
Llewod Affricanaidd ifanc (Panthera leo) ar y ffordd ym Mharc Cenedlaethol Hluhluwe, De Affrica. Pan fyddan nhw'n gadael eu mamau, rhaid i lewod gwrywaidd ifanc wasgaru i ganfod tiroedd newydd. I wneud hyn, maen nhw'n teithio drwy'r safana, sydd bellach yn llawn ffyrdd a gweithgareddau i dwristiaid, sy'n effeithio ar eu hymddygiad a'u symudiadau. (Sara Gomez, CNRS Montpellier)
Bydd ymchwil newydd yn helpu gwyddonwyr i ragfynegi ble a phryd y bydd anifeiliaid yn symud, tasg sy'n fwyfwy pwysig, o ystyried cyflymder newid byd-eang cyfredol.
Ar ein planed, ar unrhyw un adeg, mae biliynau o anifeiliaid yn symud. O adar mudol, pryfed, mamaliaid morol a siarcod sy'n cysylltu cyfandiroedd a moroedd pell, i wenyn a phryfed eraill sy'n peillio ein cnydau, i anifeiliaid yn pori ac yn symud ar draws y gwastadeddau, a'r cadnoid a'r draenogod sy'n ymweld â gerddi trefol.
Mae deall cymhlethdodau o ran sut a pham y mae anifeiliaid yn symud yn bwysig. Gall helpu i warchod rhywogaethau, ond hefyd amddiffyn ecosystemau ehangach a'n hamgylchedd a'r gwasanaethau niferus y mae'r rhain yn eu darparu er lles dynol.
Mae astudio symudiadau anifeiliaid wedi datblygu'n gyflym dros y degawdau diwethaf. Nid yw pobl yn sylwi ar symudiadau anifeiliaid gan fwyaf, ond mae defnyddio technoleg - tracio â radio, System Leoli Fyd-eang, tagiau lloeren, synwyryddion fel Fitbit, radar - gallwn eu recordio mewn manylder go iawn. Mae biliynau o ddata newydd yn cael eu recordio bob blwyddyn, yn cael eu dadansoddi gan ddefnyddio dulliau ystadegol a mathemategol hynod soffistigedig.
Serch hynny, mae llawer o'r gwaith hwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddisgrifio a deall patrymau presennol, yn hytrach na rhagfynegi symudiadau yn y dyfodol.
Y broblem yw bod defnyddio'r gorffennol a'r presennol fel canllaw yn aml yn cyfyngu ar y defnydd o ba mor gyflym y mae amgylcheddau’n newid, oherwydd patrymau newydd yn y defnydd o dir, newid yn yr hinsawdd a symudiadau mewn poblogaethau dynol.
Yn hyn o beth y bydd yr ymchwil newydd yn berthnasol. Mae gosod fframwaith sy'n gallu helpu gwyddonwyr i ddarparu rhagfynegiadau mwy cadarn mewn amodau amgylcheddol sy'n newid yn gyflym.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan dîm rhyngwladol, a luniwyd yn ystod cyfarfod blynyddol o grŵp Ecoleg Symudedd y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig, a arweinir gan yr Athro Luca Börger o Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe a dau gyn-fyfyriwr o'r adran, Sara Gomez a Dr Holly English, sydd bellach yn ymchwilwyr yn CNRS Montpellier (Ffrainc) a Choleg Prifysgol Dulyn (Iwerddon) yn y drefn honno.
Yn y papur ymchwil, nododd y tîm ystod lawn o newidiadau a geir gan bobl mewn amodau amgylcheddol ac adolygu sut maen nhw'n cael effaith ac yn ysgogi symudiadau anifeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau cyffredinol yn yr hinsawdd, megis cefnforoedd yn cynhesu, yn ogystal ag effeithiau mwy penodol megis trefoli, adeiladu, llygredd golau, arllwysiadau olew a rhywogaethau ymledol.
Maen nhw'n amlygu sut mae angen i wyddonwyr newid y ffyrdd y maen nhw'n casglu ac yn modelu data er mwyn datblygu rhagfynegiadau gwell am symudiadau anifeiliaid mewn tirweddau sy'n newid, a sut gellir defnyddio hyn i wella camau cadwraeth gwell a pholisïau.
Meddai un o'r prif awduron Sara Gomez o CNRS (Centre National de la Recherche Scientifique) Montpellier:
"I ragfynegi ble bydd anifeiliaid yn symud mewn amgylcheddau newidiol cynyddol, ni allwn ddibynnu ar ymagweddau cydberthynol.Rhaid i ni gynnwys dulliau biolegol yn ein modelau, gan ddechrau o egwyddorion cyntaf symudiadau a phenderfyniadau anifeiliaid, a datblygu modelau sy'n addas ar gyfer systemau dynamegol.
Rhaid i ni hefyd gynyddu nifer y rhywogaethau gwahanol sy'n cael eu hastudio a chofnodi eu symudiadau hefyd mewn amgylchoedd dynol yn bennaf ac nid mewn ardaloedd naturiol tawel yn unig".
Meddai'r cyd-arweinydd Dr Holly English o Goleg Prifysgol Dulyn:
"Nid er diddordeb gwyddonol yn unig yw hyn.Rydym yn trafod yr heriau a'r cyfleoedd o gynnwys y rhagfynegiadau hyn wrth reoli bywyd gwyllt yn fwy effeithiol ac mewn polisi.Rydym yn rhoi enghreifftiau o gynlluniau cadwraeth megis dad-ddofi a thrawsleoliadau, sy'n cynnig cyfleoedd cyffrous ond sydd heb eu defnyddio ddigon i gasglu data o amgylcheddau newydd a phrofi rhagfynegiadau ein model".
Meddai'r Athro Luca Borger o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe, un o'r ymchwilwyr arweiniol:
"Mae symudiadau anifeiliaid yn effeithio ar brosesau'r ecosystem.Mae ymchwil gyfredol yn y maes yn methu mynd i'r afael ag un o'r problemau mwyaf dybryd rydym yn eu hwynebu:rhagfynegi ble a phryd y bydd anifeiliaid yn symud mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym neu'n rhai newydd.Credwn ein bod ar bwynt cyffrous bellach lle gallwn gyflawni trawsnewid hollbwysig yn ein maes, o wyddoniaeth ddisgrifiadol i ragfynegol, y mae galw mawr amdano oherwydd y newid byd-eang sy'n newid yn gyflym".