Ambiwlans yn gyrru ar gyflymder gyda'r nos gyda goleuadau glas ymlaen

Mae ymchwilwyr yng Nghymru yn gweithio gyda gweithwyr ac arweinwyr gofal iechyd proffesiynol i wella dealltwriaeth o pam mae'n cymryd cymaint o amser i gleifion gael eu trosglwyddo o ambiwlansys i adrannau brys ysbytai. 

Yn Lloegr mae mwy na hanner y trosglwyddiadau yn fwy na'r targed o 15 munud. Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddigwyddiad critigol ar ôl i fwy na hanner o gerbydau fod yn sownd y tu allan i adrannau brys, yn aros i drosglwyddo cleifion er mwyn iddynt allu mynychu galwadau 999 eraill.

Canfu adolygiad gan Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans fod mwy na 85 y cant o gleifion sy'n ciwio am 60 munud neu fwy yn ysbytai Lloegr o bosibl yn dioddef niwed.

Erbyn hyn mae astudiaeth newydd gan Ganolfan PRIME Cymru – canolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar ofal iechyd brys a sylfaenol a gyd-arweinir gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Abertawe – yn ceisio gwella dealltwriaeth o'r effaith y mae'r oedi hyn wrth drosglwyddo yn ei chael ar gleifion a darganfod sut i wella'r sefyllfa.

O'r enw STALLED - What works to improve SafeTy, pAtient experience, outcomes and costs reLated to deLayed ambulance handovers in Emergency Departmentsmae'r prosiect gwerth £1.5 miliwn yn cael ei arwain ar y cyd gan yr Athro Helen Snooks, o Brifysgol Abertawe a'r Athro Andrew Carson-Stevens, o Brifysgol Caerdydd, gan gydweithio â phartneriaid o wasanaethau ambiwlans ledled y DU.

Meddai’r Athro Carson-Stevens: "Ein nod yw darparu canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio i leihau niwed cysylltiedig ac oedi wrth drosglwyddo o ysbytai.”

Mae'r ymchwilwyr wedi cynnal arolwg o wasanaethau ambiwlans ac ysbytai i ddarganfod pa fentrau sy'n cael eu cynnal mewn gwahanol leoedd i leihau’r oedi wrth drosglwyddo. Roedd yr ymatebion yn cynnwys:

  • Defnyddio staff ychwanegol a newidiadau eraill sy'n gysylltiedig â staff;
  • Defnyddio lleoedd ychwanegol;
  • Newidiadau yn y prosesau trosglwyddo/rhyddhau;
  • Darparu gofal clinigydd adran argyfwng ar ambiwlansys; a
  • Staff y gwasanaeth ambiwlans yn darparu gofal o fewn adrannau argyfwng.

Mae'r tîm hefyd wedi dadansoddi data perfformiad sydd ar gael i'r cyhoedd i ymchwilio i sut mae oedi trosglwyddo yn amrywio.

Meddai Rheolwr yr Astudiaeth, Dr Mark Kingston o Brifysgol Abertawe: "Gan ddefnyddio data gan 105 o ymddiriedolaethau ysbytai, rhwng Hydref 2023 a Mawrth 2024 gwelsom amrywiad enfawr yn yr amseroedd trosglwyddo cyfartalog fesul mis – o 8 munud, 45 eiliad hyd at 129 munud, 6 eiliad."

Bydd cam nesaf yr astudiaeth yn canolbwyntio ar waith y tîm gyda phedwar gwasanaeth ambiwlans ac wyth ysbyty ledled y DU - hanner lle mae oedi trosglwyddo yn gymharol isel, a'r lleill lle maen nhw'n gymharol uchel. Mae’r cynlluniau'n cynnwys:

  • Cymharu marwolaethau, presenoldeb ambiwlans 999, trawsgludo mewn adrannau argyfwng, derbyniadau i'r ysbyty, amseroedd aros;
  • Cynnal adolygiad clinigydd o 2,328 o nodiadau dienw cleifion sydd gan y gwasanaeth ambiwlans/ysbyty i gymharu achosion o niwed;
  • Anfon holiaduron at 2,800 o gleifion i ddarganfod mwy am eu profiadau, a phryderon diogelwch;
  • Cyfweld â chleifion a staff i ddarganfod am eu profiadau a'u barn;
  • Defnyddio data llif cleifion i bennu mentrau a allai fod yn fwy buddiol ;
  • Asesu'r costau sy'n gysylltiedig ag oedi trosglwyddo; a
  • Chynnal gweithdai rhanddeiliaid.

Bydd yr wybodaeth hon wedyn yn cael ei defnyddio i lunio canllawiau ac argymhellion ysgrifenedig ar sut i leihau ciwio ambiwlansys i wella gofal a chanlyniadau cleifion.

Mae arweinwyr y gwasanaeth ambiwlans wedi croesawu'r astudiaeth tair blynedd yn fawr.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Cymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans (AACE), Anna Parry: "Mae'n hanfodol ystyried y niwed sy'n cael ei achosi i gleifion a'r effaith annioddefol y mae hyn yn ei chael ar ein staff sy'n gofalu amdanynt.

"Mae'r effaith yn cael ei theimlo yn ein cymunedau hefyd, lle mae cleifion yn gorfod aros llawer rhy hir i ambiwlans gyrraedd, ac mae ein trinwyr galwadau a'n clinigwyr yn ein canolfannau galwadau yn gorfod gwylio nifer sylweddol o alwadau yn pentyrru heb unrhyw adnoddau ar gael i'w hanfon."

Rhybuddiodd: "Mae'n effeithio'n sylweddol ar iechyd a lles staff a'u haddysg barhaus ar adeg pan mae angen i'r holl weithlu gofal argyfwng a brys fod yn datblygu ac yn ffynnu."

Meddai Adele Battaglia, claf a chyfrannwr cyhoeddus ar yr astudiaeth: "Gall oedi wrth drosglwyddo arwain at brofiadau trychinebus i gleifion a'u hanwyliaid, gan achosi tarfu sylweddol ar lif gofal cleifion a all adael staff yn teimlo'n rhwystredig. Mae'r ymchwil hon yn hanfodol i ddysgu mwy am y canlyniadau a'r hyn y gellir ei ddysgu i helpu defnyddwyr y gwasanaeth a staff yn y dyfodol."

Meddai Pennaeth Ymchwil Dros Dro Gwasanaeth Ambiwlans Canol De Lloegr, Helen Pocock: "Rydym yn teimlo ei bod yn hanfodol gweithio gyda rhanddeiliaid i ymchwilio ac i ddod o hyd i ffyrdd o leihau'r oedi hyn er budd pawb, gan gynnwys cymuned ehangach y GIG."

 

Rhannu'r stori