Yn y llun: Yr Athro Pollard (yn y canol, top glas) gyda chyfranogwyr y cwrs o Luoedd Amddiffyn Iwerddon, y Garda, sefydliadau diwylliannol a llywodraeth Iwerddon, yn ogystal â lluoedd arfog y DU, yr Iseldiroedd, Awstria a'r Almaen.

Yn y llun: Yr Athro Pollard (yn y canol, top glas) gyda chyfranogwyr y cwrs o Luoedd Amddiffyn Iwerddon, y Garda, sefydliadau diwylliannol a  llywodraeth Iwerddon, yn ogystal â lluoedd arfog y DU, yr Iseldiroedd, Awstria a'r Almaen.

Mae lluoedd arfog Iwerddon sy'n ymwneud â dyletswyddau cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig wedi derbyn hyfforddiant gan arbenigwr o Abertawe ar y ffordd orau o warchod safleoedd ac arteffactau diwylliannol mewn ardaloedd gwrthdaro. 

Mae'r Athro Nigel Pollard yn arbenigwr ym maes distryw a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn ystod gwrthdaro, gan gynnwys adeiladau hanesyddol, safleoedd archeolegol ac amgueddfeydd.  

Bu'n diwtor sifilaidd arweiniol ar gwrs diweddar ar Ddiogelu Eiddo Diwylliannol, a gynhaliwyd ar gyfer Ysgol Hyfforddiant y Cenhedloedd Unedig i Luoedd Amddiffyn Iwerddon (UNTSI).

Mae'r UNTSI yn hyfforddi milwyr Lluoedd Amddiffyn Iwerddon sy’n ymgymryd â dyletswyddau cadw heddwch, yn enwedig yn UNIFIL, llu'r Cenhedloedd Unedig yn ne Libanus, lle mae effaith gwrthdaro ar dreftadaeth ddiwylliannol yn broblem sylweddol ar hyn o bryd.

Roedd y cwrs yn cyd-fynd â phen-blwydd yn 70 oed Confensiwn yr Hag 1954 ar ddiogelu eiddo diwylliannol yn ystod argyfyngau. Mae Iwerddon yn un o lofnodwyr  y Confensiwn.  

Fe’i dyluniwyd i addysgu cyfranogwyr am sut i gynghori cadlywyddion milwrol ar warchod safleoedd diwylliannol. Cynhaliwyd y cwrs mewn cydweithrediad â Blue Shield International, y 'Groes Goch' ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol yn ystod adegau o wrthdaro ac argyfyngau. 

Roedd y 45 o gyfranogwyr ar y cwrs o Luoedd Amddiffyn Iwerddon yn bennaf, ond hefyd o'r Garda, sefydliadau diwylliannol a llywodraeth Iwerddon, a lluoedd arfog y DU, yr Iseldiroedd, Awstria  a'r Almaen.

Yn rhan o gynnwys y cwrs, cafwyd cyfraniadau o bell gan Luoedd Arfog Libanus ac UNIFIL. Cyfrannodd rhai cyfranogwyr y cwrs eu profiad o amodau lleol yn ardal weithrediadau UNIFIL. Cynhaliwyd ymarfer wedi'i efelychu hefyd yn Eglwys Gadeiriol San Padrig a'r Archifau Milwrol, ill dau yn Nulyn. 

Oherwydd ei arbenigedd, mae’r Athro Pollard yn cael ceisiadau mynych i gynghori a helpu i hyfforddi personél milwrol.  Mae'r rhain yn cynnwys Uned Gwarchod Eiddo Diwylliannol y DU, sef olynwyr 'Monuments Men' yr ail ryfel byd, a oedd yn destun y ffilm o'r un enw gyda George Clooney. 

Trafodwyd ei ymchwil i fomio adfeilion Pompeii gan luoedd y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar raglen ar Channel 5 gyda'r hanesydd Dan Snow. 

Gwaith ymchwil presennol yr Athro Pollard yw prosiect o'r enw 'Allied Soldiers as Cultural Tourists in Wartime Italy' a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme'.  Gan ddefnyddio cofiannau, dyddiaduron, llythyrau a ffotograffau o'r archifau, mae'n archwilio ymatebion personél milwrol i safleoedd treftadaeth, megis Pompeii, Florence a Rhufain, a sut y cafodd ffactorau megis dosbarth, addysg, rhyw a chenedligrwydd ddylanwad ar y rhain.

Dywedodd yr Athro Nigel Pollard o Brifysgol Abertawe:

"Yn y bôn, pobl sydd wrth wraidd treftadaeth ddiwylliannol, nid adeiladau a safleoedd hanesyddol yn unig.  Drwy ei gwarchod, gallwn atgyfnerthu grwpiau sydd dan straen, helpu i leihau gwrthdaro sectyddol ac ailadeiladu cymunedau sydd wedi wynebu rhyfel a dadleol".

 

Rhannu'r stori