Tîm ARCS (o'r chwith): Myhrden Major, Hannah Morris, Yr Athro Gavin Bunting, Max Green

Tîm ARCS (o'r chwith): Myhrden Major, Hannah Morris, Yr Athro Gavin Bunting, Max Green

Mae tîm o Brifysgol Abertawe sy’n rhoi cymorth i gwmnïau yn Ne Cymru i lansio syniadau busnes gwyrdd - megis ailddefnyddio gwastraff plastig ar draethau er mwyn gwneud cynnyrch newydd - wedi datgelu eu bod wedi helpu 22 o gwmnïau gwahanol, gan roi cymorth i lansio 7 o gynhyrchion neu wasanaethau newydd a gwell.

Mae Ymchwil Gymhwysol ar Gyfer Atebion Cylchol (ARCS) wedi bod yn gweithio â busnesau ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

I ddathlu'r cynnydd a wnaethpwyd yn 2024, bydd ARCS yn cynnal Digwyddiad Arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ar 12 Chwefror.  Bydd yn gyfle i glywed mwy am y prosiectau a'r cwmnïau sydd wedi derbyn cymorth gan ARCS, a dysgu sut mae penderfyniadau a ysgogir gan yr amgylchedd hefyd yn gwneud synnwyr yn ariannol.

Bydd ARCS, a reolir gan Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, yn derbyn cyllid tan fis Mawrth 2025 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'r cymorth a ddarperir gan y tîm ARCS wedi ei deilwra i faint, sector ac uchelgeisiau pob cwmni, yn ogystal â pha mor gyfarwydd ydynt â'r economi gylchol.  Mae hyn yn hanfodol oherwydd bod rhoi syniadau busnes newydd ar waith a'u cyflawni yn llawer llai tebygol o fod yn llwyddiannus os oes angen mwy o amser, adnoddau neu wybodaeth na'r hyn sydd o fewn gallu'r cwmni.  Mae ARCS nawr yn chwilio am gyllid newydd.

Ymhlith y syniadau newydd mae'r tîm wedi helpu eu lansio mae: papur lapio newydd ar gyfer planhigion bwytadwy sydd wedi ei ddylunio er mwyn cael ei ddychwelyd a'i ailddefnyddio; newid gwastraff bwyd yn facteria sy'n lleihau gwastraff; a gwella ailgylchu ar ôl gwyliau cerddorol. 

Mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau o'r hyn a adnabyddir fel yr economi gylchol, ble caiff gwastraff ei leihau, a chaiff pobl a natur eu mwyafu, felly gall deunyddiau a chynnyrch gael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu'n barhaus.

Er i ychydig o gynnydd gael ei wneud, mae llawer o waith i'w wneud eto er mwyn symud i ffwrdd o'r model traddodiadol, ble ystyrir bod gan ddeunyddiau rychwant bywyd cyfyngedig cyn cael eu taflu i ffwrdd - agwedd 'cymryd, defnyddio a thaflu i ffwrdd' sy'n anghynaladwy ac sy’n cynhyrchu llwyth o wastraff.

Bob blwyddyn, rydym yn defnyddio dros 100 biliwn tunnell o adnoddau yn fyd-eang.  Hyd yn oed heddiw, mae dros 90% o'r deunyddiau hyn yn ddeunyddiau crai yn hytrach na deunyddiau sydd wedi eu hailgylchu.  Dim ond traean o'r deunyddiau sy'n dal i gael eu defnyddio ar ôl blwyddyn a dim ond 7% o'r holl bethau rydym yn eu defnyddio sy'n cael eu hailgylchu ar ôl i ni eu defnyddio.  

Mae symud tuag at economi gylchol yn fwy pwysig nag erioed, wrth i ni anelu at ddyfodol mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.

Mae manteision yr economi gylchol yn fwy na lleihau gwastraff yn unig. Gall hefyd helpu i leihau allyriadau carbon.

Mae bron hanner o'r allyriadau carbon byd-eang yn gysylltiedig â chynhyrchu ceir, dillad, bwyd a chynnyrch eraill rydym yn ei ddefnyddio bob dydd.  Os gallwn gynyddu'r gyfradd cylcholrwydd ynghylch sut rydym yn creu ein cynnyrch i 17% - o 7.2% ar hyn o bryd - mae ymchwil wedi dangos y gall hyn leihau allyriadau byd-eang 39%.

Yn ehangach fyth, gall economi gylchol helpu cwmnïau i roi hwb i'w gwydnwch, tra'n cefnogi natur, creu swyddi ac adnewyddu cymunedau lleol.

Mae syniadau busnes cylchol y mae tîm ARCS wedi eu cefnogi yn cynnwys:

  • Cywasgu ailgylchu ar y safle ar ôl gwyliau gan leihau allyriadau trafnidiaeth - gall dau fin olwyn llawn caniau gael eu lleihau i floc maint bocs o gwrw.
  • Hambyrddau cynnyrch newydd y gellir eu hailddefnyddio a'u hailgylchu ar gyfer cwmni sy'n tyfu microlysiau gwyrdd a microberlysiau gan ddefnyddio dulliau heb bridd sy'n defnyddio hyd at 95% yn llai o ddŵr na dulliau traddodiadol.
  • Bacteria sy'n lleihau gwastraff sy'n medru cymryd lle cemegolion a ddefnyddir wrth drin dŵr a charthion, gyda thîm ARCS yn helpu i ennill grant Innovate UK gwerth bron £50,000.
  • Dileu deunydd pacio untro ar gyfer leineri rhyddhau silicon, y ffilm sy'n amddiffyn ochr gludiog y rhan fwyaf o gynhyrchion gludiog.
  • Cynllunio portffolio busnes i wella cynaliadwyedd ariannol busnes newydd sy'n creu cynnyrch newydd allan o wastraff plastig ar draethau

Mae enghreifftiau o'r cymorth y mae tîm ARCS wedi ei roi i gwmnïau yn cynnwys: dadansoddiad o'r farchnad, cymorth wrth lunio cynigion, astudiaethau dichonolrwydd, asesiad o gylchred bywyd cynnyrch, a chymorth ar feini prawf yr economi gylchol ar gyfer caffaeliad a chadwyni cyflenwi.

Dywedodd yr Athro Gavin Bunting, sy'n arwain y grŵp ARCS ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae ymchwil gymhwysol yn ymwneud â dod â damcaniaeth yn fyw er mwyn creu atebion byd go iawn. Pan fo cwmnïau yn dod at ARCS â phroblem, rydym yn cyfuno ein harbenigedd ar draws sectorau â syniadau creadigol er mwyn dod o hyd i atebion arloesol a chefnogi busnesau gwydn a chylchol sy'n fwy cynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Rydym eisoes wedi gwneud gwahaniaeth, wrth helpu i gyflwyno syniadau busnes newydd.  Ond mae llawer mwy y gallwn ei wneud er mwyn cefnogi mwy o gwmnïau i groesawu egwyddorion cylchol, lleihau gwastraff a'n helpu ni i gyflawni targedau sero net.  Nid yw hyn erioed wedi bod mor bwysig, ac rydym yn archwilio cyllid newydd a fydd yn ein galluogi i barhau â'n gwaith".

Rhannu'r stori