Llun drwy ffenestr wydr o bedwar oedolyn ifanc yn sefyll yn agos at ei gilydd mewn ystafell, yn darllen ac yn trafod papurau gyda golwg astud ar eu hwynebau. Mae'r golau cynnes a'r adlewyrchiadau yn awgrymu awyrgylch llonydd gan gyfleu'n gynnil themâu cysylltiad, cydweithio a dealltwriaeth a rennir.

(Dyluniwyd gan Freepik)

Mae Canolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed wedi'i lansio, gan nodi carreg filltir arwyddocaol wrth fynd i'r afael ag un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf dybryd y genedl.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a'r Samariaid, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn llywio rhagoriaeth ymchwil ac yn arloesi newid mewn polisi ac ymarfer ym maes atal hunanladdiad a hunan-niwed. 

Gan gydnabod y ffactorau niferus a chymhleth sy'n cyfrannu at atal hunanladdiad a hunan-niwed, bydd y Ganolfan yn dod â'r llywodraeth, asiantaethau’r sector cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, ymchwilwyr, pobl a chanddynt brofiad personol a'r cyhoedd at ei gilydd - gan roi pobl wrth wraidd y ganolfan – â’r nod o lywio newid sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn polisi ac ymarfer, cefnogi'r rhai hynny sydd mewn perygl, ac achub bywydau.

Ariennir y Ganolfan gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae'n rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £49 miliwn mewn ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol, gyda thros £2 filiwn penodol ar gyfer ymdrechion atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru.

Yr Her yng Nghymru

Gall meddyliau am hunanladdiad ac ymddygiadau cysylltiedig a hunan-niwed effeithio ar unrhyw un, ac yn anaml iawn y gellir priodoli'r rhain i un achos unigol yn unig. Y ffordd orau o'u deall yw drwy ystyried bywyd ac amgylchiadau unigryw pob unigolyn.

Fodd bynnag, mae ymchwil yn amlygu sawl ffactor allweddol sy'n cyfrannu at yr ymddygiadau hyn, gan gynnwys hanes  unigolion yn ceisio eu lladd eu hunain neu hanes o hunan-niweidio, cyflyrau iechyd meddwl (sydd yn aml heb eu nodi neu heb eu diagnosio), camddefnyddio sylweddau (megis cyffuriau neu alcohol), a phroblemau ariannol neu ddyledion.

Gallai fod yn bosib atal hunanladdiad. Mae atal effeithiol yn cynnwys cyfuno ymchwil, polisïau a phrofiadau'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio i greu newid hirdymor.

Dywedodd yr Athro Ann John, o Brifysgol Abertawe, sy'n Gyfarwyddwr y Ganolfan,:

“Mae meddyliau am hunanladdiad ac ymddygiadau cysylltiedig a hunan-niwed yn effeithio ar filoedd o bobl ar draws Cymru, gan gael effeithiau parhaus ar bobl, teuluoedd a chymunedau. Bydd y Ganolfan hon yn hyb cenedlaethol ar gyfer ymchwil ac arloesi, gan ymgorffori lleisiau'r rhai hynny sydd wedi colli anwyliaid a'r rhai hynny sydd â phrofiad personol, i sicrhau bod polisïau, ymyriadau a systemau cymorth yn cael eu llywio gan y dystiolaeth orau bosib.”

Bob blwyddyn, mae oddeutu 350 o bobl yn marw drwy hunanladdiad a bydd 13,000 o bobl sy'n hunan-niweidio'n cysylltu â gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn ceisio cymorth gan wasanaethau a chânt eu cuddio, gydag 16,000 o bobl yn ceisio eu lladd eu hunain, 126,000 o bobl yn rhoi gwybod am feddyliau am hunanladdiad, a 150,000 o bobl yn hunan-niweidio. Er bod rhai’n cyrchu gwasanaethau, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny nac yn ceisio cymorth gan deulu neu ffrindiau. Cost economaidd y broblem hon i Gymru yw £460 miliwn y flwyddyn. Ond yn gefndir i'r ffigurau hyn mae unigolion a'u teuluoedd.

Amcanion allweddol y Ganolfan

Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar yr amcanion canlynol:

  • Datblygu rhagoriaeth ymchwil: Cynnal astudiaethau i ddeall yn well achosion hunanladdiad a hunan-niwed a nodi ymyriadau effeithiol.
  • Cynnwys pobl a chanddynt brofiad personol – gan sicrhau bod y rhai hynny â phrofiad uniongyrchol o hunanladdiad a hunan-niwed yn chwarae rôl ganolog wrth lunio ymchwil, polisi ac ymyriadau mewn modd ystyrlon a moesegol.
  • Llywio polisi ac ymarfer: Darparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i lywio polisïau atal hunanladdiad yng Nghymru.
  • Grymuso cymunedau: Arfogi llunwyr polisi, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chymunedau ag offer ymarferol ar gyfer atal hunanladdiad
  • Cynyddu gallu ar gyfer ymchwil yn y dyfodol: Cefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa wrth ddatblygu ymchwil i atal hunanladdiad a hunan-newid.

Mae'r Ganolfan yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ym maes atal hunanladdiad a hunan-niwed i lywio ymchwil llawn effaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r Athro Ann John, Cyfarwyddwr y Ganolfan ac Is-lywydd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Atal Hunanladdiad (IASP), yn cynnig sgiliau arbenigol helaeth i ymdrechion atal hunanladdiad Cymru. 

Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru:  

"Mae cynnydd go iawn ym maes atal hunanladdiad yn dechrau drwy amlygu lleisiau'r rhai hynny â phrofiad personol.  Mae eu profiadau'n herio tybiaethau, yn dyfnhau ein dealltwriaeth ac yn ein hysgogi i greu gwasanaethau atal a chymorth sydd wir yn adlewyrchu'r realiti mae pobl yn ei wynebu. Mae'r Ganolfan hon yn gyfle i sicrhau bod llais y bobl hynny sydd â phrofiad personol yn arwain pob cam rydym yn ei gymryd."

Bydd y Ganolfan yn dechrau gweithio i ddatblygu mentrau allweddol, meithrin cydweithrediadau a chryfhau strategaethau atal hunanladdiad ar draws Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed

Rhannu'r stori