
Cast Silver Screen Sisters yn cwrdd â'u cynulleidfa ar ôl un o'u perfformiadau ac Dr Gary Christopher.
Mae prosiect theatr arloesol, a grëwyd gyda chymorth Prifysgol Abertawe, wedi dod â llawenydd, chwerthin a chysylltiadau cymdeithasol ystyrlon i gartrefi gofal yn ne Cymru.
Mae'r sioe ryngweithiol - Silver Screen Sisters - yn defnyddio pŵer comedi, cerddoriaeth a symudedd i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, a chafodd ei chynllunio i wella lles meddwl preswylwyr cartrefi gofal.
Mae'r fenter hon yn rhan o raglen 2025 Gŵyl Gomedi'r Mynyddoedd Duon ac mae'n ddatblygiad arloesol sylweddol mewn gofal dementia.
Cafodd y grŵp comedi perfformiad o Gaerdydd, Kitsch n Sync, ei gomisiynu gan yr Ŵyl, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, i ddatblygu cynnwys y sioe, gan weithio'n agos gyda'r arbenigwr dementia a chof blaenllaw, Dr Gary Christopher.
Rôl Dr Christopher oedd darparu arweiniad arbenigol i sicrhau bod y sioe yn cael ei chynllunio i gynorthwyo cyfathrebu, lleihau unigedd a gwella lles aelodau'r gynulleidfa.
Mae ei ymchwil i rôl hiraeth mewn gofal dementia yn cyfrannu'n uniongyrchol at y fenter hon, gan bwysleisio potensial therapiwtig ailymweld â digwyddiadau diwylliannol cyfarwydd drwy berfformiad.
Meddai: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut gall y celfyddydau gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl â dementia. Drwy ddefnyddio elfennau o hiraeth, hiwmor a symudedd, mae'r perfformiad yn creu profiad cyffredin sy'n meithrin cysylltiadau, yn sbarduno atgofion hynod bersonol ac yn gwella hwyliau."
Mae’r cynhyrchiad Silver Screen Sisters yn cyfuno comedi, dawns a cherddoriaeth, i gyd wedi'u curadu'n ofalus i greu awyrgylch cynnes a chroesawgar. Mae newydd cael ei berfformio'n llwyddiannus mewn chwe chartref gofal ledled de Cymru.
Yn ôl Dr Christopher, mae'r gwaith hwn yn arbennig o bwysig gan ystyried cyffredinolrwydd cynyddol dementia a'r angen cynyddol am ymagweddau arloesol at ofal sy'n mynd y tu hwnt i fodelau traddodiadol.
Drwy gynnwys comedi a pherfformiad byw mewn gofal dementia, mae’n teimlo bod Silver Screen Sisters yn dangos sut gall ymyriadau creadigol feithrin lles emosiynol a rhyngweithio cymdeithasol ymhlith preswylwyr, gan gynnig llwybr amgen mawr ei angen yn lle ymagweddau mwy meddygol.
Mae gwaith Dr Christopher yn tynnu sylw at botensial ymyriadau sy'n seiliedig ar hiraeth i greu profiadau mwy ystyrlon a gafaelgar i bobl sy'n byw gyda dirywiad gwybyddol.
Ychwanegodd: "Mae cyfraniad Prifysgol Abertawe at y fenter hon yn tanlinellu ymrwymiad y sefydliad i ddatblygu ymchwil i ddementia a throi dealltwriaeth academaidd yn weithgareddau yn y byd go iawn."