
Cacennau La Creme Patisserie; Dr Chris Charles o Lux Biotech yn y labordy. O ganlyniad i'r berthynas, mae elifiant o ffatri La Creme bellach yn cael ei gasglu a'i anfon i Lux Biotech, lle caiff ei ddefnyddio i dyfu'r bacteria sydd wrth wraidd eu cynhyrchion.
Mae patisserie teuluol wedi cydweithio â busnes biotechnoleg newydd i ailgylchu gwastraff o dorri cacennau i greu cynnyrch ar sail bacteria sy'n mynd i'r afael â llygredd mewn amaeth a dŵr. Crëwyd y bartneriaeth anghyffredin rhwng dau gwmni o Gymru gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae La Creme Patisserie yn cynhyrchu cacennau, pwdinau a phatisseries wedi'u gwneud â llaw. Maen nhw’n cynhyrchu tua 50,000 o gacennau bob wythnos ar gyfer cwsmeriaid ledled y DU sy'n darparu gwasanaethau bwyd o'r radd flaenaf - o Gwrs Rasys Cheltenham i'r Palasau Brenhinol - yn ogystal â gwerthu cacennau i'r cyhoedd o'u siopau yn ne Cymru.
Mae La Creme yn defnyddio peiriant torri â dŵr i dafellu llwythi mawr o gacennau. Mae'r broses hon yn creu elifiant sy'n llawn maetholion. Fel arfer, byddai'r elifiant yn cael ei ystyried yn wastraff a bu'n rhaid i'r cwmni dalu am gael gwared ag ef a'i drin.
Fodd bynnag, mae pethau'n dechrau newid gan fod ymgynghorwyr o Brifysgol Abertawe wedi cysylltu'r cwmni â Lux Biotech, cwmni biotechnoleg ym Mhort Talbot.
Sefydlwyd Lux Biotech gan Dr Chris Charles a raddiodd o Brifysgol Abertawe. I Lux, mae gwastraff yn adnodd gwerthfawr. Mae'r cwmni yn ei ddefnyddio i greu cynhyrchion ar sail bacteria sydd wrthi’n cael eu datblygu a gellir eu defnyddio i leihau llygredd mewn amrywiaeth enfawr o feysydd, o amaethyddiaeth i drin dŵr.
O ganlyniad i'r berthynas, mae elifiant o ffatri La Creme bellach yn cael ei gasglu a'i anfon i Lux Biotech, lle caiff ei ddefnyddio i dyfu'r bacteria sydd wrth wraidd eu cynhyrchion.
Mae'r berthynas rhwng y cwmnïau yn cynnig manteision i bawb:
- Mae'n arbed arian i'r ddau gwmni. Mae La Creme wedi dod o hyd i ffordd o reoli ffrwd gwastraff y byddai'n rhaid iddynt dalu am ei drin fel arall. I Lux, mae defnyddio gwastraff o’r dechrau yn golygu bod eu cynhyrchion yn fwy cost-effeithiol.
- Mae hefyd yn cynnig manteision amgylcheddol, gan greu cynhyrchion defnyddiol o rywbeth sy'n cael ei ystyried yn wastraff. Dyma enghraifft o'r economi gylchol. Ar hyn o bryd, dim ond 10% o'r adnoddau rydym yn eu defnyddio sy'n dod o ffynonellau wedi'u hailgylchu. Gallai cynyddu'r gyfradd hon - cylcholrwydd - i 17% yn unig dorri 39% oddi ar yr holl allyriadau carbon byd-eang.
Mae'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe a sefydlodd y bartneriaeth yn arbenigwyr yn yr economi gylchol. Enw’r tîm yw Ymchwil Gymhwysol ar Gyfer Atebion Cylchol (ARCS) ac mae’n gweithio gyda busnesau ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Maen nhw'n cefnogi busnesau sy'n cyflwyno mentrau'r economi gylchol, megis pecynnu ar gyfer dychwelyd cynhyrchion, troi plastig o'r traeth yn gynhyrchion newydd ac ailgylchu ar ôl gwyliau cerddorol. Cânt eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Cyflwynwyd Lux Biotech i ARCS drwy dîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n cynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer busnesau yn y sir.
Yn ogystal â chreu'r cysylltiad â La Crème, mae tîm ARCS hefyd wedi helpu Lux i sicrhau grant gan Innovate UK gwerth bron £50,000 i helpu i ehangu'r busnes. Mae'r tîm hefyd wedi cyflwyno'r cwmni i adrannau Cemeg a Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe i ddod o hyd i ddeunyddiau a phrofi eu cynhyrchion.
Meddai Dr Chris Charles o Lux Biotech:
"Mae gweithio gyda thimau ARCS wedi bod yn hollol wahanol i fy mhrofiadau blaenorol o weithio gydag academyddion; gwnaethon nhw gyflawni'r prosiect mewn ffordd gyflym, gyda ffocws, gan flaenoriaethu fy nodau a fy musnes i.
Gan ddefnyddio'r elifiant o La Crème, rydyn ni wedi gallu lleihau ein costau cynhyrchu'n sylweddol, gan wneud arbedion sy'n hollbwysig i fusnes newydd sy'n datblygu. Fydden ni ddim lle rydyn ni heddiw heb dîm ARCS."
Meddai Robert Hindle o La Creme Patisserie:
"Ar ôl i dîm ARCS gysylltu â ni am gymorth gyda ffyrdd newydd o drin gwastraff a sgîl-gynhyrchion, gwelon ni hyn fel cyfle gwych i gydweithredu â busnesau lleol er mwyn creu atebion gwirioneddol arloesol.
Mae pobi wastad wedi bod yn grefft fanwl gywir â chemeg wrth ei gwraidd a bellach gallwn ychwanegu biocemeg at y broses hefyd!
Mae gweithio gyda thîm ARCS wedi ein helpu i gynnwys egwyddorion yr economi gylchol yn ein llifoedd caffael, dylunio cynnyrch a phrosesau, sy'n helpu i'n gwneud yn fusnes gwell a mwy gwydn."
Meddai'r Athro Gavin Bunting o'r tîm Ymchwil Gymhwysol ar gyfer Atebion Cylchol ym Mhrifysgol Abertawe:
"Dyma enghraifft wych o symbiosis diwydiannol a gwerth cydweithredu rhwng y gymuned academaidd a byd diwydiant. Mae ymchwil gymhwysol yn ymwneud â rhoi damcaniaeth ar waith er mwyn creu atebion byd go iawn.
Pan fo cwmnïau’n cysylltu ag ARCS gyda phroblem, rydyn ni’n cyfuno ein harbenigedd traws-sector â syniadau creadigol er mwyn dod o hyd i atebion arloesol a chefnogi busnesau gwydn a chylchol sy'n fwy cynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol."