
Rheolwr Arloesi Agor Adam Fairbank a Swyddog Arloesi Harrison Rees gyda y sebon bwytadwy.
Mae sebon bwytadwy sy'n blasu fel ffa pob ar dost yn y newyddion, gan godi ymwybyddiaeth o dlodi hylendid, gydag ychydig o gymorth gan arbenigedd Prifysgol Abertawe.
Roedd y Goodwash Company sy'n creu nwyddau gofal croen moethus yng Nghymru, gan weithio gyda'r elusen The Hygiene Bank, am greu sebon bwytadwy fel protest yn erbyn sefyllfa sy'n gorfodi pobl i ddewis rhwng bwyta ac ymolchi.
Roedd y Prif Swyddog Gweithredol a'r cyd-sylfaenydd, Mandy Powell, yn gwybod y byddai angen cymorth arni i wireddu'r syniad. Roedd hi wedi clywed am waith Arloesi Agor, prosiect cymorth yn yr Ysgol Reolaeth sydd hefyd yn cysylltu busnesau ag arbenigedd yn y Brifysgol, gan bontio'r bwlch rhwng byd diwydiant a'r gymuned academaidd.
Meddai Harrison Rees, sy’n Swyddog Arloesi gydag Arloesi Agor: "Roedd Mandy wedi clywed bod gennyn ni dîm a fyddai'n gallu gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru ar brosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi a phan gyflwynodd y syniad i ni am y Sebon Bwytadwy, roedden ni'n frwdfrydedd iawn am y prosiect."
"Esboniodd y problemau o ran yr argyfwng tlodi hylendid yn y DU, sy'n golygu nad yw pobl yn gallu fforddio nwyddau ymolchi sylfaenol a bod rhaid iddyn nhw benderfynu a allan nhw fforddio ymolchi neu brynu bwyd."
Yn ôl The Hygiene Bank, mae mwy na 4.2 miliwn o bobl yn y DU ar hyn o bryd yn wynebu'r stigma sy'n gysylltiedig â methu fforddio nwyddau ymolchi sylfaenol.
Y syniad y tu ôl i Sebon Bwytadwy oedd creu cynnyrch ymolchi sy'n blasu fel pryd o fwyd adnabyddus i deuluoedd ond a allai hefyd dynnu sylw at y broblem, codi arian i'r rhai mae'n effeithio arnynt a chreu cyhoeddusrwydd i'r ymgyrch i gael gwared â TAW ar bob cynnyrch hylendid.
Gwnaeth Harrison a Rheolwr Arloesi Agor, Adam Fairbank, wahodd Canolfan Bwyd Cymru i helpu i ddatblygu'r cynnyrch cychwynnol ac i dasgu syniadau a rysetiau yn seiliedig ar gynhwysion sydd ar gael yng ngheginau cartrefi.
Meddai Harrison: "Roedd creu bwyd yn brofiad newydd i Adam a mi, ond roedden ni'n falch o gael prosiect arloesol ac, yn bwysicach, un a fyddai'n cynnig budd cymdeithasol y gallen ni gnoi cil arno ond hefyd ei ddefnyddio i ymolchi."
Meddai Mandy: "Mae creu sebon bwytadwy yn her sylweddol, ond mae'n amlygu'r dewis amhosib y mae miliynau o oedolion yn y DU yn ei wynebu. Mae ein hymgyrch ymwybyddiaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai pobl yn gorfod dewis rhwng bwyta ac ymolchi."
I ddechrau, ystyriodd y tîm amrywiaeth o flasau posib megis bar brecwast gyda cheirch a gwymon, tikka masala cyw iâr, a hyd yn oed crymbl afalau, ond daethant yn ôl dro ar ôl dro i ffa pob ar dost.
Meddai Harrison: "Roedd yn cynnig y blas cyfarwydd digamsyniol byddai teuluoedd ym Mhrydain yn ei adnabod, ac mae'n hyrwyddo neges y sebon drwy ei gysylltiad â phrydau bwyd rhad a hawdd."
Ar ôl i Goodwash berffeithio'r rysáit, crëwyd y Sebon Bwytadwy o fenyn cacao, blawd ceirch organig, olew afocado a phaprica â blas ffa a thost. Mae'r holl elw o'i werthiannau rhithwir yn mynd i The Hygiene Bank.
Ers ei lansio, mae wedi cael ei ddefnyddio mewn bwytai yn Llundain â seren Michelin a'i drafod ar raglenni teledu a radio.
Ychwanegodd Harrison: "Mae potensial i ddefnyddio'r sebon ar gampysau Prifysgol Abertawe hefyd - cadwch lygad amdano."
Dywedodd y bydd y berthynas lwyddiannus â'r cwmni'n parhau: "Ar hyn o bryd, rydyn ni'n archwilio partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth bosib i greu cynhyrchion a systemau pecynnu newydd ac rydyn ni'n gweithio ar geisiadau ar y cyd am grantiau i ariannu prosiectau a fydd o fudd cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.”
Meddai Mandy: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda thimau ymchwil a datblygu Prifysgol Abertawe ar brosiectau eraill sy'n cynnwys gwella cynaliadwyedd a datblygu cynhwysion organig ar gyfer ein cynhyrchion Cymreig."
Nod ymgyrch y Sebon Bwytadwy oedd tynnu sylw at y ffaith bod un o bob 12 oedolyn yn y DU yn gorfod dewis rhwng pryd sylfaenol o fwyd gyda'r hwyr neu ymolchi. Gallwch chi brynu bar o sebon rhithwir am rodd o £15 i'r Hygiene Bank - sef cost flynyddol gyfartalog sebon i un person – a gwneud eich rhan i helpu'r ymgyrch.