Sganiau'r ymennydd. Mae epilepsi yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar o leiaf 600,000 o bobl yn y DU. Bydd y tîm yn defnyddio technoleg i astudio data dienw sydd eisoes wedi'i gasglu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella a blaenoriaethu triniaethau.

Sganiau'r ymennydd. Mae epilepsi yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar o leiaf 600,000 o bobl yn y DU.  Bydd y tîm yn defnyddio technoleg i astudio data dienw sydd eisoes wedi'i gasglu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella a blaenoriaethu triniaethau.

Mae cydweithrediad ymchwil newydd rhwng Prifysgol Abertawe a Choleg y Brenin Llundain wedi derbyn grant o bwys gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i wella canlyniadau ar gyfer pobl sy'n byw gydag epilepsi ag ymwrthedd i gyffuriau.

Mae'r bartneriaeth yn dod â chlinigwyr, gwyddonwyr data ac arbenigwyr yn Abertawe a Choleg y Brenin ynghyd, yn ogystal ag unigolion â phrofiad personol o Rwydwaith Shape y Sefydliad Ymchwil Epilepsi.

Mae epilepsi yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar o leiaf 600,000 o bobl yn y DU. Nid yw tua 30% o bobl ag epilepsi yn ymateb i feddyginiaethau. Mae'r gyfran hon o bobl sy’n byw gydag epilepsi ag ymwrthedd i gyffuriau yn wynebu risgiau uwch o ffitiau, a phroblemau gyda chof a hwyliau.

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio'r technegau diweddaraf mewn prosesu iaith naturiol, deallusrwydd artiffisial a data a gesglir yn rheolaidd i ddeall mwy am epilepsi ag ymwrthedd i gyffuriau a phwy fydd yn ei ddatblygu. Bydd y tîm yn defnyddio technoleg i astudio data dienw sydd eisoes wedi'i gasglu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella a blaenoriaethu triniaethau.

Meddai Dr Owen Pickrell, arweinydd y prosiect sy'n Athro Cysylltiol ac yn Niwrolegydd yn Abertawe:

"Drwy gyfuno AI arloesol â data clinigol o'r byd go iawn, mae gennym gyfle unigryw i ddeall mwy am epilepsi nad yw'n ymateb i driniaeth ac i helpu pobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn."

Meddai'r Athro Mark Richards, cyd-arweinydd y prosiect a Phennaeth yr Ysgol Niwrowyddoniaeth yng Ngholeg y Brenin:

"Mae ein dwy ganolfan, Coleg y Brenin ac Abertawe, wedi gweithio'n annibynnol o'r blaen i ddatblygu dulliau blaengar o dynnu gwybodaeth berthnasol o filoedd o gofnodion iechyd. Nawr, byddwn ni’n gweithio mewn partneriaeth i wneud cynnydd yn gynt."

Meddai Annee Amjad, Pennaeth Ymchwil a Chynnwys yn y Sefydliad Ymchwil Epilepsi:

"Mae'r Sefydliad Ymchwil Epilepsi wrth ei fodd yn darparu cymorth, drwy Rwydwaith Shape, i'r gwaith hwn sy'n mynd i'r afael â'r 10 blaenoriaeth uchaf ar gyfer ymchwil i epilepsi yn y DU".

 

Rhannu'r stori