
Myfyriwr ac aelod staff yn gwisgo dillad diogelwch gan weithio gyda chyfarpar yn y labordy ffotolithograffeg.
Myfyrwyr yn ennill sgiliau ystafell lân arloesol yn CISM.
Cafodd myfyrwyr mwyaf disglair a dawnus y DU gyfle gwerthfawr i ddatblygu sgiliau ystafell lân, gan feithrin yr arbenigedd i ymuno â'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr lled-ddargludyddion wrth gymryd rhan mewn cwrs nodedig a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn Nghanolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) Prifysgol Abertawe.
Nod CISM yw datblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg lled-ddargludyddion, gan gefnogi'r diwydiant presennol yn y DU a hyfforddi gweithlu cenedlaethol. Mae'r cyfleuster yn gartref i amgylchedd prosesu uwch hynod lân, sef ystafell lân, lle mae lled-ddargludyddion a ddefnyddir mewn dyfeisiau o ffonau clyfar i gyfarpar MRI yn cael eu prosesu.
Mae gweithio yn yr amgylcheddau hynod lân hyn at ddiben arloesi mewn gweithgynhyrchu a thechnoleg yn gofyn am sgiliau penodol iawn y mae galw mawr amdanynt mewn gweithgynhyrchu diwydiannol ac ymchwil a datblygu.
Mae CISM yn unigryw yn y DU am ei bod yn ystafell lân mewn prifysgol sydd wedi'i dylunio ar sail egwyddorion diwydiannol i fod yn 'ffowndri beilot' a chafodd y myfyrwyr gyfle prin i gael profiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar a phrosesau sy'n berthnasol i'r diwydiant. Mae prinder sgiliau yn y diwydiant, felly mae'r math hwn o hyfforddiant ymarferol yn allweddol wrth ddatblygu sgiliau sy'n hollbwysig ar gyfer gyrfa yn y diwydiant lled-ddargludyddion.
Cafodd y myfyrwyr ddarlithoedd hefyd gan academyddion o brifysgolion Abertawe, Leeds a Chaergrawnt ynghyd â sesiwn am y sector lled-ddargludyddion lle clywsant gan bartneriaid diwydiannol o glwstwr CSconnected yn ne Cymru.
Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys 16 myfyriwr PhD o brifysgolion Abertawe, Leeds, Manceinion, Caergrawnt, Lerpwl a UCL yn ogystal â phedwar peiriannydd gyrfa gynnar o'r diwydiant. Elwodd y garfan o hyfforddiant gan staff Proffesiynol Technegol Ymchwil hynod fedrus o'r prifysgolion sy'n rhan o’r cydweithrediad.
Er mai hwn oedd y tro cyntaf iddo gael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe, mae'r cwrs yn ei drydedd flwyddyn yn sgîl cael ei gynnal yn Ystafell Lân Bragg ym Mhrifysgol Leeds, a chaiff ei gynnal ym Mhrifysgol Caergrawnt y flwyddyn nesaf. Roedd y cwrs yn gydweithrediad rhwng Sefydliad Henry Royce, Prifysgolion Abertawe, Leeds a Chaergrawnt a Chlwstwr y diwydiant CSconnected.
Meddai prif hyfforddwr gweithwyr Proffesiynol Technegol Ymchwil Prifysgol Abertawe, Jon Evans:
"Roedd hi'n fraint cynnal y cwrs eleni. Roedd y myfyrwyr yn frwdfrydig, roedd ganddynt afael ar fanylion a gwnaethon nhw ofyn cwestiynau gwych. Mae'r cydweithrediad hwn yn ganlyniad i'r bartneriaeth gref rhwng Sefydliad Royce a phrifysgolion Abertawe, Leeds a Chaergrawnt.”
Meddai'r hyfforddwr gweithwyr Proffesiynol Technegol Ymchwil o Brifysgol Caergrawnt, Dave Ellis:
"Daeth y cyfranogwyr o gefndiroedd amrywiol, gan arwain at gwestiynau treiddiol a thrafodaethau dynamig. Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfeini o Leeds a'r elfennau newydd o Abertawe pan fyddwn ni'n cynnal y cwrs yng Nghaergrawnt y flwyddyn nesaf."
Meddai'r hyfforddwr gweithwyr Proffesiynol Technegol Ymchwil o Brifysgol Leeds, Rob Farr:
"Gwnaeth y cwrs, sydd yn ei drydedd flwyddyn, gynnal ei sylfeini cryf. Roedd y cyfranogwyr, yn enwedig y rhai a oedd yn bresennol am y tro cyntaf, yn ymddiddori'n fawr yn y dechnoleg a gofynnon nhw gwestiynau a wnaeth ysgogi’r meddwl."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr CISM, yr Athro Paul Meredith:
"Hoffwn i ddiolch i Sefydliad Royce am eu cefnogaeth anhygoel, ac i'n partneriaid wrth gynnal y digwyddiad, Leeds a Chaergrawnt, am eu holl waith caled."