydn ac addasadwy.

Ar hyn o bryd, mae mwy na 500 miliwn o bobl yn Affrica heb fynediad at drydan, ffigwr sydd wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, gyda'r potensial ar gyfer gweithgynhyrchu PSM ar y cyfandir, nod REACH-PSM yw gwella lles cymdeithasol a hyrwyddo twf economaidd newydd, glân.

Meddai Frances Wood, Cyfarwyddwr Rhyngwladol UKRI: "Mae Rhaglen Her Ayrton yn dangos pŵer ymchwil ac arloesi i fynd i'r afael â heriau byd-eang hanfodol. Mae'r prosiectau hyn yn enghraifft o sut y gall cydweithio teg a rhyngddisgyblaethol ddatgloi atebion trawsnewidiol, gan sicrhau dyfodol ynni cynaliadwy a chynhwysol i bawb."

Rhannu'r stori